bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 25
Matthew 25
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 26 →
1
Yr amser hwnw tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddeg o forwynion, y rhai, wedi cymeryd eu llusernau, a aethant allan i gyfarfod â’r priodas-fab;
2
a phump o honynt oeddynt ynfyd,
3
a phump yn gall, canys y rhai ynfyd, wedi cymmeryd eu llusernau, ni chymmerasant gyda hwynt olew;
4
ond y rhai call a gymmerasant olew yn eu llestri ynghyda’u llusernau.
5
Ac wrth oedi o’r priod-fab, hepiasant oll, a hunasant.
6
Ac ar hanner nos, gwaedd fu, Wele y priodas-fab; deuwch allan i gyfarfod ag ef.
7
Yna y cyfododd yr holl forwynion hyny, a thrwsiasant eu llusernau;
8
a’r rhai ynfyd a ddywedasant wrth y rhai call, Rhoddwch i ni o’ch olew chwi, canys y mae ein llusernau yn diffoddi.
9
Ac attebodd y rhai call, gan ddywedyd, Nid felly, rhag ysgatfydd na byddo digon i ni ac i chwi; ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain.
10
A thra’r oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y priodas-fab; ac y rhai parod a aethant i mewn gydag ef i’r briodaswledd, a chauwyd y drws.
11
Ac wedi hyny dyfod y mae y morwynion eraill hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni.
12
Ac efe, gan atteb, a ddywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, nid adwaen chwi.
13
Gwyliwch, gan hyny, gan na wyddoch na’r dydd na’r awr.
14
Canys yn y modd y bu i ŵr yn myned i wlad ddieithr, alw ei weision ef a thraddodi iddynt ei dda:
15
ac i un y rhoddodd bum talent, ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ol ei allu ei hun; ac aeth i wlad ddieithr.
16
Yn uniawn yr aeth yr hwn a dderbyniasai’r bum talent, a marchnataodd â hwynt, a gwnaeth bum talent eraill.
17
Yn yr un modd hefyd yr hwn a dderbyniasai y ddwy, a wnaeth ddwy eraill.
18
Ond yr hwn a dderbyniasai yr un, wedi myned ymaith, a gloddiodd yn y ddaear, ac a guddiodd arian ei arglwydd.
19
Ac wedi amser maith, dyfod y mae arglwydd y gweision hyny, ac yn cymmeryd cyfrif â hwynt.
20
Ac wedi dyfod atto o’r hwn a dderbyniasai y bum talent, dug atto bum talent eraill, gan ddywedyd, Arglwydd, pum talent a draddodaist i mi; wele, pum talent eraill a ynnillais.
21
Dywedodd ei arglwydd wrtho, Da, was da a ffyddlon; ar ychydig y buost ffyddlon, ar lawer y’th osodaf di; dos i mewn i lawenydd dy arglwydd.
22
Ac wedi dyfod atto o’r hwn a dderbyniasai y ddwy dalent, dywedodd, Arglwydd, dwy dalent a draddodaist i mi: wele, dwy dalent eraill a ynnillais.
23
Dywedodd ei arglwydd wrtho, Da, was da a ffyddlon; ar ychydig y buost ffyddlon, ar lawer y’th osodaf di; dos i mewn i lawenydd dy arglwydd.
24
Ac wedi dyfod atto hefyd o’r hwn a dderbyniasai yr un dalent, dywedodd, Arglwydd, adwaenwn di mai gŵr caled wyt, yn medi lle ni heuaist, ac yn casglu lle ni wasgeraist;
25
a chan ofni yr aethum a chuddiais dy dalent yn y ddaear; wele, y mae i ti dy eiddot.
26
A chan atteb, ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Was drwg a diog, gwyddit fy mod yn medi lle ni heuais, ac yn casglu lle ni wasgerais;
27
dylesit, gan hyny, roddi fy arian at yr arianwyr, ac ar fy nyfodiad myfi a gawswn yr eiddof gyda llôg.
28
Cymmerwch, gan hyny, y dalent oddi arno, a rhoddwch i’r hwn sydd a chanddo y ddeg talent;
29
canys i bob un y sydd a chanddo, y rhoddir ac y bydd gorlawnder; ac oddiar yr hwn nad oes ganddo, hyd yn oed yr hyn sydd ganddo a gymmerir oddi arno.
30
A’r gwas anfuddiol bwriwch allan i’r tywyllwch mwyaf allanol, yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd.
31
Ond pan ddelo Mab y Dyn yn Ei ogoniant, a’r holl angylion gydag Ef, yna yr eistedd ar orseddfaingc Ei ogoniant;
32
a chyd-gesglir ger Ei fron Ef yr holl genhedloedd, a didola Efe hwynt oddi wrth eu gilydd, fel y mae’r bugail yn didoli’r defaid oddi wrth y geifr;
33
ac y gesyd y defaid ar Ei ddeheulaw, ac y geifr ar yr aswy.
34
Yna y dywaid y Brenhin wrth y rhai ar Ei ddeheulaw, Deuwch, fendigedigion Fy Nhad, etifeddwch y deyrnas a barottowyd i chwi er seiliad y byd;
35
canys chwant bwyd oedd Arnaf a rhoddasoch i Mi i fwytta; syched oedd Arnaf, a diodasoch Fi;
36
dieithr oeddwn, a dygasoch Fi i mewn; noeth, a dilladasoch Fi; claf oeddwn, ac ymwelsoch â Mi; yngharchar yr oeddwn, a daethoch Attaf.
37
Yna yr ettyb y cyfiawnion Iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom Di â chwant bwyd Arnat, ac y’ th borthasom;
38
neu â syched Arnat, ac y’ th ddiodasom; a pha bryd y’th welsom Di yn ddieithr, ac y’ th ddygasom i mewn; neu yn noeth, ac y’ th ddilladasom;
39
a pha bryd y’th welsom Di yn glaf, neu yngharchar, ac y daethom Attat?
40
A chan atteb, y Brenhin a ddywaid wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Cymmaint ag y’i gwnaethoch i un o’r rhai hyn, Fy mrodyr lleiaf, i Myfi y’i gwnaethoch.
41
Yna y dywaid Efe hefyd wrth y rhai ar yr aswy, Ewch oddi Wrthyf, felldigedigion, i’r tân tragywyddol, yr hwn a barottowyd i ddiafol ac i’w angylion;
42
canys chwant bwyd oedd Arnaf, ac ni roisoch i Mi i fwytta: syched oedd Arnaf, ac ni ddiodasoch Fi;
43
dieithr oeddwn, ac ni ddygasoch Fi i mewn; yn noeth, ac ni ddilladasoch Fi; yn glaf ac yngharchar, ac nid ymwelsoch â Mi.
44
Yna yr attebant hwythau hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom Di â chwant bwyd Arnat, neu â syched Arnat, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yngharchar, ac na weiniasom i Ti?
45
Yna yr ettyb Efe iddynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Cymmaint ac nis gwnaethoch i un o’r rhai lleiaf hyn, i Mi nis gwnaethoch mo’no.
46
Ac ymaith yr aiff y rhai hyn i gospedigaeth dragywyddol, ond y cyfiawnion i fywyd tragywyddol.
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 26 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28