bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 21
Matthew 21
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 22 →
1
A phan nesasant at Ierwshalem, ac eu dyfod i Bethphage, i fynydd yr Olewydd, yna yr Iesu a ddanfonodd ddau ddisgybl,
2
gan ddywedyd wrthynt, Ewch i’r pentref ar eich cyfer, ac yn uniawn y cewch asen yn rhwym, ac ebol ynghyda hi: wedi eu gollwng dewch â hwynt Attaf.
3
Ac os neb a ddywaid ddim wrthych, dywedwch, yr Arglwydd sydd â rhaid wrthynt; ac yn uniawn y denfyn efe hwynt.
4
A hyn a ddigwyddodd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy’r prophwyd, gan ddywedyd,
5
“Dywedwch wrth Ferch Tsion, Wele, dy Frenin sy’n dyfod attat, Yn addfwyn, ac yn eistedd ar asyn ac ar ebol llwdn ysgrubl.”
6
Ac wedi myned o’r disgyblion, ac wedi gwneud fel y pennodasai’r Iesu iddynt,
7
daethant â’r asen a’r ebol, a dodasant arnynt eu cochlau;
8
a gosodasant Ef ar hyny. A’r rhan fwyaf o’r dyrfa a daenasant eu cochlau eu hunain ar y ffordd; ac eraill a dorrasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u taenasant ar y ffordd:
9
a’r torfeydd a oedd yn myned o’i flaen Ef, ac y rhai oedd yn dyfod ar ol, a waeddasant gan ddywedyd, “Hoshanna i Fab Dafydd, Bendigedig yw ’r Hwn sy’n dyfod yn enw Iehofa, Hoshanna yn y goruchafion!”
10
Ac wedi dyfod o Hono i mewn i Ierwshalem, cynnyrfwyd yr holl ddinas, gan ddywedyd, Pwy yw Hwn?
11
A’r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw’r Prophwyd, Iesu, yr Hwn sydd o Natsareth yn Galilea.
12
Ac aeth yr Iesu i mewn i deml Dduw, a thaflodd allan yr holl rai oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml; a byrddau y newidwyr arian a ddymchwelodd Efe, a chadeiriau y rhai yn gwerthu colommenod:
13
a dywedodd wrthynt, Ysgrifenwyd, “Fy nhŷ I, tŷ gweddi y’i gelwir,” ond chwychwi sydd yn ei wneud ef yn ogof lladron.
14
A daeth Atto ddeillion a chloffion, yn y deml, ac iachaodd Efe hwynt.
15
Ac wrth weled o’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnai Efe, ac y plant yn gwaeddi yn y deml ac yn dywedyd, “Hoshanna i Fab Dafydd,”
16
llidiasant, a dywedasant Wrtho, A glywi Di beth y mae y rhai hyn yn ei ddywedyd? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Clywaf. Oni fu i chwi erioed ddarllen, “O enau plant aflafar a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant?”
17
A chan eu gadael, yr aeth allan o’r ddinas i Bethania, a llettyodd yno.
18
A’r bore, pan ddychwelai i’r ddinas, yr oedd Arno chwant bwyd;
19
a chan weled ffigysbren ar y ffordd, daeth atto, ac ni chafodd ddim arno oddieithr dail yn unig, a dywedodd wrtho, Ddim mwy, oddi arnat ti, na fydded ffrwyth am byth; a chrino yn uniawn a wnaeth y ffigysbren.
20
Ac wrth weled, y disgyblion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymmwth y crinodd y ffigys-bren!
21
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Os bydd genych ffydd ac nad ammeuwch, nid yn unig yr hyn a fu i’r ffigys-bren a wnewch, eithr os hyd yn oed wrth y mynydd hwn y dywedwch, Coder di i fynu a’th fwrw i’r môr, digwydda;
22
a phob peth cymmaint ag a ofynoch mewn gweddi, a than gredu, a dderbyniwch.
23
Ac wedi dyfod o Hono i’r deml, daeth Atto, pan yn athrawiaethu, yr archoffeiriaid ac henuriaid y bobl, gan ddywedyd, trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? A phwy a roddes i Ti yr awdurdod hon?
