bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 12
Luke 12
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 13 →
1
Ac ymysg y pethau hyn, wedi ymgasglu ynghyd o fyrddiynau o’r dyrfa fel y sathrent y naill y llall, dechreuodd ddywedyd wrth Ei ddisgyblion, Yn gyntaf, ymogelwch rhag surdoes y Pharisheaid, yr hwn yw rhagrith.
2
Ond nid oes dim wedi ei orchuddio, na ddatguddir; nac yn guddiedig, na wneir yn hysbys.
3
Gan hyny, pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, yn y goleuni y clywir hwynt; a’r hyn a lefarasoch yn y glust yn yr ystafelloedd, cyhoeddir ef ar bennau’r tai.
4
A dywedaf wrthych chwi, Fy nghyfeillion, Nac ofnwch rhag y rhai sy’n lladd y corph, ac wedi hyny heb ganddynt ddim ychwaneg i’w wneuthur.
5
Ond dangosaf i chwi pwy a ofnwch; ofnwch yr Hwn, ar ol y lladd, sydd a Chanddo awdurdod i fwrw i Gehenna; ïe, meddaf i chwi, Hwnw ofnwch,
6
Onid yw pump aderyn y tô yn cael eu gwerthu er dwy ffyrling; ac nid oes un o honynt wedi ei anghofio ger bron Duw.
7
Eithr hyd yn oed gwallt eich pennau sydd oll yn gyfrifedig. Nac ofnwch, ar lawer o adar y tô yr ydych yn rhagori.
8
A dywedaf wrthych, Pob un a’m haddefo I ger bron dynion, Mab y Dyn hefyd a’i haddef ef ger bron angylion Duw:
9
A’r hwn a’m gwado yngwydd dynion, A wedir yngwydd angylion Duw.
10
A phob un a ddywaid air yn erbyn Mab y Dyn, maddeuir iddo; Ond i’r hwn a gablodd yn erbyn yr Yspryd Glân, ni faddeuir.
11
A phan ddygont chwi o flaen y sunagogau a’r llywiawdwyr a’r awdurdodau, na phryderwch pa fodd nac â pha beth yr amddiffynoch eich hunain, na pha beth a ddywedoch,
12
canys yr Yspryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno y pethau y mae rhaid eu dywedyd.
13
A dywedodd rhyw un allan o’r dyrfa Wrtho, Athraw, dywaid wrth fy mrawd am rannu â mi yr etifeddiaeth.
14
Ac Efe a ddywedodd wrtho, Y dyn, pwy a’m gosododd I yn farnwr neu yn rhannwr arnoch?
15
A dywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymgedwch rhag pob cybydd-dod; canys nid yn ei orlawnder y mae i neb ei fywyd, oddiwrth ei feddiannau.
16
A dywedodd ddammeg wrthynt, gan ddywedyd, I ryw ddyn goludog y cnydiodd ei dir yn dda:
17
ac ymresymmodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Pa beth a wnaf, canys nid oes genyf le i gasglu fy ffrwythau ynghyd?
18
A dywedodd, Hyn a wnaf; tynnaf i lawr fy ysguboriau i, ac rhai mwy a adeiladaf, a chasglaf ynghyd yno fy holl ŷd a’m da;
19
a dywedaf wrth fy enaid, Enaid, y mae genyt lawer o dda wedi ei roi i gadw am flynyddoedd lawer; ymorphwys, bwytta, yf, ymhyfryda.
20
Ond dywedodd Duw wrtho, O ynfyd, y nos hon, dy enaid a ofynant oddiwrthyt; a’r pethau a barottoaist, eiddo pwy fyddant?
21
Felly y mae ’r hwn sydd yn trysori iddo ei hun, ac heb fod yn oludog tuag at Dduw.
22
A dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Am hyn y dywedaf wrthych, na phryderwch am eich einioes, beth a fwyttaoch;
23
nac am eich corph, beth a wisgoch; canys yr einioes, mwy yw na’r ymborth, a’r corph na’r dillad.
24
Ystyriwch y brain, nad ŷnt yn hau nac yn medi, i’r rhai nid oes ystordy nac ysgubor, a Duw a’u portha. Pa faint mwy yr ydych chwi yn well na’r ehediaid?
25
A phwy o honoch, gan bryderu, a ddichon ychwanegu at ei faintioli gufydd?
26
Os, gan hyny, y peth lleiaf na ellwch ei wneud, paham am y lleill y pryderwch?
27
Ystyriwch y lili, y modd y tyfant: ni lafuriant, ac ni nyddant ddim; a dywedaf wrthych, Nid oedd hyd yn oed Shalomon, yn ei holl ogoniant, wedi ymwisgo fel un o’r rhai hyn.
28
Ac os y llysieuyn yn y maes, yr hwn sydd heddyw, ac y foru i’r ffwrn y’i teflir, y mae Duw fel hyn yn ei ddilladu, pa faint mwy y dillada Efe chwi, O rai o ychydig ffydd?
