bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 19
Matthew 19
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 20 →
1
A bu pan orphenodd yr Iesu y geiriau hyn, yr ymadawodd o Galilea, ac y daeth i gyffiniau Iwdea, tu hwnt i’r Iorddonen,
2
ac yn Ei ganlyn Ef yr oedd torfeydd mawrion; ac iachaodd Efe hwynt yno.
3
A daeth Atto Pharisheaid, yn Ei demtio, a dywedyd, Ai cyfreithlawn yw i ddyn ollwng ymaith ei wraig am bob achos?
4
Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd, Oni ddarllenasoch, i’r Hwn a’u gwnaeth o’r dechreu, yn wrryw ac yn fanyw y gwnaeth Efe hwynt.
5
A dywedodd, Oblegid hyn yr ymedy dyn â’i dad ac â’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig,
6
a byddant ill dau yn un cnawd; fel nad ydynt mwy yn ddau, eithr un cnawd ydynt. Yr hyn, gan hyny, y bu i Dduw ei gydgysylltu, na fydded i ddyn ei wahanu ef.
7
Dywedasant Wrtho, Paham, ynte, y bu i Mosheh orchymyn rhoddi llythyr ysgar a’i gollwng hi ymaith?
8
Dywedodd wrthynt, Mosheh, o herwydd eich calon-galedwch, a ganiattaodd i chwi ollwng ymaith eich gwragedd; ond o’r dechreu nid oedd felly.
9
A dywedaf wrthych, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig oddieithr am odineb, ac a briodo un arall, godinebu y mae; ac a briodo un a ollyngwyd ymaith, godinebu y mae.
10
Dywedodd Ei ddisgyblion Wrtho, Os felly y mae achos dyn gyda’i wraig, nid da yw priodi.
11
Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Nid pawb fedr dderbyn y gair hwn; eithr hwy i’r rhai y rhoddwyd.
12
Canys y mae eunuchiaid, y rhai a aned felly o groth eu mam; ac y mae eunuchiaid, y rhai a wnaed yn eunuchiaid gan ddynion; ac y mae eunuchiaid, y rhai a wnaethant eu hunain yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Yr hwn a ddichon dderbyn, derbynied.
13
Yna y dygpwyd Atto blant, fel y rhoddai Ei ddwylaw arnynt, ac y gweddïai; a’r disgyblion a’i dwrdiasant hwynt.
14
Ond yr Iesu a ddywedodd, Gadewch i’r plant, ac na rwystrwch hwynt rhag dyfod Attaf; canys i’r cyfryw rai y perthyn teyrnas nefoedd.
15
Ac wedi rhoddi Ei ddwylaw arnynt, aeth oddi yno.
16
Ac wele, rhyw un wedi dyfod Atto, a dywedodd, Athraw, pa beth da a wnaf fel y caffwyf fywyd tragywyddol?
17
Ac Efe a ddywedodd wrtho, Paham mai i Mi y gofyni ynghylch y da? Un yw y Da. Ond os ewyllysi fyned i mewn i’r bywyd, cadw y gorchymynion.
18
Dywedodd yntau Wrtho, Pa rai? A’r Iesu a ddywedodd, “Ni leddi: Ni odinebi:
19
Ni ladrattei: Ni ddygi au-dystiolaeth: Anrhydedda dy dad a’th fam:” a, “Ceri dy gymmydog fel ti dy hun.”
20
Dywedodd y gŵr ieuangc Wrtho, Yr holl rai hyn a gedwais.
21
Pa beth etto sydd ar ol ynof? Dywedodd yr Iesu wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth dy feddiannau, a dyro i’r tlodion, a bydd genyt drysor yn y nef; a thyred, canlyn Fi.
22
Ac wedi clywed o’r gŵr ieuangc yr ymadrodd, aeth ymaith yn drist, canys yr oedd a chanddo dda lawer.
23
A’r Iesu a ddywedodd wrth Ei ddisgyblion, Yn wir y dywedaf wrthych, Yn anhawdd y bydd i oludog fyned i mewn i deyrnas nefoedd.
24
Ac etto y dywedaf wrthych, Haws yw myned o gamel trwy grau nodwydd ddur Na myned o oludog i mewn i deyrnas Dduw. Ac wedi clywed o’r disgyblion, aruthr iawn fu ganddynt,
25
gan ddywedyd, Pwy, gan hyny, a all fod yn gadwedig? A chan edrych arnynt, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gyda dynion y mae hyn yn ammhosibl;
26
ond gyda Duw pob peth sydd bosibl.
27
Yna, gan atteb, Petr a ddywedodd Wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom Di; pa beth, gan hyny, fydd i ni?
28
A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, chwychwi, y rhai a’m canlynasoch, yn yr adenedigaeth pan eisteddo Mab y Dyn ar orseddfaingc Ei ogoniant, a eisteddwch, chwithau hefyd, ar ddeuddeg gorseddfaingc, yn barnu deuddeg llwyth Israel.
29
A phob un a’r a adawodd dai, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu blant, neu diroedd, er mwyn Fy enw I, y can cymmaint a dderbyn efe, a bywyd tragywyddol a etifedda.
30
Ond llawer y sydd flaenaf fyddant olaf, ac yr olaf yn flaenaf.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28