bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 24
Luke 24
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
1
Ac ar y Sabbath y buant lonydd yn ol y gorchymyn; ond ar y dydd cyntaf o’r wythnos, y wawr yn blygeiniol iawn, daethant at y bedd, gan ddwyn gyda hwynt y per-aroglau a barottoisent;
2
a chawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddiwrth y bedd;
3
ac wedi myned i mewn ni chawsant gorph yr Arglwydd Iesu.
4
A bu pan ddyrysid hwy am hyn, wele dau ŵr a safent yn eu hymyl mewn gwisg felltenaidd;
5
ac a hwy wedi eu brawychu, ac yn gogwyddo eu hwynebau tua’r ddaear, dywedasant wrthynt, Paham y ceisiwch yr Hwn sydd fyw ym mysg y meirw?
6
Nid yw Efe yma, eithr cyfododd. Cofiwch pa fodd y llefarodd wrthych,
7
ac Efe etto yn Galilea, gan ddywedyd fod i Fab y Dyn raid Ei draddodi i ddwylaw dynion pechadurus, ac Ei groes-hoelio, ac, ar y trydydd dydd, adgyfodi.
8
A chofiasant Ei ymadroddion; ac wedi dychwelyd oddiwrth y bedd,
9
mynegasant y pethau hyn oll i’r un ar ddeg ac i’r lleill oll.
10
A Mair Magdalen ac Ioanna a Mair, mam Iago, a’r lleill gyda hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion;
11
ac yn eu golwg hwynt fel gwegi yr edrychai’r ymadroddion hyn, ac anghoelient hwynt.
12
Ond Petr, wedi codi, a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymmu gwelodd y llieiniau yn unig, ac aeth ymaith gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddigwyddasai.
13
Ac wele dau o honynt, yr un dydd, oeddynt yn myned i bentref ynghylch trugain ystad oddiwrth Ierwshalem, o’r enw Emmaws;
14
a hwy a ymddiddanent â’u gilydd am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent;
15
a bu wrth ymddiddan a chwestiynu o honynt, yr Iesu Ei Hun hefyd, wedi nesau,
16
oedd yn myned gyda hwynt; ond eu llygaid a attaliwyd fel nad adwaenent Ef;
17
a dywedodd wrthynt, Pa beth yw’r geiriau hyn a fwriwch at eich gilydd dan rodio? A safasant, yn wyneb-drist.
18
A chan atteb, un o honynt a’i enw Cleophas, a ddywedodd Wrtho, A wyt ti yn aros ar dy ben dy hun yn Ierwshalem ac heb wybod y pethau a ddigwyddasant ynddi yn y dyddiau hyn?
19
A dywedodd wrthynt, Pa bethau? A hwy a ddywedasant Wrtho, Y pethau ynghylch Iesu y Natsaread, yr Hwn oedd brophwyd galluog mewn gweithred a gair gerbron Duw a’r holl bobl;
20
a’r modd y traddododd yr archoffeiriaid a’n llywodraethwyr ni Ef i gondemniad marwolaeth, ac y’i croes-hoeliasant Ef.
21
Ond nyni a obeithiem mai Efe oedd yr Hwn ar fedr gwaredu’r Israel. Eithr hefyd ynghyda’r holl bethau hyn, y trydydd dydd yw er pan fu i’r pethau hyn ddigwydd.
22
Eithr hefyd rhai gwragedd, o honom ni, a barasant syndod i ni, wedi bod ynghyda’r wawr wrth y bedd: a chan na chawsant Ei gorph,
23
daethant gan ddywedyd mai gweledigaeth o angylion a welsent, y rhai a ddywedasant Ei fod yn fyw.
24
Ac aeth rhai o’r rhai oeddynt gyda ni, at y bedd, a chawsant felly, fel y bu i’r gwragedd ddweud; ond Ef ni chawsant.
25
Ac Efe a ddywedodd wrthynt, O rai difeddwl a rhy hwyr-frydig o galon i gredu’r holl bethau a lefarodd y prophwydi.
