bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 10
Matthew 10
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 11 →
1
Ac wedi galw Atto Ei ddeuddeg disgybl, rhoddes iddynt awdurdod dros ysprydion aflan, i’w bwrw hwynt allan, ac i iachau pob clefyd a phob afiechyd.
2
Ac enwau y deuddeg apostol yw y rhai hyn: Cyntaf, Shimon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd;
3
Philip, a Bartholemëus; Thomas, a Matthew y treth-gymmerwr; Iago mab Alphëus, a Thadëus;
4
Shimon y Cananead, ac Iwdas Iscariot, yr hwn hefyd a draddododd Ef.
5
Y deuddeg hyn a ddanfonodd yr Iesu, wedi gorchymyn iddynt, gan ddywedyd, I ffordd y cenhedloedd nac ewch; ac i ddinas o eiddo’r Shamariaid nac ewch i mewn:
6
ond ewch yn hytrach at ddefaid colledig tŷ Israel.
7
Ac wrth fyned pregethwch, gan ddywedyd, Nesaodd teyrnas nefoedd.
8
Cleifion iachewch; meirw cyfodwch; gwahanglwyfusion glanhewch; cythreuliaid bwriwch allan: yn rhad y derbyniasoch, rhad-roddwch.
9
Na cheisiwch aur, nac arian, na phrês i’ch gwregysau,
10
nac ysgrepan i’r daith, na dwy bais, nac esgidiau, na ffon, canys haeddu ei fwyd y mae’r gweithiwr.
11
Ac i ba ddinas bynnag, neu bentref, yr eloch i mewn, chwiliwch allan pwy ynddi sydd deilwng; ac yno arhoswch, hyd onid eloch allan.
12
Ac wrth fyned i mewn i’r tŷ, cyferchwch well iddo:
13
ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangnefedd arno; ond os na fydd deilwng, bydded i’ch tangnefedd ddychwelyd attoch.
14
A phwy bynnag na’ch derbynio, ac na wrandawo eich geiriau, wrth fyned allan o’r tŷ neu y ddinas honno, ysgydwch ymaith lwch eich traed.
15
Yn wir meddaf i chwi, Mwy goddefadwy fydd i dir Sodom a Gomorrah yn nydd y farn nag i’r ddinas honno.
16
Wele, Myfi wyf yn eich danfon fel defaid ynghanol bleiddiaid; byddwch, gan hyny, yn gall fel y seirph, ac yn ddiniweid fel y colommenod.
17
Ond gwyliwch rhag dynion, canys rhoddant chwi i fynu i gynghorau, ac yn eu sunagogau y’ch ffrewyllant;
18
a cher bron llywiawdwyr a brenhinoedd y’ch dygant o’m hachos I, er tystiolaeth iddynt ac i’r cenhedloedd.
19
Ond pan draddodant chwi, na phryderwch am ba fodd neu ba beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr honno ba beth a lefaroch:
20
canys nid chwychwi sy’n llefaru, eithr Yspryd eich Tad yr Hwn sydd yn llefaru ynoch.
21
A thraddoda brawd frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn; a chyfyd plant yn erbyn rhieni, ac a barant eu marwolaeth.
22
A byddwch gas gan bawb o achos Fy enw; ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd gadwedig.
23
A phan erlidiant chwi yn y ddinas hon, ffowch i’r llall; canys yn wir y dywedaf wrthych, na orphenwch ddinasoedd Israel nes dyfod Mab y Dyn.
24
Nid yw disgybl yn uwch na’r athraw, na’r caethwas yn uwch na’i arglwydd;
25
digon i’r disgybl fod fel ei athraw, ac y caethwas fel ei arglwydd. Os perchen y tŷ a alwasant “Beelzebub,” pa faint mwy ei dylwyth?
26
Am hyny, nac ofnwch hwynt; canys nid oes dim wedi ei orchuddio, yr hwn ni ddatguddir; na chuddiedig, yr hwn ni wybyddir.
27
Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd wrthych yn y tywyllwch, mynegwch yn y goleuni; a’r hyn a glywch yn y glust, cyhoeddwch ar bennau’r tai.
28
Ac nac ofnwch rhag y rhai sy’n lladd y corph, ond yr enaid na allant ei ladd; ond ofnwch yn hytrach yr Hwn sy’n abl i ddistrywio enaid a chorph yn Gehenna.
29
Onid yw dau aderyn y tô i’w gwerthu er assar? ac un o honynt ni syrth ar y ddaear heb eich Tad:
30
ond hyd yn oed gwallt eich pen chwi ydynt i gyd wedi eu cyfrif.
31
Gan hyny, nac ofnwch; ar lawer adar y tô yr ydych chwi yn rhagori.
32
Pob un, gan hyny, a’m haddefo I ger bron dynion, Addefaf Finnau hefyd ef ger bron Fy Nhad y sydd yn y nefoedd:
33
A phwy bynnag a’m gwado I ger bron dynion, Gwadaf Finnau hefyd ef ger bron Fy Nhad y sydd yn y nefoedd.
34
Na thybiwch y daethum i ddanfon heddwch ar y ddaear:
35
ni ddaethum i ddanfon heddwch, eithr cleddyf: canys daethum i wahanu dyn yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam, a gwaudd yn erbyn ei chwegr;
36
a gelynion dyn a fydd tylwyth ei dŷ.
37
Yr hwn sy’n caru tad neu fam yn fwy na Myfi, nid yw deilwng o Honof Fi; a’r hwn sy’n caru mab neu ferch yn fwy na Myfi, nid yw deilwng o Honof Fi:
38
a’r hwn nad yw yn cymmeryd ei groes ac yn canlyn ar fy ol I, nid yw deilwng o Honof Fi.
39
Yr hwn sy’n cael ei einioes, a’i cyll; a’r hwn a gollo ei einioes o’m hachos I, a’i caiff.
40
Yr hwn sydd yn eich derbyn chwi, Myfi y mae efe yn ei dderbyn; a’r hwn sydd yn Fy nerbyn I, derbyn yr Hwn a’m danfonodd y mae.
41
Yr hwn sy’n derbyn prophwyd yn enw prophwyd, gwobr prophwyd a gaiff efe; a’r hwn sy’n derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn, gwobr un cyfiawn a gaiff efe.
42
A phwy bynnag a roddo i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn phiolaid o ddwfr oer yn unig yn enw disgybl, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll mo’i wobr.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28