bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 15
Matthew 15
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 16 →
1
Yna y daeth at yr Iesu, o Ierwshalem, Pharisheaid ac Ysgrifenyddion,
2
gan ddywedyd, Paham y mae Dy ddisgyblion yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? canys ni olchant eu dwylaw, pan fwyttaont fara.
3
Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Paham hefyd yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy eich traddodiad?
4
canys Duw a ddywedodd, “Anrhydedda dy dad a’th fam:” ac, “A felldithio dad neu fam, bydded farw â’r farwolaeth:”
5
A chwychwi a ddywedwch, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Rhodd i Dduw yw pa beth bynnag y cawsit yn lles oddi wrthyf, nid yw, er dim i anrhydeddu ei dad;
6
a dirymmwch air Duw o achos eich traddodiad.
7
Rhagrithwyr, da y prophwydodd Eshaiah am danoch, gan ddywedyd,
8
“Y bobl hyn â’u gwefusau y’m hanrhydeddant, Ond eu calon, pell yw Oddiwrthyf:
9
Ond yn ofer yr addolant Fi, Gan ddysgu yn ddysgeidiaeth orchymynion dynion.”
10
Ac wedi galw’r dyrfa Atto, dywedodd wrthynt, Clywch a deallwch.
11
Nid yr hyn sy’n myned i mewn i’r genau sy’n halogi dyn, eithr yr hyn sy’n dyfod allan o’r genau, hyn sy’n halogi dyn.
12
Yna wedi dyfod Atto, ei ddisgyblion a ddywedasant Wrtho, A wyddost Ti y bu i’r Pharisheaid, wrth glywed y gair hwn, eu tramgwyddo?
13
Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd, Pob planhigyn yr hwn ni phlannodd Fy Nhad nefol, a ddiwreiddir.
14
Gadewch iddynt, tywysogion deillion ydynt; ac os y dall a dywys y dall, y ddau i ffos y syrthiant.
15
A Phetr a ddywedodd Wrtho, Mynega i ni y ddammeg.
16
Ac Efe a ddywedodd, Etto byth a ydych chwithau hefyd yn anneallus?
17
Oni welwch fod pob peth y sy’n myned i mewn i’r genau yn myned i’r bol, ac i’r geudy y’i bwrir allan?
18
ond y pethau sy’n dyfod allan o’r genau, o’r galon y deuant allan, a hwynt-hwy a halogant ddyn.
19
Canys o’r galon y mae yn dyfod allan feddyliau drwg, lladdiadau, tor-priodasau, godinebau, lladradau, gau-dystiolaethau,
20
cablau: y pethau hyn yw’r rhai sy’n halogi dyn: ond bwytta â dwylaw heb eu golchi ni haloga ddyn.
21
Ac wedi myned allan oddi yno, yr Iesu a giliodd i dueddau Tyrus a Tsidon.
22
Ac wele, gwraig o Canaan, wedi dyfod allan o’r cyffiniau hyny, a waeddodd, gan ddywedyd, Tosturia wrthyf, Arglwydd, Fab Dafydd: fy merch a boenir yn dost gan gythraul.
23
Ac Efe nid attebodd iddi air. Ac wedi dyfod Atto, Ei ddisgyblion a ofynasant Iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith, canys gwaeddi ar ein hol y mae.
24
Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd, Ni’m danfonwyd oddieithr at ddefaid colledig tŷ Israel.
25
A hithau a ddaeth ac a’i haddolodd Ef, gan ddywedyd, Arglwydd, cymmorth fi.
26
Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd, Nid da yw cymmeryd bara’r plant a’ i fwrw i’r cwn.
27
A hithau a ddywedodd, Felly, Arglwydd; canys y cwn a fwyttant o’r briwsion y sy’n syrthio oddi wrth fwrdd eu harglwyddi.
28
Yna, gan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthi, O wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr ewyllysi. Ac iachawyd ei merch o’r awr honno.
29
Ac wedi myned oddi yno, yr Iesu a ddaeth gerllaw môr Galilea; ac, wedi esgyn i’r mynydd, eisteddodd yno.
30
A daeth Atto dorfeydd mawrion, a chanddynt gyda hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer, a bwriasant hwynt wrth Ei draed Ef, ac iachaodd Efe hwynt;
31
fel y bu i’r dyrfa ryfeddu wrth weled mudion yn llefaru, anafusion yn iach, a chloffion yn rhodio, a deillion yn gweled: a gogoneddasant Dduw Israel.
32
A’r Iesu, wedi galw Atto Ei ddisgyblion, a ddywedodd, Tosturio yr wyf wrth y dyrfa, canys tridiau sydd weithian y maent yn aros gyda Mi, ac nid oes ganddynt yr hyn a fwyttaont: ac eu gollwng ymaith ar eu cythlwng nid ewyllysiaf, rhag ysgatfydd eu llewygu ar y ffordd.
33
A dywedodd y disgyblion Wrtho, O ba le y bydd genym mewn anialwch dorthau gymmaint ag i ddigoni tyrfa mor fawr?
34
A dywedodd yr Iesu wrthynt, Pa sawl torth sydd genych h? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain.
35
Ac wedi gorchymyn i’r dyrfa orwedd ar y ddaear, cymmerodd y saith dorth a’r pysgod;
36
ac wedi diolch, torrodd hwynt, a rhoddodd i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r torfeydd.
37
A bwyttasant oll, a digonwyd hwynt. A chodasant yr hyn oedd dros ben o’r briwfwyd, saith cawellaid yn llawn.
38
A’r rhai a fwyttasant oeddynt bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant. Ac wedi gollwng ymaith y torfeydd, yr aeth Efe i’r cwch, ac y daeth i gyffiniau Magadan.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28