bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Luke 11
Luke 11
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 12 →
1
A bu, pan yr oedd mewn rhyw fan yn gweddïo, pan beidiodd, dywedodd rhyw un o’i ddisgyblion Wrtho, Arglwydd, dysg i ni weddïo, fel y bu i Ioan hefyd ddysgu i’w ddisgyblion.
2
A dywedodd wrthynt, Pan weddïoch dywedwch, O Dad, sancteiddier Dy enw: deued Dy deyrnas;
3
ein bara beunyddiol dyro i ni o ddydd i ddydd:
4
a maddeu i ni ein pechodau, canys ninnau hefyd a faddeuwn i bawb y sydd wedi troseddu i’n herbyn; ac nac arwain ni i brofedigaeth.
5
A dywedodd wrthynt, Pwy o honoch fydd a chanddo gyfaill, ac a aiff atto hanner nos, ac a ddywaid wrtho,
6
O gyfaill, moes yn echwyn i mi dair torth, canys cyfaill i mi a ddaeth attaf oddiar daith, ac nid oes genyf ddim a ddodwyf ger ei fron.
7
Ac yntau oddi mewn a ettyb, I myfi na phar drafferth: yn awr y drws a gauwyd, ac fy mhlant, ynghyda mi, yn eu gwely y maent: ni allaf godi a rhoddi i ti.
8
Dywedaf wrthych, Er na rydd iddo, gan godi, am mai ei gyfaill yw, etto, o herwydd ei daerni, gan gyfodi y rhydd iddo gynnifer ag y mae arno eu heisiau.
9
Ac Myfi, wrthych y dywedaf, Gofynwch a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chewch; curwch, ac agorir i chwi; canys pob un y sydd yn gofyn, derbyn y mae;
10
ac yr hwn sy’n ceisio, cael y mae; ac i’r hwn sy’n curo yr agorir.
11
Pwy o honoch chwi y sydd dad, os gofyn ei fab iddo fara, a ddyry garreg iddo; neu os bysgodyn, yn lle pysgodyn a ddyry sarph iddo;
12
neu os gofyn wy, a ddyry iddo scorpion?
13
Os, gan hyny, chwychwi, a chwi yn ddrwg, a wyddoch pa fodd i roi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y bydd i’ch Tad nefol roi’r Yspryd Glân i’r rhai a ofynant Iddo?
14
Ac yr oedd Efe yn bwrw allan gythraul mud; a bu, a’r cythraul wedi myned allan, llefarodd y mudan; a rhyfeddodd y torfeydd.
15
Ond rhai o honynt a ddywedasant, Trwy Beelzebub, pennaeth y cythreuliaid, y bwrw Efe allan gythreuliaid.
16
Ac eraill gan Ei demtio, arwydd o’r nef a geisient Ganddo.
17
Ac Efe, gan wybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanneddir;
18
a thŷ yn erbyn tŷ, a syrth; ac os Satan hefyd a ymrannodd yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas, o herwydd dywedyd o honoch mai trwy Beelzebub yr wyf Fi yn bwrw allan gythreuliaid?
19
Ac os Myfi trwy Beelzebub yr wyf yn bwrw allan y cythreuliaid, trwy bwy y mae eich meibion chwi yn eu bwrw hwynt allan?
20
Am hyny hwy a fyddant eich barnwyr. Ond os trwy fys Duw yr wyf Fi yn bwrw allan y cythreuliaid, yna arnoch y daeth teyrnas Dduw.
21
Pan fyddo un cryf arfog yn gwylied ei lys, mewn heddwch y mae ei eiddo;
22
ond pan fo un cryfach nag ef, wedi dyfod arno, yn ei orchfygu ef, ei lwyr-arfogaeth yn yr hon yr ymddiriedai, a ddwg efe oddi arno, a’i yspeiliau a ran efe.
23
Y neb nad yw gyda Mi, yn Fy erbyn y mae; a’r neb nad yw yn casglu gyda Mi, gwasgaru y mae.
24
Pan fo’r yspryd aflan wedi myned allan o’r dyn, myned trwy leoedd di-ddwfr y mae, gan geisio gorphwysdra; a chan na chaffo, y dywaid, Dychwelaf i fy nhŷ o’r hwn y daethum allan;
25
ac wedi dyfod, ei gael ef wedi ei ysgubo a’i drefnu y mae.
26
Yna myned y mae ac yn cymmeryd atto saith eraill o ysprydion gwaeth nag ef ei hun, ac wedi myned i mewn, trigant yno; a chyflwr olaf y dyn hwnw sydd waeth na’r cyntaf.
27
A bu, wrth ddywedyd o Hono y pethau hyn, ei llais a gododd rhyw wraig, o’r dyrfa, a dywedodd Wrtho, Gwyn fyd y groth a’th ddug Di, a’r bronnau a sugnaist.
