bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 3
Luke 3
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 4 →
1
Ac yn y bymthegfed flwyddyn o ymherodraeth Tiberius Cesar, Pontius Pilat yn rhaglaw Iwdea, a Herod yn detrarch a Philip ei frawd yn detrarch Itwrea a gwlad Trachonitis,
2
a Lusanius yn detrarch Abilene, yn amser yr archoffeiriaid Chanan a Caiaphas, daeth gair Duw at Ioan fab Zacariah yn yr anialwch.
3
A daeth Efe i’r holl oror ynghylch yr Iorddonen, gan bregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau,
4
fel yr ysgrifenwyd yn llyfr geiriau Eshaiah y prophwyd, “Llef un yn llefain Yn yr anialwch parottowch ffordd Iehofah, Gwnewch yn uniawn Ei lwybrau Ef.
5
Pob pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, A bydd y gŵyr-geimion yn uniawn, a’r geirwon yn ffyrdd gwastad;
6
A gwel pob cnawd iachawdwriaeth Duw.”
7
Dywedodd, gan hyny, wrth y torfeydd oedd yn dyfod allan i’w bedyddio ganddo, Eppil gwiberod, pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd?
8
Dygwch, gan hyny, ffrwythau teilwng o edifeirwch, ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Megis tad y mae genym Abraham, canys dywedaf wrthych, Abl yw Duw o’r cerrig hyn i godi plant i Abraham.
9
Ac eisoes hefyd y fwyall a osodwyd at wreiddyn y preniau: pob pren, gan hyny, nad yw’n dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac i’ r tân y’i bwrir.
10
Ac ymofynodd y torfeydd ag ef, gan ddywedyd, Pa beth, gan hyny, a wnawn ni?
11
A chan atteb, dywedodd wrthynt, Yr hwn sydd a chanddo ddwy bais, cyfranned â’r hwn nad oes ganddo; a’r hwn sydd a chanddo fwyd, yn y cyffelyb fodd gwnaed efe.
12
A daeth hefyd dreth-gymmerwyr i’w bedyddio, a dywedasant wrtho, Athraw, pa beth a wnawn?
13
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ddim mwy na’r hyn a osodwyd i chwi, na ddirgeisiwch.
14
Ac ymofyn ag ef a wnaeth y rhai yn milwrio, gan ddywedyd, Pa beth a wnawn ninnau hefyd? A dywedodd wrthynt, Na fyddwch draws wrth neb, ac na cham-achwynwch: a byddwch foddlawn i’ch cyflogau.
15
Ac wrth ddisgwyl o’r bobl, ac ymresymmu, bawb o honynt yn eu calonnau am Ioan, ai efe, ysgatfydd, oedd y Crist,
16
attebodd Ioan i bawb o honynt, gan ddywedyd, Myfi, yn wir, â dwfr yr wyf yn eich bedyddio chwi, ond dyfod y mae un cryfach na myfi, i’r Hwn nid wyf deilwng i ddattod carrai Ei esgidiau.
17
Efe a’ch bedyddia chwi â’r Yspryd Glân ac â thân: gwyntyll yr Hwn sydd yn Ei law i lwyr-lanhau Ei lawr-dynu, ac i gasglu’r gwenith i’w ysgubor; ond yr ûs a lwyr-lysg Efe â thân anniffoddadwy.
18
A llawer o bethau eraill yn wir, gan eu cynghon hwynt, a efengylodd efe iddynt:
19
a Herod y tetrarch, wedi ei argyhoeddi ganddo am Herodias, gwraig ei frawd,
20
ac am yr holl bethau drwg a wnaethai Herod, a chwanegodd hyn hefyd at y cwbl, sef cau o hono Ioan yngharchar.
21
A bu, pan fedyddiasid yr holl bobl, ac yr Iesu wedi Ei fedyddio ac yn gweddïo,
22
yr agorwyd y nef, a disgynodd yr Yspryd Glân mewn rhith corphorol, fel colommen, Arno; a llais o’r nef a ddaeth, Tydi yw Fy Mab anwyl, Ynot Ti y’m boddlonwyd.
23
A’r Iesu Ei Hun, wrth ddechreu, oedd ynghylch deng mlwydd ar ugain oed, mab (fel y tybid) i Ioseph fab Eli,
24
fab Matthat, fab Lefi, fab Melci, fab Ianna, fab Ioseph,
25
fab Mattathias, fab Amots, fab Naum, fab Esli, fab Naggai,
26
fab, Maath, fab Mattathias, fab Shemei, fab Ioseph,
27
fab Iwda, fab Ioanna, fab Rhesa, fab Zorobabel, fab Shalathiel,
28
fab Neri, fab Melci, fab Adi, fab Cosam, fab Elmodam,
29
fab Er, fab Iose, fab Eliezer, fab Iorim, fab Matthat,
30
fab Lefi, fab Shimeon, fab Iwda, fab Ioseph, fab Ionan,
31
fab Eliacim, fab Melea, fab Mainan, fab Mattatha,
32
fab Nathan, fab Dafydd, fab Ieshe, fab Obed, fab Booz,
33
fab Salmon, fab Naashon, fab Aminadab, fab Aram, fab Etsron,
34
fab Pharets, fab Iwda, fab Iacob, fab Itsaac, fab Abraham,
35
fab Thara, fab Nachor, fab Sarwg, fab Ragan,
36
fab Phalec, fab Heber, fab Shala, fab Cainan, fab Arphacshad,
37
fab Shem, fab Noe, fab Lamec, fab Methwshala, fab Enoc,
38
fab Iared, fab Maleleel, fab Cain, fab Enosh, fab Sheth, fab Adam, fab Duw.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24