bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 5
Matthew 5
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 6 →
1
A chan weled y torfeydd esgynodd i’r mynydd; ac wedi eistedd o Hono, daeth Ei ddisgyblion Atto;
2
ac wedi agor Ei enau, dysgodd hwynt, gan ddywedyd,
3
Gwyn eu byd y tlodion yn yr Yspryd; canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.
4
Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru; canys hwy a ddiddenir.
5
Gwyn eu byd y rhai addfwyn; canys hwy a etifeddant y ddaear.
6
Gwyn eu byd y rhai sydd â newyn a syched arnynt am gyfiawnder; canys hwy a ddiwellir.
7
Gwyn eu byd y trugarogion; canys wrthynt hwy y trugarheir.
8
Gwyn eu byd y rhai pur o galon; canys hwy a welant Dduw.
9
Gwyn eu byd y tangnefeddwŷr; canys hwy, plant Duw y’u gelwir.
10
Gwyn eu byd y rhai a erlidwyd o achos cyfiawnder; canys eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
11
Gwyn eich byd, pan y’ch gwaradwyddant ac eich erlid, ac y dywedant bob drwg yn eich erbyn, gan gelwyddu, o’m hachos I:
12
llawenychwch a gorfoleddwch, canys eich gwobr sydd fawr yn y nefoedd; canys felly yr erlidiasant y prophwydi a fuant o’ch blaen chwi.
13
Chwychwi yw halen y ddaear; ond os yr halen a ddi-flasodd, â pha beth yr helltir ef? ni thâl mwy i ddim ond, wedi ei fwrw allan, i’w sathru gan ddynion.
14
Chwychwi yw goleuni y byd: ni all dinas ei chuddio pan ar fryn y gorweddo;
15
ac ni oleuent lusern a’i dodi tan y llestr, ond ar safle’r llusern, a llewyrcha i bawb sydd yn y tŷ:
16
felly, llewyrched eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd.
17
Na thybiwch y daethum i ddinystrio’r Gyfraith neu’r Prophwydi: ni ddaethum i ddinystrio ond i gyflawni hwynt;
18
canys yn wir meddaf i chwi, nes myned heibio o’r nef a’r ddaear, nac un iot nac un pyncyn o’r Gyfraith a aiff heibio, nes i’r cwbl gael ei wneud.
19
Pwy bynnag, gan hyny, a ddattodo un o’r gorchymynion lleiaf hyn, ac a ddysgo felly i ddynion, lleiaf a elwir ef yn nheyrnas nefoedd; ond pwy bynnag a’ u gwnelo ac a’ u dysgo i ddynion, efe, mawr y’i gelwir yn nheyrnas nefoedd:
20
canys meddaf i chwi, Os nad helaethach fydd eich cyfiawnder rhagor yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid, nid ewch i mewn, er dim, i deyrnas nefoedd.
21
Clywsoch y dywedwyd wrth y rhai gynt, “Ni leddi;
22
a phwy bynnag a laddo, dyledus fydd i’r farn;” ond Myfi wyf yn dywedyd wrthych, Pob un a ddigio wrth ei frawd, dyledwr fydd i’r farn; a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, “Raca,” dyledwr fydd i’r Cynghor; a phwy bynnag a ddywedo, “More,” dyledwr fydd i’r Gehenna tanllyd.
23
Gan hyny, os dygi dy rodd at yr allor, ac yno cofio o honot fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn,
24
gâd yno dy rodd o flaen yr allor, a dos ymaith: yn gyntaf cymmoder di â’th frawd, ac yna tyred ac offrwm dy rodd.
25
Cyttuna â’th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech gydag ef ar y ffordd, rhag ysgatfydd i’r gwrthwynebwr dy draddodi at y barnwr, ac i’r barnwr dy draddodi at y gweinidog, a’th daflu yngharchar:
26
yn wir meddaf i ti, ni ddeui ddim allan oddi yno, hyd oni thalech y ffyrling eithaf.
27
Clywsoch y dywedwyd, “Ni wnei odineb;” ond yr wyf Fi
28
yn dywedyd wrthych fod pob un y sy’n edrych ar wraig i’w chwenychu hi, wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon.
29
Ac os dy lygad dehau a bair dramgwydd i ti, tyn ef allan a thafl oddiwrthyt, canys da yw i ti ddarfod am un o’th aelodau, ac na fo i’th holl gorph ei daflu i Gehenna.
30
Ac os dy ddeheulaw a bair dramgwydd i ti, tor hi ymaith, a thafl oddiwrthyt, canys da yw i ti ddarfod am un o’th aelodau, ac na fo i’th holl gorph fyned ymaith i Gehenna.
31
A dywedwyd, “Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar;”
32
ond yr wyf Fi yn dywedyd wrthych, Pob un a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, gwneuthur iddi odineba y mae; a phwy bynnag a briodo wraig a ysgarwyd, godinebu y mae.
33
Etto, clywsoch y dywedwyd wrth y rhai gynt, “Ni thyngi anudon, ond teli i’r Arglwydd dy lwon;”
34
ond yr wyf Fi yn dywedyd wrthych beidio a thyngu o gwbl; na myn y nef, canys gorseddfaingc Duw yw;
35
na myn y ddaear, canys lleithig Ei draed yw; na myn Ierwshalem, canys dinas y Brenhin Mawr yw;
36
ac myn dy ben na thwng, canys ni elli wneuthur un blewyn yn wyn neu yn ddu;
37
ond bydded eich ymadrodd, Ië, Ië; Nag ê, nag ê; a’r hyn sydd dros ben y rhai hyn o’r drwg y mae.
38
Clywsoch y dywedwyd, “Llygad am lygad, a dant am ddant;”
39
ond yr wyf Fi yn dywedyd wrthych beidio â gwrthsefyll y dyn drwg; ond y neb a’th darawo di ar dy rudd ddehau, tro iddo y llall hefyd;
40
ac i’r hwn a fynno ymgyfreithio â thydi, a chael dy bais, gâd iddo dy gochl hefyd;
41
a’r neb a’th gymhello di un filldir, dos gydag ef ddwy.
42
I’r hwn a ofyno genyt, dyro; a’r hwn sy’n ewyllysio echwyna genyt ti, na thro oddi wrtho.
43
Clywsoch y dywedwyd, “Ceri dy gymmydog, a chasei dy elyn:”
44
ond yr wyf Fi yn dywedyd wrthych, Cerwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sydd yn eich erlid, fel yr eloch yn feibion i’ch Tad y sydd yn y nefoedd,
45
canys peri y mae Efe i’w haul godi ar y rhai drwg a’r da, ac yn gwlawio ar gyfiawnion ac anghyfiawnion;
46
canys os cerwch y sawl a’ch caront, pa wobr sydd i chwi? Onid yw’r treth-gymmerwŷr yn gwneud yr un peth?
47
Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych yn ei wneuthur? Onid yw’r ethnigion yn gwneuthur yr un peth? Byddwch chwi, gan hyny, yn berffaith fel y mae eich Tad nefol yn berffaith.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28