26
Onid y pethau hyn yr oedd rhaid i Grist eu dioddef, a myned o Hono i mewn i’w ogoniant?
27
A chan ddechreu ar Mosheh a’r holl Brophwydi, dehonglodd iddynt, yn yr holl Ysgrythyrau, y pethau am Dano Ei Hun.
28
A nesasant at y pentref lle yr aent; ac Efe a gymmerth Arno mai pellach yr elai.
29
A chymhellasant Ef, gan ddywedyd, Aros gyda ni, canys hwyrhau y mae, ac ar ddarfod weithian y mae’r dydd: ac aeth i mewn i aros gyda hwynt.
30
A bu, wrth led-orwedd o Hono gyda hwynt, wedi cymmeryd bara y bendithiodd, ac wedi torri y rhannodd;
31
a’u llygaid hwy a agorwyd, ac adnabuant Ef: ac Efe a ddiflannodd oddiwrthynt.
32
A dywedasant wrth eu gilydd, Onid oedd y’n calon yn llosgi ynom, tra y llefarai wrthym ar y ffordd, a thra yr agorai i ni yr Ysgrythyrau?
33
Ac wedi codi, yr un awr y dychwelasant i Ierwshalem, a chawsant yr un ar ddeg wedi ymgasglu ynghyd, a’r rhai oedd gyda hwynt,
34
yn dywedyd, Yn wir, cyfododd yr Arglwydd, ac ymddangosodd i Shimon.
35
A hwythau a fynegasant y pethau ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth dorriad y bara.
36
Ac a hwy yn llefaru y pethau hyn, Efe a safodd yn eu canol, a dywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi.
37
Ac wedi brawychu, a myned yn ddychrynedig, tybiasant mai yspryd a welent;
38
a dywedodd wrthynt, Paham y’ch trallodwyd? A phaham y mae ymresymmiadau yn codi yn eich calonnau?
39
Gwelwch Fy nwylaw ac Fy nhraed, mai Myfi Fy Hun yw. Teimlwch Fi, a gwelwch, canys yspryd nid yw a chanddo gnawd ac esgyrn.
40
Ac wedi dywedyd hyn, dangosodd iddynt Ei ddwylaw ac Ei draed.
41
A hwy etto yn anghoelio gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, dywedodd wrthynt, A oes genych yma beth i’w fwytta?
42
A hwy a roisant Iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio;
43
ac wedi ei gymmeryd ef, yn eu gwydd y bwyttaodd.
44
A dywedodd wrthynt, Y rhai hyn yw Fy ngeiriau, y rhai a leferais wrthych tra etto ynghyda chwi, fod rhaid eu cyflawni o’r holl bethau a ’sgrifenwyd yn Nghyfraith Mosheh a’r Prophwydi a’r Psalmau am Danaf.
45
Yna yr agorodd eu deall, fel y deallent yr Ysgrythyrau;
46
a dywedodd wrthynt, Felly yr ysgrifenwyd, ddioddef o Grist, a chyfodi o feirw y trydydd dydd,
47
ac y pregethid yn Ei enw edifeirwch a maddeuant pechodau, i’r holl genhedloedd, gan ddechreu ag Ierwshalem.
48
Chwychwi ydych dystion o’r pethau hyn: ac wele,
49
Myfi wyf yn danfon allan addewid Fy Nhad arnoch. A chwychwi, arhoswch yn y ddinas hyd oni wisger chwi, o’r uchelder, â gallu.
50
Ac arweiniodd hwynt allan hyd at Bethania; ac wedi codi Ei ddwylaw, bendithiodd hwynt.
51
A bu, wrth fendithio o Hono hwynt, didolwyd Ef oddiwrthynt, ac y’i dygpwyd i fynu i’r nef;
52
a hwy, wedi Ei addoli Ef, a ddychwelasant i Ierwshalem gyda llawenydd mawr;
53
ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moliannu Duw.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24