bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 23
Matthew 23
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 24 →
1
Yna yr Iesu a lefarodd wrth y torfeydd a’i ddisgyblion,
2
gan ddywedyd, Ynghadair Mosheh yr eistedd yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid:
3
yr oll, gan hyny, cymmaint ag a ddywedant wrthych, gwnewch a chadwch; ond yn ol eu gweithredoedd na wnewch, canys dywedant ac ni wnant.
4
A rhwymant feichiau trymion ac anhawdd eu dwyn, a rhoddant hwynt ar ysgwyddau dynion; a hwy eu hunain, â’u bys nid ewyllysiant eu syflyd hwy.
5
A’u holl weithredoedd a wnant er mwyn eu gweled gan ddynion, canys lledanant eu phylacterau,
6
ac helaethant eu godreon, a charant y lle uchaf mewn gwleddoedd, a’r prif-gadeiriau yn y sunagogau,
7
a’r cyfarchiadau yn y marchnadau, a’u galw gan ddynion Rabbi.
8
Ond chwychwi, na’ch galwer Rabbi, canys un yw eich Athraw chwi; a’r oll o honoch chwi, brodyr ydych.
9
Ac yn dad i chwi na elwch neb ar y ddaear, canys un yw eich Tad, yr Hwn sydd yn y nefoedd.
10
Ac na’ch galwer yn feistriaid, canys un yw eich Meistr, sef Crist;
11
a’r mwyaf o honoch fydd eich gweinidog;
12
a’r hwn a ddyrchafo ei hun, a ostyngir; ac yr hwn a ostyngo ei hun, a ddyrchefir.
13
A gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys cau teyrnas nefoedd yr ydych o flaen dynion; canys chwychwi nid ydych yn myned i mewn, a’r rhai y sydd yn myned i mewn, ni adewch iddynt fyned i mewn.
15
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys myned o amgylch y môr a’r tir yr ydych i wneuthur un proselyt; ac wedi ei wneuthur, ei wneud ef yr ydych yn fab Gehenna ddwy waith fwy na chwi eich hunain.
16
Gwae chwi, dywysogion deillion, y rhai sy’n dywedyd, Pwy bynnag a dyngo myn y deml, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dyngo myn aur y deml, dyledwr yw.
17
Ynfydion a deillion; canys pa un sydd fwyaf, yr aur neu’r deml a sancteiddiodd yr aur?
18
Ac pwy bynnag a dyngo myn yr allor, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dyngo myn y rhodd y sydd arni, dyledwr yw.
19
Deillion, canys pa un fwyaf, y rhodd neu’r allor y sy’n sancteiddio’r rhodd?
20
Yr hwn, gan hyny, a dyngodd myn yr allor, tyngu y mae myn hi a myn yr oll y sydd arni;
21
ac yr hwn a dyngodd myn y deml, tyngu y mae myn hi a myn yr Hwn sy’n preswylio ynddi;
22
a’r hwn a dyngodd myn y nef, tyngu y mae myn gorseddfaingc Duw a myn yr Hwn sy’n eistedd arni.
23
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys degymmwch y mintys a’r anis a’r cwmin, a gadawsoch heibio y pethau trymmach o’r Gyfraith, barn a thrugaredd a ffydd: y rhai hyn yr oedd rhaid eu gwneuthur, a pheidio a gadael heibio y rhai hyny.
24
Tywysogion deillion, y rhai sy’n hidlo’r gwybedyn, a’r camel a lyngcwch.
25
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys glanhau yr ydych y tu allan i’r cwppan a’r ddysgl, ac o’r tu mewn llawn ydynt o reibusrwydd ac anghymmedroldeb.
26
Pharishead dall, glanha yn gyntaf yr hyn sydd oddifewn i’r cwppan ac i’r ddysgl, fel yr elo y tu allan hefyd o hono yn lân.
27
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys tebyg ydych i feddau wedi eu gwynnu, y rhai oddiallan yn wir a edrychant yn dêg; ond oddimewn, llawn ydynt o esgyrn y meirw a phob aflendid.
28
Felly chwithau hefyd oddiallan, yn wir, a edrychwch i ddynion yn gyfiawnion; ond oddimewn, gorlawn ydych o ragrith ac anghyfraith.
29
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys adeiledwch feddau’r prophwydi, ac addurnwch feddgorau’r cyfiawnion,
30
a dywedwch, Pe buasem yn nyddiau ein tadau, ni fuasem gyfranogion â hwynt yngwaed y prophwydi.
31
Felly y tystiolaethwch i’ch hunain, mai meibion ydych i’r rhai a laddasant y prophwydi.
32
A bydded i chwi gyflawni mesur eich tadau.
33
Seirph, hiliogaeth gwiberod, pa fodd y diengech rhag barn Gehenna.
34
Am hyn, wele, Myfi wyf yn danfon attoch brophwydi a doethion ac ysgrifenyddion: rhai o honynt a leddwch ac a groeshoeliwch; a rhai o honynt a ffrewyllwch yn eich sunagogau,
35
ac a erlidiwch o ddinas i ddinas, fel y delo arnoch yr holl waed cyfiawn a dywalltwyd ar y ddaear, o waed Abel gyfiawn hyd waed Zacharias fab Barachias, yr hwn a laddasoch rhwng y cyssegr a’r allor.
36
Yn wir y dywedaf wrthych, Daw y pethau hyn oll ar y genhedlaeth hon.
37
Ierwshalem, Ierwshalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi, Ac yn llabyddio y rhai a ddanfonwyd attat, Pa sawl gwaith y mynnais gasglu ynghyd dy blant, Yn y modd y cyd-gasgl giar ei chywion dan ei hadenydd, ac ni fynnech! Wele, gadewir i chwi eich tŷ yn anghyfannedd, canys dywedaf wrthych, Myfi ni welwch ddim o hyn allan, nes dweyd o honoch, Bendigedig yw ’r Hwn sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28