bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 20
Luke 20
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 21 →
1
A bu ar un o’r dyddiau hyn, ac Efe yn dysgu’r bobl yn y deml, ac yn efengylu, daeth Arno yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion ynghyda’r henuriaid,
2
a llefarasant, gan ddywedyd Wrtho, Dywaid wrthym trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn; neu pwy yw’r hwn a roddodd i Ti yr awdurdod hon?
3
A chan atteb, dywedodd wrthynt, Gofyn i chwithau air a wnaf Finnau hefyd,
4
a dywedwch Wrthyf, Bedydd Ioan, ai o’r nef yr ydoedd, neu o ddynion?
5
A hwy a ymresymmasant â’u gilydd gan ddywedyd, Os dywedwn, “O’r nef,” dywaid Efe, Paham na chredasoch ef;
6
ond os dywedwn “O ddynion,” y bobl oll a’n llabyddiant, canys perswadiwyd hwynt yr oedd Ioan yn brophwyd.
7
Ac attebasant, Na wyddent o ba le.
8
A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid wyf Finnau chwaith yn dywedyd wrthych, “trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.”
9
A dechreuodd ddywedyd wrth y bobl y ddammeg hon, Dyn a blannodd winllan, a gosododd hi i lafurwyr, a bu mewn gwlad ddieithr am amser maith.
10
Ac yn yr amser, danfonodd at y llafurwyr was fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan; a’r llafurwyr wedi ei guro, a’i danfonasant ef ymaith yn wag- law.
11
A chwanegodd anfon gwas arall; a hwy, wedi curo hwn hefyd ac ei ammharchu, a’i danfonasant ymaith yn wag- law.
12
A chwanegodd anfon y trydydd; a hwy wedi ei glwyfo ef, a fwriasant hwn hefyd allan.
13
A dywedodd arglwydd y winllan, Pa beth a wnaf? Danfonaf fy mab anwyl; hwyrach mai hwn a barchant.
14
A phan welsant ef, y llafurwyr a ymresymmasant â’u gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw’r etifedd; lladdwn ef, fel y caffom ni yr etifeddiaeth.
15
Ac wedi ei fwrw ef allan o’r winllan, lladdasant ef. Pa beth, gan hyny, a wna arglwydd y winllan iddynt?
16
Daw a difetha y llafurwyr hyn, a rhydd y winllan i eraill. Ac wedi clywed o honynt, dywedasant, Na fydded.
17
Ac Efe, gan edrych arnynt, a ddywedodd, Pa beth, gan hyny, yw hyn a ysgrifenwyd, “Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, Hwn a aeth yn ben i’r gongl.”
18
Pob un a syrthio ar y maen hwnw a ddryllir yn ddarnau; ac ar bwy bynnag y syrthio, chwal ef. A cheisiodd yr ysgrifenyddion a’r archoffeiriaid roddi eu dwylaw Arno yn yr un awr;
19
ac ofnasant y bobl; canys gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd y ddammeg hon:
20
ac wedi gwylied, danfonasant gynllwynwyr yn cymmeryd arnynt eu bod yn gyfiawnion, fel y cymmerent afael yn Ei ymadrodd, i’w draddodi Ef i lywodraeth ac awdurdod y rhaglaw;
21
a gofynasant Iddo, gan ddywedyd, Athraw, gwyddom mai uniawn y dywedi ac y dysgi, ac na dderbyni wyneb, eithr mewn gwirionedd y dysgi ffordd Duw.
22
Ai cyfreithlawn rhoddi o honom deyrnged i Cesar, ai nad yw?
23
A chan ddeall eu cyfrwysdra hwy, dywedodd wrthynt, Dangoswch i Mi ddenar.
24
Delw ac argraph pwy sydd ganddi? A hwy a ddywedasant, Yr eiddo Cesar.
25
Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Gan hyny, telwch bethau Cesar i Cesar, a phethau Duw i Dduw.
26
Ac ni allasant gael gafael yn Ei ymadrodd, ger bron y bobl; a chan ryfeddu wrth Ei atteb tawsant.
27
Ac wedi dyfod Atto, rhai o’r Tsadwceaid, y rhai a ddywedant nad oes adgyfodiad,
28
a ofynasant Iddo, gan ddywedyd, Athraw, Mosheh a ysgrifenodd i ni, Os bydd brawd rhyw un wedi marw, a chanddo wraig, ac yntau yn ddiblant, ar gymmeryd o’i frawd ef y wraig, a chodi had i’w frawd.
29
Saith brawd, ynte, oedd; ac y cyntaf, wedi cymmeryd gwraig,
30
a fu farw yn ddiblant, ac yr ail, a’r trydydd a’i cymmerodd hi;
31
ac yr un ffunud y saith ni adawsant blant, ac a fuant feirw.
32
Ac ar ol hyny y bu farw y wraig hefyd.
33
Yn yr adgyfodiad, gan hyny, i ba un o honynt y bydd hi yn wraig, canys y saith a’i cawsant hi yn wraig?
34
Ac wrthynt y dywedodd yr Iesu, Meibion y byd hwn a briodant ac a roddir i’w priodi;
35
ond y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael y byd hwnw a’r adgyfodiad o feirw, nid ydynt nac yn priodi nac eu rhoddi i’w priodi;
36
canys hyd yn oed marw mwy nis gallant, canys cyd-stad â’r angylion ydynt, a meibion Duw ydynt, gan fod yn feibion yr adgyfodiad.
37
Ond y cyfodir y meirw, Mosheh hefyd a hyspysodd yn “Y Berth,” pan eilw Iehofah “Duw Abraham, a Duw Itsaac, a Duw Iacob;”
38
a Duw, nid Duw meirwon yw, eithr y rhai byw, canys pawb o honom, Ynddo Ef yr ydym yn byw.
39
A chan atteb, rhai o’r ysgrifenyddion a ddywedasant, Athraw, da y dywedaist;
40
canys ni feiddient mwy ofyn dim Iddo.
41
A dywedodd wrthynt, Pa fodd y dywedant fod y Crist yn Fab Dafydd?
42
canys Dafydd ei hun a ddywaid yn Llyfr y Psalmau, “Dywedodd Iehofah wrth fy Arglwydd, Eistedd ar Fy neheulaw,
43
Hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i’th draed,”
44
Dafydd, gan hyny, “Arglwydd” a eilw efe Ef, a pha fodd mai mab iddo yw?
45
Ac wrth glywed o’r holl bobl, dywedodd wrth Ei ddisgyblion,
46
Cymmerwch ofal rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn gwisgoedd llaesion, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a’r prif-gadeiriau yn y sunagogau,
47
a’r prif led-orweddleoedd yn y swpperau, y rhai a lwyr-fwyttant dai y gwragedd gweddwon, ac er rhith y hir-weddïant. Y rhai hyn a dderbyniant gondemniad gorlawnach.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24