bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 13
Luke 13
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 14 →
1
Ac yr oedd yn bresennol, yr un amser hwnw, rai yn mynegi Iddo am y Galileaid, gwaed y rhai a gymmysgodd Pilat ynghyda’u haberthau.
2
A chan atteb, dywedodd wrthynt, A dybygwch chwi yr oedd y Galileaid hyn yn bechaduriaid rhagor yr holl Galileaid am mai y pethau hyn a ddioddefasant?
3
Nac oeddynt, meddaf i chwi; eithr onid edifarhewch, yr oll o honoch a ddifethir yr un ffunud.
4
Neu’r deunaw hyny, ar y rhai y syrthiodd y tŵr yn Shiloam, ac a’u lladdodd, a dybygwch chwi yr oeddynt hwy yn
5
bechaduriaid rhagor yr holl ddynion yn cyfanneddu yn Ierwshalem? Nac oeddynt, meddaf i chwi; eithr onid edifarhewch, yr oll o honoch a ddifethir yn yr un modd.
6
A dywedodd y ddammeg hon, Ffigysbren oedd gan ryw un, wedi ei blannu yn ei winllan; a daeth gan geisio ffrwyth arno, ac ni chafodd;
7
a dywedodd wrth y gwinllanydd, Wele, tair blynedd sydd er’s dyfod o honof gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn, ac nid wyf yn cael dim: tor ef i lawr, paham y gwneir y tir hefyd yn ddirym ganddo?
8
Ac efe, gan atteb, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gâd ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni chloddiwyf o’i amgylch,
9
a bwrw tail: ac os dwg efe ffrwyth o hyn allan—; onite, tor ef i lawr.
10
Ac yr oedd Efe yn dysgu yn un o’r sunagogau ar y Sabbath.
11
Ac wele, gwraig a chanddi yspryd yn gwanhau ddeunaw mlynedd, ac oedd wedi cyd-grymmu, ac heb allu ymsythu mewn modd yn y byd.
12
A phan welodd Efe hi, yr Iesu a’i galwodd Atto, a dywedodd wrthi, Ha wraig,
13
gollyngwyd di yn rhydd oddiwrth dy wendid; a rhoddes arni Ei ddwylaw; ac yn y fan yr uniawnwyd hi, a gogoneddodd Dduw.
14
A chan atteb, yr archsunagogydd, yn sorri am mai ar y Sabbath yr iachaodd yr Iesu, a ddywedodd wrth y dyrfa, Chwe diwrnod sydd yn y rhai y mae rhaid gweithio; ynddynt hwy, gan hyny, deuwch ac iachaer chwi, ac nid ar ddydd y Sabbath.
15
Ac iddo yr attebodd yr Arglwydd, a dywedodd, Rhagrithwyr, onid yw pob un o honoch ar y Sabbath yn gollwng ei ŷch neu ei asyn o’r preseb, a chan ei arwain ymaith, yn ei ddiodi ef?
16
A hon, merch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele, ddeunaw mlynedd, onid oedd rhaid ei gollwng o’r rhwym hwn ar ddydd y Sabbath?
17
Ac Efe yn dywedyd y pethau hyn, cywilyddiwyd ei holl wrthwynebwyr, a’r holl dyrfa a lawenychodd am yr holl bethau gogoneddus a wnaid Ganddo.
18
Dywedodd, gan hyny, I ba beth y mae teyrnas Dduw yn gyffelyb?
19
Ac i ba beth y cyffelybaf hi? Cyffelyb yw i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn ac a’i hauodd yn ei ardd; a chynnyddodd efe ac aeth yn bren, ac ehediaid y nef a lettyasant yn ei ganghennau ef.
20
A thrachefn y dywedodd, I ba beth y cyffelybaf deyrnas Dduw?
21
Cyffelyb yw i surdoes a gymmerodd gwraig, ac a’i cuddiodd mewn tri seah o flawd, hyd oni surodd y cwbl.
22
A thramwyodd trwy ddinasoedd a phentrefi, gan ddysgu ac ymdeithio i Ierwshalem.
23
A dywedodd rhyw un Wrtho, Arglwydd, ai ychydig yw y rhai sy’n cael eu cadw?
24
Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Ymdrechwch i fyned i mewn trwy’r porth cyfyng; canys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn ac ni fyddant yn abl.
25
Pan ddarffo i ŵr y tŷ gyfodi, a chau’r drws, A dechreu o honoch sefyll oddi allan a churo’r drws, Gan ddywedyd, Arglwydd, agor i ni, A chan atteb y dywaid wrthych, Nid adwain chwi, o ba le yr ydych.
26
Yna y dechreuwch ddweud, Bwyttasom yn Dy wydd Di, ac yfasom, Ac yn ein llydanfeydd y dysgaist.
27
A dywaid Efe, Dywedaf wrthych, Nis gwn o ba le yr ydych, Ewch ymaith Oddiwrthyf, yr holl weithwyr anghyfiawnder.
28
Yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd, Pan weloch Abraham ac Itsaac ac Iacob, A’r holl brophwydi, yn nheyrnas Dduw, A chwychwi yn cael eich bwrw allan.
29
A deuant o’r dwyrain a’r gorllewin, Ac o’r gogledd a’r dehau, A lled-orweddant yn nheyrnas Dduw.
30
Ac wele, olaf yw’r rhai a fyddant flaenaf, A blaenaf yw’r rhai a fyddant olaf.
31
Yr awr honno daeth Atto rai o’r Pharisheaid, gan ddywedyd Wrtho, Dos allan a cherdda oddiyma, canys Herod a ewyllysia Dy ladd Di.
32
A dywedodd wrthynt, Ewch a dywedwch wrth y cadnaw hwnw, Wele, bwrw allan gythreuliaid yr wyf, ac iachadau a wnaf, heddyw ac y foru, a’r trydydd dydd y’m perffeithir.
33
Eithr rhaid sydd i Mi heddyw, ac y foru, a thrennydd, fod ar Fy nhaith, canys ni all fod i brophwyd ei gyfrgolli tu allan i Ierwshalem,
34
Ierwshalem, Ierwshalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi, Ac yn llabyddio y rhai a ddanfonwyd attat, Pa sawl gwaith y mynnwn gasglu ynghyd dy blant, Yn y modd y cydgasgl giar ei chywion dan ei hadennydd, ac ni fynnech!
35
Wele, gadewir i chwi eich tŷ; a dywedaf wrthych, Myfi ni welwch ddim nes dweud o honoch, Bendigedig yw’r Hwn sy’n dyfod yn Enw’r Arglwydd.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24