bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 14
Luke 14
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 15 →
1
A bu wrth ddyfod o Hono i dŷ rhyw un o bennaethiaid y Pharisheaid ar Sabbath, i fwytta bara, hwythau hefyd oeddynt yn Ei wylied Ef.
2
Ac wele, rhyw ddyn claf o’r dropsi oedd ger Ei fron.
3
A chan atteb, yr Iesu a lefarodd wrth y cyfreithwyr a’r Pharisheaid, gan ddywedyd, Ai cyfreithlawn ar y Sabbath yw iachau, neu beidio?
4
A hwy a dawsant. Ac wedi ei gymmeryd ef, iachaodd ef, a gollyngodd ef ymaith.
5
Ac wrthynt hwy y dywedodd, I ba un o honoch y bydd asyn neu ych yn syrthio i bydew, ac na thyn ef allan yn uniawn ar y dydd Sabbath?
6
Ac ni allent atteb i’r pethau hyn.
7
A dywedodd wrth y gwahoddedigion ddammeg, gan ystyried y modd yr oedd y prif led-orweddleoedd yn cael eu dewis ganddynt,
8
gan ddywedyd wrthynt, Pan wahodder di gan neb i neithior, na led-orwedd yn y prif led-orweddle, rhag ysgatfydd bod un anrhydeddusach na thi wedi ei wahodd ganddo,
9
a dyfod o’r hwn a’th wahoddodd di ac yntau, a dywedyd o hono wrthyt, Dyro le i hwn, ac yna dechreu o honot, gyda chywilydd, gymmeryd y lle isaf.
10
Eithr pan wahodder di, dos a lled-orwedd yn y lle isaf, fel pan ddelo yr hwn a’th wahoddodd, y dywedo wrthyt, Cyfaill, dos i fynu, yn uwch; yna y bydd i ti glod yngwydd pawb sy’n cyd-ledorwedd â thi;
11
canys pob un y sy’n dyrchafu ei hun a ostyngir, a’r hwn sy’n ei ostwng ei hun a ddyrchefir.
12
A dywedodd wrth yr hwn a’i gwahoddasai Ef, Pan wnelych giniaw neu swpper, na alw dy gyfeillion, na’th frodyr, na’th geraint, na chymmydogion goludog, rhag ysgatfydd iddynt hwy hefyd dy wahodd dithau eilchwyl,
13
ac y bo taledigaeth i ti. Eithr pan wnelych wledd, gwahodd dlodion, anafusion, cloffion, deillion, a dedwydd fyddi,
14
canys nid oes ganddynt i dalu yn ol i ti, canys telir yn ol i ti yn adgyfodiad y cyfiawnion.
15
Ac wedi clywed o ryw un o’r rhai yn cyd-ledorwedd y pethau hyn, dywedodd Wrtho, Gwyn ei fyd y neb a fwyttao fara yn nheyrnas Dduw.
16
Ac Efe a ddywedodd wrtho, Rhyw ddyn a wnaeth swpper mawr, a gwahoddodd lawer:
17
a danfonodd ei was bryd swpper i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, Deuwch, canys weithian parod yw’r pethau.
18
A dechreuasant yn un- fryd, bawb ohonynt, ymesgusodi. Y cyntaf a ddywedodd wrtho, Tyddyn a brynais, ac y mae arnaf raid i fyned allan a’i weled; gofynaf i ti fy nghymmeryd yn esgusodol.
19
Ac arall a ddywedodd, Ieuoedd o ychain a brynais, bump o honynt, a myned yr wyf i’w profi; gofynaf i ti fy nghymmeryd yn esgusodol.
20
Ac arall a ddywedodd, Gwraig a briodais, ac am hyny nis gallaf ddyfod.
21
Ac wedi dyfod atto, y gwas a fynegodd i’w arglwydd y pethau hyn. Yna, wedi llidio, gŵr y tŷ a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i lydanfeydd ac heolydd y ddinas, ac y tlodion a’ r anafusion a’ r deillion a’ r cloffion dwg i mewn yma.
22
A dywedodd y gwas, Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchymynaist, ac etto y mae lle.
23
A dywedodd yr arglwydd wrth y gwas, Dos allan i’r ffyrdd a’r corlannau, a chymmell hwynt i ddyfod i mewn fel y gorlenwer fy nhŷ:
24
canys dywedaf wrthych, Ni chaiff yr un o’r gwŷr hyny a wahoddwyd brofi o’m swpper.
25
A chyd-deithiai ag Ef dorfeydd mawrion; a chan droi,
26
dywedodd wrthynt, Os yw neb yn dyfod Attaf, ac heb gasau ei dad a’i fam a’i wraig a’i frodyr a’i chwiorydd ac hefyd ei einioes ef ei hun, ni all fod Fy nisgybl I.
27
Yr hwn na ddycco ei groes, ac sy’n dyfod ar Fy ol, ni all fod Fy nisgybl I.
28
Canys pwy o honoch, yn ewyllysio adeiladu tŵr, nad eistedd yn gyntaf a bwrw’r draul a oes ganddo am ei orpheniad,
29
rhag ysgatfydd, wedi gosod o hono y sail, ac heb allu dyfod ag ef i ben, i bawb a’ i gwelant ddechreu ei watwar ef,
30
gan ddywedyd, Y dyn hwn a ddechreuodd adeiladu, ac ni allai ddyfod ag ef i ben.
31
Neu, pa frenhin yn myned i gyfarfod â brenhin arall er rhyfel, nad eistedda yn gyntaf ac ymgynghori ai abl yw, â deng mil, i wrthwynebu yr hwn, gydag ugain mil, sy’n dyfod yn ei erbyn?
32
Ac os amgen, tra y mae’ r llall ym mhell, cennadwri a ddenfyn efe ac a gyfarch well iddo.
33
Felly, gan hyny, pob un o honoch nad yw’n canu’n iach i’r holl sy’n perthyn iddo, ni all fod Fy nisgybl I.
34
Da, gan hyny, yw’r halen; ond os yr halen hefyd a ddiflasa, â pha beth y cyweirir ef?
35
Nac i’ r tir, nac i’ r dommen, nid yw gymmhwys: allan y taflant ef. Yr hwn sydd a chanddo glustiau i wrando, gwrandawed.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24