28
Ac Efe a ddywedodd, Yn hytrach, gwyn fyd y rhai sydd yn clywed gair Duw ac yn ei gadw.
29
A’r torfeydd yn ymdyrru ynghyd, dechreuodd ddywedyd, Y genhedlaeth hon, cenhedlaeth ddrwg yw: arwydd a gais hi, ac arwydd ni roddir iddi, oddieithr arwydd Ionah.
30
Canys fel y bu Ionah yn arwydd i’r Ninefiaid, felly y bydd Mab y Dyn hefyd i’r genhedlaeth hon.
31
Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyda gwŷr y genhedlaeth hon, ac a’u condemnia hwynt, canys daeth o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Shalomon, ac wele, mwy na Shalomon yma.
32
Gwŷr Ninefe a godant i fynu yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, a chondemniant hi, canys edifarhasant wrth bregeth Ionah, ac wele, mwy nag Ionah yma.
33
Nid yw neb wedi goleu llusern, yn ei gosod mewn cel-gellfa, na than lestr, eithr ar safle’r llusern fel y bo i’r rhai sy’n dyfod i mewn weled y goleuni.
34
Llusern dy gorph yw dy lygad. Pan fo dy lygad yn syml, dy holl gorph hefyd fydd oleu; ond pan drwg yw, dy gorph hefyd fydd dywyll.
35
Ystyria, gan hyny, ai nad yw’r goleuni sydd ynot yn dywyllwch.
36
Os, gan hyny, dy gorph oll sydd oleu, heb ynddo un rhan dywell, goleu fydd y cwbl, fel pan fo’r llusern, â’i llewyrch, yn dy oleuo.
37
Ac wrth lefaru o Hono, gofynodd rhyw Pharishead Iddo giniawa gydag ef: ac wedi myned i mewn lled-orweddodd Efe.
38
A’r Pharishead, gan weled hyn, a ryfeddodd na fu Iddo yn gyntaf ymolchi o flaen y ciniaw.
39
A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Yn awr, chwi, y Pharisheaid, y tu allan i’r cwppan a’r ddysgl a lanhewch, ond eich tu mewn sydd orlawn o reibusrwydd a drygioni.
40
O ynfydion, onid yr hwn a wnaeth y tu allan, a wnaeth hefyd y tu mewn?
41
Eithr, y pethau sydd genych rhoddwch yn elusen; ac wele, pob peth sydd lân i chwi.
42
Eithr gwae chwi, y Pharisheaid, canys degymmwch y mintys a’r rhyw a phob llysieuyn, ac myned heibio yr ydych i farn a chariad Duw; y rhai hyn yr oedd raid eu gwneuthur, a pheidio a gadael y lleill heibio.
43
Gwae chwi, y Pharisheaid, canys caru yr ydych y brif-gadair yn y sunagogau, a’r cyfarchiadau yn y marchnadoedd.
44
Gwae chwi, canys yr ydych fel y beddau anamlwg, ac y dynion sy’n rhodio arnynt ni wyddant.
45
A chan atteb, rhyw un o’r cyfreithwyr a ddywedodd Wrtho, Athraw, wrth ddywedyd y pethau hyn, nyni hefyd a sarai.
46
Ac Efe a ddywedodd, Ac i chwithau y cyfreithwyr wae, canys llwythwch ddynion â llwythau anhawdd eu dwyn; a chwi eich hunain, ag un o’ch bysedd ni chyffyrddwch â’r llwythau.
47
Gwae chwi, canys adeiledwch feddau’r prophwydi, a’ch tadau a’u lladdasant.
48
Felly, tystion ydych ac yn cyd-foddloni yn ngweithredoedd eich tadau.
49
O achos hyn Doethineb Duw hefyd a ddywedodd, Danfonaf attynt brophwydi ac apostolion, A rhai o honynt a laddant ac a erlidiant hwy:
50
Fel y ceisier gwaed yr holl brophwydi Y sy’n cael ei dywallt o seiliad y byd, Oddiwrth y genhedlaeth hon:
51
O waed Abel hyd waed Zacarias Yr hwn a laddwyd rhwng yr allor a’r cyssegr; Ië, dywedaf wrthych, Ceisir ef oddiwrth y genhedlaeth hon.
52
Gwae chwi y cyfreithwyr, canys dygasoch ymaith agoriad gwybodaeth; chwi eich hunain nid aethoch i mewn, a’r rhai oedd yn myned i mewn a rwystrasoch.
53
Ac wedi myned allan o Hono oddiyno, dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid ddal gŵg Iddo yn ofnadwy,
54
ac Ei ennyn i lefaru am lawer o bethau, gan Ei gynllwyn, i ddala rhyw beth o’i enau Ef.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24