bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 16
Luke 16
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 17 →
1
A dywedodd wrth ei ddisgyblion, Yr oedd rhyw ddyn goludog, yr hwn oedd a chanddo ddisdain: a hwn a gyhuddwyd wrtho megis yn gwasgaru ei feddiannau ef.
2
Ac wedi ei alw ef, dywedodd wrtho, Pa beth yw hyn a glywaf am danat? Dyro gyfrif o’th ddisdeiniaeth, canys ni elli fod mwy yn ddisdain.
3
Ac ynddo ei hun y dywedodd y distain, Pa beth a wnaf gan fod fy arglwydd yn dwyn y ddisdeiniaeth oddi arnaf? Cloddio ni allaf; cardotta sydd gywilyddus genyf.
4
Gwn pa beth a wnaf, fel pan y’m symmudir o’r ddisdeiniaeth, y derbyniont fi i’w tai.
5
Ac wedi galw atto bob un o ddyledwyr ei arglwydd, dywedodd wrth y cyntaf. Pa faint sydd arnat i’m harglwydd? Ac efe a ddywedodd, Can bath o olew.
6
Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer dy ysgrifen di, a chan eistedd, ar frys ysgrifena, “Deg a deugain.”
7
Gwedi’n wrth un arall y dywedodd, A thydi, pa faint sydd arnat? Ac efe a ddywedodd, Can cor o wenith. Dywedodd wrtho, Cymmer dy ysgrifen di, ac ysgrifena, “Pedwar ugain.”
8
A chanmolodd yr arglwydd y distain anghyfiawn mai yn gall y gwnelsai; canys meibion y byd hwn ydynt gallach na meibion y goleuni, am eu cenhedlaeth.
9
Ac Myfi, wrthych y dywedaf, Gwnewch i’ch hunain gyfeillion o’r mammon anghyfiawn, fel pan ddiffygio, y derbyniont chwi i’r tragywyddol bebyll.
10
Y ffyddlawn yn y lleiaf, mewn llawer hefyd ffyddlawn yw; a’r hwn yn y lleiaf yn anghyfiawn, mewn llawer hefyd anghyfiawn yw.
11
Os, gan hyny, yn y mammon anghyfiawn nad oeddych ffyddlawn, pwy a ymddiried i chwi y gwir olud?
12
Ac os yn yr eiddo arall nad oeddych ffyddlawn, pwy a rydd i chwi yr eiddoch eich hun?
13
Nid oes gwas a ddichon wasanaethu dau arglwydd, canys un ai y naill a gasa ac y llall a gâr efe, neu wrth y naill yr ymlyn ac y llall a ddirmyga efe; ni ellwch wasanaethu Duw a mammon.
14
A chlywed y pethau hyn oll yr oedd y Pharisheaid, a hwy yn ariangar, a gwatwarasant Ef.
15
A dywedodd wrthynt, Chwychwi yw y rhai yn cyfiawnhau eich hunain ger bron dynion, ond Duw a ŵyr eich calonnau; canys yr hyn y sydd ymhlith dynion yn uchel, ffiaidd yw ger bron Duw.
16
Y Gyfraith a’r Prophwydi, hyd Ioan yr oeddynt; er y pryd hwnw, teyrnas Dduw a efengylir, ac i mewn iddi hi y mae pob dyn yn ymwthio;
17
ac haws yw myned o’r nef a’r ddaear heibio nag i un tipyn o’r Gyfraith syrthio.
18
Pob un y sy’n gollwng ymaith ei wraig, ac yn priodi un arall, godinebu y mae; a’r hwn a briodo un a ollyngwyd ymaith oddi wrth ŵr, godinebu y mae.
19
Yr oedd rhyw ddyn goludog, ac ymwisgai â phorphor a lliain main, yn ymhyfrydu beunydd yn ysplenydd.
20
Ac rhyw ddyn tlawd, a’i enw Lazarus, a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd,
21
ac yn chwennychu cael ei borthi â’r pethau a syrthient oddi ar fwrdd y dyn goludog; ond hyd yn oed y cwn a ddaethant ac a lyfasant ei gornwydydd ef.
22
A bu i’r dyn tlawd farw, a’i ddwyn ymaith gan yr angylion i fynwes Abraham: a bu farw hefyd y goludog, a claddwyd ef.
23
Ac yn Hades gan godi ei lygaid, ac yntau mewn arteithiau, gwelai Abraham o hirbell a Lazarus yn ei fynwes.
24
Ac efe, gan lefain, a ddywedodd, O Dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfon Lazarus i drochi pen ei fys mewn dwfr, ac i oeri fy nhafod, canys poenir fi yn y fflam hon.
25
A dywedodd Abraham, Fy mhlentyn, cofia y derbyniaist dy bethau da yn dy fywyd; a Lazarus, yr un ffunud, y pethau drwg; ond yn awr y diddenir ef, a thydi a boenir.
26
Ac heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwi, gagendor mawr a sicrhawyd, fel y bo i’r rhai a ewyllysiant dramwy oddi yma attoch, fod heb y gallu; ac oddi yna attom ni na chroesont.
27
A dywedodd, Gofynaf, gan hyny, i ti ei ddanfon ef i dŷ fy nhad,
28
canys y mae i mi bump o frodyr, fel y tystiolaetho iddynt, rhag iddynt hwy hefyd ddyfod i’r lle hwn o artaith.
29
A dywedodd Abraham, y mae ganddynt Mosheh a’r Prophwydi, gwrandawant arnynt hwy.
30
Ac efe a ddywedodd, Nage, y tad Abraham, eithr os rhyw un oddi wrth y meirw a aiff attynt, edifarhant.
31
A dywedodd Abraham wrtho, Os ar Mosheh a’r Prophwydi na wrandawant, hyd yn oed ped o feirw y cyfodai rhyw un ni pherswadir mo honynt.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24