bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 9
Matthew 9
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 10 →
1
Ac wedi myned i mewn i gwch, yr aeth Efe trosodd, a daeth i’w ddinas Ei hun.
2
Ac wele, dygasant Atto ŵr claf o’r parlys, yn gorwedd ar wely; a chan weled o’r Iesu eu ffydd, dywedodd wrth y claf o’r parlys, Bydd hyderus, fy mab, maddeuwyd dy bechodau di.
3
Ac wele, rhai o’r ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu.
4
A chan wybod o’r Iesu eu meddyliau, dywedodd, Paham y meddyliwch bethau drwg yn eich calonau?
5
canys pa un sydd hawsaf, ai dywedyd, Maddeuwyd dy bechodau di, ai dywedyd, Cyfod a rhodia?
6
Ond fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i faddeu pechodau (yna y dywedodd wrth y claf o’r parlys), Cyfod a chymmer i fynu dy wely di, a dos i’th dŷ.
7
Ac wedi cyfodi, yr aeth efe ymaith i’w dŷ.
8
Ac wedi gweled o’r torfeydd, ofnasant, a gogoneddasant Dduw, yr hwn a roisai awdurdod o’r fath i ddynion.
9
Ac wrth fyned heibio o’r Iesu oddi yno, gwelodd ŵr yn eistedd wrth y dollfa, Matthew wrth ei enw, a dywedodd wrtho, Canlyn Fi; a chyfododd efe, a chanlynodd Ef.
10
A bu ac Efe yn lled-orwedd wrth y ford yn y tŷ, ac wele llawer o dreth-gymmerwŷr a phechaduriaid wedi dyfod, a gyd-ledorweddasant â’r Iesu a’i ddisgyblion.
11
A phan welodd y Pharisheaid hyn, dywedasant wrth Ei ddisgyblion, Paham mai ynghyda’r treth-gymmerwŷr a phechaduriaid y bwytty eich Athraw?
12
Ac Efe, wedi clywed, a ddywedodd, Nid oes rhaid i’r rhai iach wrth feddyg, ond i’r rhai drwg eu hwyl.
13
Ond ewch a dysgwch pa beth yw, “Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth;” canys ni ddaethum i alw cyfiawnion, ond pechaduriaid.
14
Yna y daeth Atto ddisgyblion Ioan, gan ddywedyd, Paham yr ydym ni a’r Pharisheaid yn ymprydio yn fynych, a’th ddisgyblion Di nid ydynt yn ymprydio?
15
A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all meibion yr ystafell-briodas alaru tra ynghyda hwynt y mae’r priod-fab? Ond daw’r dyddiau pan ddygir y priod-fab oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant.
16
Ac nid yw neb yn dodi darn o frethyn heb ei bannu at gochl hen, canys cymmer ei gyflawniad oddiwrth y cochl, a rhwyg gwaeth a wneir.
17
Ac nid ydynt yn dodi gwin newydd mewn costrelau hen: onite torrir y costrelau, a’r gwin a red allan, ac am y costrelau y derfydd; eithr dodant win newydd mewn costrelau newyddion, a’r ddau a gyd-gedwir.
18
Ac Efe yn dywedyd y pethau hyn wrthynt, wele, rhyw bennaeth a ddaeth ac a’i haddolodd Ef, gan ddywedyd, Fy merch sydd newydd farw: eithr tyred a gosod Dy law arni, a byw fydd.
19
Ac wedi cyfodi, yr Iesu a’i canlynodd ef, ac Ei ddisgyblion.
20
Ac wele, gwraig y buasai gwaedlif arni ddeuddeng mlynedd, wedi dyfod Atto ac o’r tu cefn, a gyffyrddodd ag ymyl Ei gochl,
21
canys dywedodd ynddi ei hun, Os cyffyrddaf yn unig â’i gochl, iach fyddaf.
22
A’r Iesu wedi troi a’i gweled hi, a ddywedodd, Bydd hyderus, Fy merch: dy ffydd a’th iachaodd; ac iachawyd y wraig o’r awr honno.
23
Ac wedi dyfod o’r Iesu i dŷ’r pennaeth, a chan weled y pibyddion a’r dyrfa yn terfysgu,
24
dywedodd, Ciliwch, canys ni bu farw y llangces, eithr cysgu y mae: a chwarddasant am Ei ben Ef.
25
Ond pan fwriasid y dyrfa allan, wedi myned i mewn yr ymaflodd Efe yn ei llaw hi, a chyfododd y llangces.
26
Ac aeth y sôn am hyn allan dros yr holl wlad honno.
27
Ac wrth fyned heibio o’r Iesu oddi yno, canlynodd dau ddyn dall Ef, gan waeddi a dywedyd, Trugarhâ wrthym, fab Dafydd.
28
Ac wedi dyfod o Hono i’r tŷ, daeth y deillion Atto; a dywedodd yr Iesu wrthynt, A ydych chwi yn credu y gallaf wneuthur hyn? Dywedasant Wrtho, Ydym, Arglwydd.
29
Yna y cyffyrddodd Efe â’u llygaid, gan ddywedyd, Yn ol eich ffydd bydded i chwi.
30
Ac agorwyd eu llygaid hwynt; a chaeth-orchymynodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Edrychwch na fydded i neb wybod.
31
Ond hwy, wedi myned allan, a daenasant y son am Dano yn yr holl wlad honno.
32
Ac a hwy yn myned allan, wele, dygodd rhai Atto ddyn mud cythreulig;
33
a phan fwriasid y cythraul allan, llefarodd y mudan; a rhyfeddodd y torfeydd, gan ddywedyd, Erioed nid ymddangosodd dim fel hyn yn Israel.
34
Ond y Pharisheaid a ddywedasant, Trwy bennaeth y cythreuliaid y bwrw Efe allan y cythreuliaid.
35
Ac aeth yr Iesu o amgylch y dinasoedd oll a’r pentrefi, gan ddysgu yn eu sunagogau, a chan bregethu efengyl y deyrnas, ac iachau pob clefyd a phob afiechyd.
36
Ac wrth weled y torfeydd, tosturiodd wrthynt am eu bod yn llesg a’u gwasgaru fel defaid heb ganddynt fugail.
37
Yna y dywedodd Efe wrth Ei ddisgyblion, Y cynhauaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml: attolygwch, gan hyny, i Arglwydd y cynhauaf, anfon allan weithwyr i’w gynhauaf.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28