bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 10
Luke 10
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 11 →
1
Wedi’r pethau hyn, gosododd yr Arglwydd rai eraill, deg a thrugain; a danfonodd hwynt, bob yn ddau, o flaen Ei wyneb i bob dinas a man lle yr oedd efe ar fedr dyfod:
2
a dywedodd wrthynt, Y cynhauaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwyr yn ychydig: deisyfiwch gan hyny ar Arglwydd y cynhauaf, am ddanfon allan o Hono weithwyr i’w gynhauaf.
3
Ewch: wele, Myfi wyf yn eich danfon fel ŵyn ym mysg bleiddiaid.
4
Na ddygwch gôd, nac ysgrepan, nac esgidiau; ac i neb ar eich ffordd na chyferchwch well.
5
Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, yn gyntaf dywedwch, Tangnefedd i’r tŷ hwn;
6
ac o bydd yno fab tangnefedd, arno y gorphwys eich tangnefedd; ond os amgen, attoch chwi y dychwel.
7
Ac yn y tŷ hwnw arhoswch, gan fwytta ac yfed yr hyn sydd ganddynt, canys teilwng yw i’r gweithiwr ei gyflog: na threiglwch o dŷ i dŷ.
8
Ac i ba ddinas bynnag yr eloch i mewn, ac eich derbyn ganddynt, bwyttewch y pethau a rodder ger eich bronnau;
9
ac iachewch y cleifion y sydd ynddi: a dywedwch wrthynt, Nesau attoch a wnaeth teyrnas Dduw.
10
Ac i ba ddinas bynnag yr eloch i mewn, ac ni’ch derbyniant, wedi myned allan i’w llydanfeydd hi dywedwch,
11
Hyd yn oed y llwch a lynodd o’ch dinas wrth ein traed i ni, ei sychu ymaith i chwi yr ydym: ond hyn gwybyddwch, Nesaodd teyrnas Dduw.
12
Dywedaf wrthych, I Sodom yn y dydd hwnw y bydd yn fwy dioddefadwy nag i’r ddinas honno.
13
Gwae di, Corazin; gwae di, Bethtsaida, canys pe yn Tyrus a Tsidon y gwnaethid y gwyrthiau a wnaethpwyd ynoch, er ys talm, gan eistedd mewn sachlïain a lludw, yr edifarhasent;
14
ond i Tyrus a Tsidon y bydd yn fwy dioddefadwy yn y farn nag i chwi.
15
A thydi, Caphernahwm, ai hyd at y nef y’th ddyrchafwyd?
16
Hyd i uffern y’th dynir i lawr. Yr hwn sydd yn eich gwrando, Myfi a wrendy efe; ac yr hwn sydd yn eich dirmygu, Myfi a ddirmyga efe; ac yr hwn sydd yn Fy nirmygu I, dirmygu yr Hwn a’m danfonodd y mae.
17
A dychwelodd y deg a thrugain gyda llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd hyd yn oed y cythreuliaid a ddarostyngir i ni yn Dy enw.
18
A dywedodd wrthynt, Gwelais Satan, fel mellten, yn syrthio o’r nef.
19
Wele, rhoddais i chwi awdurdod i sathru ar seirph ac ysgorpionau ac ar holl allu y gelyn; ac nid oes dim o gwbl a wna i chwi niweid.
20
Eithr yn hyn na lawenychwch, fod yr ysprydion yn cael eu darostwng i chwi, ond llawenychwch am fod eich enwau wedi eu hysgrifenu yn y nefoedd.
21
Yr awr honno y gorfoleddodd yn yr Yspryd Glân, a dywedodd, Diolchaf i Ti, O Dad, Arglwydd y nef a’r ddaear, am guddio o Honot y pethau hyn oddiwrth ddoethion a rhai deallus, ac y’ u datguddiaist hwynt i rai bychain. Ië, Dad, canys felly y boddlonwyd ger Dy fron.
22
Pob peth a draddodwyd i Mi gan Fy Nhad; ac nid oes neb a ŵyr pwy yw y Mab, oddieithr y Tad; na phwy yw y Tad, oddieithr y Mab, a phwy bynnag y mynno’r Mab Ei ddatguddio Ef iddo.
23
Ac wedi troi at y disgyblion, o’r neilldu y dywedodd, Gwyn fyd y llygaid y sy’n gweled y pethau a welwch,
24
canys dywedaf wrthych, Llawer o brophwydi a brenhinoedd a ewyllysiasant weled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant, a chlywed y pethau a glywch, ac nis clywsant.
25
Ac wele, rhyw gyfreithiwr a gododd, gan Ei demtio Ef, gan ddywedyd, Athraw, wedi gwneuthur pa beth y caf fywyd tragywyddol yn etifeddiaeth?
26
Ac Efe a ddywedodd wrtho, Yn y Gyfraith pa beth sydd ysgrifenedig? Pa fodd y darlleni?
27
Ac efe, gan atteb, a ddywedodd, Ceri Iehofah, dy Dduw, â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth, ac â’th holl feddwl; a’th gymmydog fel ti dy hun.
28
A dywedodd Efe wrtho, Iawn yr attebaist: hyn gwna, a byw fyddi.
29
Ac efe, gan ewyllysio cyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymmydog?
30
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, Rhyw ddyn oedd yn myned i wared o Ierwshalem i Iericho, ac ym mysg lladron y syrthiodd, y rhai wedi ei ddiosg a’i guro, a aethant ymaith, gan ei adael yn hanner-marw.
31
Ac wrth ddamwain rhyw offeiriad oedd yn myned i wared y ffordd honno; ac wedi ei weled ef, aeth o’r tu arall heibio.
32
Ac yr un ffunud Lefiad, wedi dyfod i’r fan, a’i weled ef, aeth o’r tu arall heibio.
33
Ac rhyw Shamariad, wrth ymdaith, a ddaeth cyferbyn ag ef; ac wedi ei weled ef, tosturiodd,
34
ac wedi myned atto, rhwymodd ei archollion ef, gan dywallt arnynt olew a gwin; ac wedi ei osod ef ar ei anifail ei hun, dug ef i’r lletty, ac amgeleddodd ef.
35
A thrannoeth, wedi tynu allan ddwy ddenar, rhoddes hwynt i’r llettywr, a dywedodd, Amgeledda ef, a pha beth bynnag a dreuliech yn ychwaneg, myfi wrth ddychwelyd o honof, a’ i talaf i ti.
36
Pwy o’r tri hyn tybygi di fu gymmydog i’r hwn a syrthiasai ymhlith y lladron?
37
Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef. A dywedodd yr Iesu wrtho, Dos a gwna di yr un ffunud.
38
Ac wrth ymdeithio o honynt Efe a aeth i mewn i ryw bentref; ac rhyw wraig a’i henw Martha a dderbyniodd Ef i’w thŷ.
39
Ac iddi hi yr oedd chwaer a elwid Mair, yr hon hefyd gan eistedd wrth draed yr Arglwydd a wrandawai ar Ei ymadrodd.
40
Ond Martha a ddirdynid ynghylch llawer o wasanaeth; a chan sefyll gerllaw dywedodd, Arglwydd, onid gwaeth Genyt fod fy chwaer wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun i wasanaethu? Dywaid, gan hyny, wrthi am fy nghynnorthwyo.
41
A chan atteb, dywedodd yr Arglwydd wrthi, Martha, Martha, pryderu ac ymdrallodi yr wyt ynghylch llawer o bethau:
42
ond wrth un peth y mae rhaid; canys Mair, y rhan dda a ddewisodd hi, yr hon ni chymmerir ymaith oddi arni.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24