29
A chwychwi, na cheisiwch pa beth a fwyttaoch, a pha beth a yfoch; ac na fyddwch amheus;
30
canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu ceisio; ac eich Tad chwi a ŵyr fod arnoch eisiau y pethau hyn:
31
eithr ceisiwch Ei deyrnas Ef, a’r pethau hyn a roddir attoch.
32
Nac ofna, braidd bychan, canys rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi y deyrnas.
33
Gwerthwch eich meddiannau, a rhoddwch elusen. Gwnewch i’ch hunain byrsau na heneiddiant, trysor na dderfydd yn y nefoedd, y lle nad yw lleidr yn nesau atto, na phryf yn llygru;
34
canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd.
35
Bydded eich lwynau chwi wedi eu hamwregysu, a’ch llusernau yn llosgi,
36
a chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o’r neithior, fel wedi dyfod o hono a churo, y bo iddynt yn uniawn agor iddo.
37
Gwyn eu byd y gweision hyny y rhai y bydd yr arglwydd ar ei ddyfodiad yn cael yn neffro; yn wir y dywedaf wrthych, Ymwregysa efe, a phar iddynt led-orwedd, a chan ddyfod y gwasanaetha arnynt.
38
Ac os yn yr ail, ac os yn y drydedd wyliadwriaeth y delo, ac eu caffo felly, gwyn eu byd y gweision hyny.
39
A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa awr yr oedd y lleidr ar ddyfod, effro fuasai, ac ni adawsai i’w dŷ gael ei gloddio trwodd.
40
A chwithau, byddwch barod, canys yr awr na thybiwch y mae Mab y Dyn yn dyfod.
41
A dywedodd Petr, Arglwydd, Ai wrthym ni y dywedi y ddammeg hon, neu wrth bawb hefyd?
42
A dywedodd yr Arglwydd, Pwy, gan hyny, yw’r distain ffyddlawn, y pwyllog, yr hwn a esyd yr arglwydd ar ei deulu, i roddi eu cyfluniaeth yn ei bryd?
43
Gwyn ei fyd y gwas hwnw, yr hwn, ar ei ddyfodiad, y bydd i’w arglwydd ei gael yn gwneuthur felly.
44
Yn wir y dywedaf wrthych, Ar y cwbl y sydd eiddo y gesyd ef.
45
Ond os dywaid y gwas hwnw yn ei galon, Oedi dyfod y mae fy arglwydd, a dechreu curo y gweision a’r morwynion, a bwytta ac yfed a meddwi,
46
daw arglwydd y gwas hwnw mewn dydd na ddisgwyl efe, ac ar awr na ŵyr efe, ac ei dorri ef ar wahan a wna efe, a’i ran ef a esyd efe ynghyda’r anffyddloniaid.
47
A’r gwas hwnw, yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd ac ni pharottôdd na gwneuthur yn ol ei ewyllys ef, a gurir â llawer ffonnod;
48
ond yr hwn na wybu, ond a wnaeth bethau yn haeddu ffonnodiau, a gurir ag ychydig ffonnodiau; a phob un i’r hwn y rhoddwyd llawer, llawer a geisir oddi wrtho; a chyda’r hwn y rhoddasant lawer, mwy a ofynant ganddo.
49
Tân y daethum i’w fwrw ar y ddaear, a pha beth a fynnaf os eisoes y cynneuwyd ef?
50
Ond bedydd sydd Genyf i’m bedyddio ag ef; ac mor gyfyng yw Arnaf hyd oni orphener!
51
A dybygwch chwi mai heddwch y daethum i’w roddi ar y ddaear? Nage, meddaf i chwi, eithr ymranniad;
52
canys bydd o hyn allan bump mewn un tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri:
53
rhennir hwynt tad yn erbyn mab, a mab yn erbyn tad; mam yn erbyn merch, a merch yn erbyn ei mam; chwegr yn erbyn gwaudd, a gwaudd yn erbyn ei chwegr.
54
A dywedodd hefyd wrth y torfeydd, Pan weloch gwmmwl yn y gorllewin, yn uniawn y dywedwch, Cawod sy’n dyfod;
55
ac felly y digwydd: a phan weloch y deheu-wynt yn chwythu, dywedwch, Gwres poeth fydd, a digwydd y mae.
56
Rhagrithwyr, gwynebpryd y ddaear a’r nef y medrwch ei ddeall; ond yr amser hwn pa fodd na fedrwch ei ddeall?
57
A phaham nad ydych, ïe, o honoch eich hunain, yn barnu yr hyn sydd gyfiawn?
58
Canys tra yr eli gyda’th wrthwynebwr ger bron llywodraethwr, ar y ffordd ymdrecha i fyned yn rhydd oddi wrtho, rhag ysgatfydd iddo dy lusgo at y barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog, a’r swyddog dy daflu yngharchar.
59
Dywedaf wrthyt, Ni ddeui ddim allan oddiyno nes, ïe, i’r hatling eithaf ei thalu genyt.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24