bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 6
Matthew 6
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 7 →
1
Gwyliwch rhag gwneud eich cyfiawnder ger bron dynion, er mwyn eich gweled ganddynt: onite, gwobr nid oes i chwi gyda’ch Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd.
2
Gan hyny, pan wnelych elusen, nac udgana o’th flaen fel y mae’r rhagrithwŷr yn gwneud yn y sunagogau ac yn yr heolydd, fel y molianner hwy gan ddynion: yn wir meddaf i chwi, derbyn eu gwobr y maent.
3
Ond pan yr wyt ti yn gwneuthur elusen, na wyped dy law aswy pa beth a wna dy ddeheulaw,
4
fel y bo dy elusen yn y dirgel, a’th Dad y sy’n gweled yn y dirgel, a dâl i ti.
5
A phan weddïoch, na fyddwch fel y rhagrithwŷr, canys carant weddïo yn sefyll yn y sunagogau ac ynghonglau y llydanfeydd, fel yr ymddangosont i ddynion: yn wir meddaf i chwi, derbyn eu gwobr y maent.
6
Ond tydi, pan weddïech, dos i mewn i’th ystafell; ac wedi cau dy ddrws, gweddïa ar dy Dad y sydd yn y dirgel; a’th Dad y sy’n gweled yn y dirgel, a dâl i ti.
7
A phan weddïoch, na fyddwch siaradus, fel yr ethnigion, canys tybiant mai o herwydd eu haml eiriau y gwrandewir hwynt.
8
Na fyddwch, gan hyny, debyg iddynt, canys gŵyr eich Tad pa bethau y mae arnoch eu heisiau cyn i chwi ofyn Ganddo.
9
Fel hyn, gan hyny, gweddïwch chwi, Ein Tad, yr Hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier Dy enw.
10
Deued Dy deyrnas. Gwneler Dy ewyllys, fel yn y nef, felly hefyd ar y ddaear.
11
Ein bara beunyddiol dyro i ni heddyw.
12
A maddeu i ni ein troseddau, fel yr ydym ninnau hefyd wedi maddeu i’r rhai a droseddasant i’n herbyn.
13
Ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr achub ni oddiwrth y drwg.
14
Canys os maddeuwch i ddynion eu camweddau, maddeua hefyd eich Tad y sydd yn y nefoedd i chwi:
15
eithr os na faddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad ni faddeua chwaith eich camweddau.
16
A phan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwŷr, yn wyneb-drist; canys difetha eu gwynebau y maent, fel yr ymddangosont i ddynion, yn ymprydio: yn wir meddaf i chwi, Derbyn eu gwobr y maent.
17
Ond tydi, pan yn ymprydio, enneinia dy ben di, a’th wyneb golch,
18
fel nad ymddangosech i ddynion, yn ymprydio, ond i’th Dad y sydd yn y dirgel, a’th Dad y sy’n gweled yn y dirgel, a dâl i ti.
19
Na thrysorwch iwch drysorau ar y ddaear, lle y mae gwyfyn a rhwd yn difetha, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladratta;
20
ond trysorwch iwch drysorau yn y nef, lle nid yw na gwyfyn na rhwd yn difetha, a lle nid yw lladron yn cloddio trwodd nac yn lladratta:
21
canys lle y mae dy drysor, yno y bydd dy galon.
22
Llusern y corph yw’r llygad; os, gan hyny, dy lygad fydd syml, dy holl gorph fydd yn oleu;
23
ond os dy lygad fydd ddrwg, dy holl gorph fydd dywyll; os, gan hyny, y goleuni y sydd ynot fydd yn dywyllwch, y tywyllwch mor fawr yw!
24
Nid oes neb a ddichon wasanaethu dau arglwydd; canys un ai y naill a gasa ac y llall a gar efe, neu wrth y naill yr ymlŷn, a’r llall a ddirmyga efe: ni ellwch wasanaethu Duw a mammon.
25
O achos hyn meddaf i chwi, na phryderwch am eich bywyd, pa beth a fwyttaoch neu pa beth a yfoch; nac am eich corph, pa beth a wisgoch. Onid yw’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corph na’r dillad?
26
Edrychwch ar ehediaid y nefoedd, nad ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau, ac eich Tad nefol a’u portha: onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt?
27
A phwy o honoch, gan bryderu, a ddichon ychwanegu at ei faintioli un cufydd?
28
Ac am ddillad paham y pryderwch? Ystyriwch lili’r maes, y modd y tyfant;
29
ni lafuriant, ac ni nyddant ddim; ac yr wyf yn dywedyd wrthych, Nid oedd hyd yn oed Shalomon yn ei holl ogoniant, wedi ymwisgo fel un o’r rhai hyn.
30
Ac os llysieuyn y maes y sydd heddyw mewn bod ac y foru i’r ffwrn y’i bwrir, y mae Duw fel hyn yn ei ddilladu, onid llawer mwy y dillada Efe chwi, o rai o ychydig ffydd?
31
Am hyny na phryderwch, gan ddywedyd, “Pa beth a fwyttawn?” neu, “Pa beth a yfwn?” neu, “A pha beth yr ymwisgwn?”
32
canys yr holl bethau hyn y mae’r Cenhedloedd yn eu ceisio, canys gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisiau y pethau hyn i gyd.
33
Ond ceisiwch yn gyntaf Ei deyrnas ac Ei gyfiawnder, a’r rhai hyn oll a roddir attoch.
34
Gan hyny na phryderwch am y foru, canys y foru a brydera am dani ei hun; digon i’r diwrnod ei ddrygioni ei hun.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28