24
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gofynaf Finnau hefyd i chwithau un gair, yr hwn os ei mynegwch i Mi, Minnau hefyd a ddywedaf i chwithau “trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.”
25
Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? Ai o’r nef, neu o ddynion? A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, “O’r nef,” dywaid Efe wrthym, Paham, gan hyny, na chredasoch ef?
26
ac os dywedwn, “O ddynion,” y mae arnom ofn y bobl, canys pawb a gymmerant Ioan megis prophwyd.
27
A chan atteb i’r Iesu, dywedasant, Nis gwyddom. Wrthynt hwy y dywedodd Efe hefyd, Nid wyf Finnau chwaith yn dywedyd wrthych “Trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.”
28
Ond pa beth yw eich barn chwi? Yr oedd gŵr a chanddo ddau fab. Ac wedi dyfod at y cyntaf, dywedodd, Fy mab, dos,
29
gweithia heddyw yn y winllan: ac efe, gan atteb, a ddywedodd, Nid ewyllysiaf, ond gwedi’n wedi edifarhau o hono, yr aeth.
30
Ac wedi dyfod at yr ail, dywedodd yr un modd; ac efe, gan atteb, a ddywedodd, Myfi a af, arglwydd; ac nid aeth.
31
Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad? Dywedasant, Y cyntaf. Dywedodd yr Iesu wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Y treth-gymmerwyr a’r putteiniaid a ant o’ch blaen chwi i mewn i deyrnas Dduw:
32
canys attoch y daeth Ioan gyda chrefydd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y treth-gymmerwyr a’r putteiniaid a’i credasant ef; a chwychwi, wedi gweled, nid edifarhasoch ar ol hyny fel y credech ef.
33
Clywch ddammeg arall. Yr oedd dyn o berchen tŷ, yr hwn a blannodd winllan; a chae a osododd efe yn ei chylch; a chloddiodd ynddi win-wryf: ac adeiladodd dŵr; a gosododd hi i lafurwyr; ac aeth i wlad ddieithr.
34
A phan nesaodd amser ffrwythau, danfonodd ei weision at y llafurwyr i dderbyn ei ffrwythau hi.
35
A’r llafurwyr, wedi dal ei weision, un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant.
36
Trachefn y danfonodd weision eraill, fwy na’r rhai cyntaf; a gwnaethant iddynt yn yr un modd.
37
A chwedi’n y danfonodd attynt ei fab, gan ddywedyd, Parchant fy mab.
38
Ond y llafurwyr, wedi gweled y mab, a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw’r etifedd; deuwch; lladdwn ef; a chymmerwn ei etifeddiaeth.
39
Ac wedi ei ddal ef, bwriasant ef allan o’r winllan, a lladdasant ef.
40
Gan hyny, pan ddêl arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i’r llafurwyr hyny?
41
Dywedasant Wrtho, Y drygddynion â drygfyd y difetha hwynt; a’r winllan a esyd efe i lafurwyr eraill, y rhai a dalant iddo y ffrwythau yn eu hamser.
42
Dywedodd yr Iesu wrthynt, oni fu i chwi erioed ddarllen yn yr Ysgrythyrau, “Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, Hwn a aeth yn ben i’r gongl; Oddiwrth yr Arglwydd y bu hyn, Ac y mae yn rhyfeddol yn ein golwg.”
43
Am hyny dywedaf wrthych, Oddi arnoch y dygir teyrnas Dduw, a rhoddir hi i genedl yn dwyn ei ffrwythau hi.
44
A’r hwn a syrthio ar y “maen” hwn, a ddryllir; ac ar yr hwn y syrthio, mâl efe ef yn chwilfriw.
45
Ac wedi clywed o’r archoffeiriaid a’r Pharisheaid y damhegion hyn, gwybuant mai am danynt hwy y dywedasai Efe;
46
ac wrth geisio o honynt Ei ddala Ef, ofnasant y torfeydd gan mai yn brophwyd y cymmerent Ef.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28