bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 24
Matthew 24
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 25 →
1
Ac wedi myned o’r Iesu allan o’r deml, ar Ei ffordd yr oedd, a daeth Ei ddisgyblion i ddangos Iddo adeiladau y deml.
2
Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Oni welwch yr holl bethau hyn? Yn wir y dywedaf wrthych, Ni adewir yma, er dim, garreg ar garreg yr hon ni ddattodir.
3
Ac wrth eistedd o Hono ar fynydd yr Olewydd, daeth Ei ddisgyblion Atto o’r neilldu, gan ddywedyd, Dywaid wrthym, pa bryd y mae’r pethau hyn i fod, a pha beth fydd arwydd Dy ddyfodiad ac o ddiwedd y byd.
4
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt,
5
Edrychwch na fo i neb eich dwyn chwi ar gyfeiliorn, canys llawer a ddeuant yn Fy enw, gan ddywedyd, Myfi wyf y Crist; a llawer a ddygant hwy ar gyfeiliorn.
6
Ac yr ydych ar fedr clywed am ryfeloedd, a son am ryfeloedd. Edrychwch na chyffroer chwi, canys rhaid iddynt ddigwydd; ond nid etto y mae’r diwedd;
7
cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas; a bydd newynau a daeargrynfaau mewn mannau.
8
Yr holl bethau hyn ydynt ddechreuad gwewyr.
9
Yna y traddodant chwi i orthrymder,
10
a lladdant chwi, ac y byddwch yn gâs gan yr holl Genhedloedd o achos Fy enw.
11
Ac yna y tramgwyddir llawer, ac y naill y llall a draddodant, ac y casant y naill y llall. A llawer o au-brophwydi a gyfodant, ac a ddygant lawer ar gyfeiliorn;
12
ac o herwydd amlhau o anghyfraith, yr oera cariad y rhan fwyaf;
13
ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, hwnw fydd gadwedig.
14
A phregethir yr efengyl hon am y deyrnas yn yr holl fyd, yn dystiolaeth i’r holl Genhedloedd: ac yna y daw y diwedd.
15
Gan hyny, pan weloch y ffieidd-dra anghyfaneddus, yr hwn a ddywedwyd trwy Ddaniel brophwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd,
16
(yr hwn sy’n darllen, dealled,) yna y rhai yn Iwdea, ffoant i’r mynyddoedd;
17
a’r hwn ar ben y tŷ, na ddisgyned i gymmeryd y pethau o’i dŷ,
18
a’r hwn yn y maes, na ddychweled yn ei ol i gymmeryd ei gochl.
19
A gwae y rhai a chanddynt yn y groth, a’r rhai yn rhoi bronnau yn y dyddiau hyny.
20
A gweddïwch na byddo eich ffoedigaeth y gauaf nac ar Sabbath,
21
canys bydd, yr amser hwnw, orthrymder mawr, y fath na ddigwyddodd o ddechreu’r byd hyd yn awr, ac na fydd ddim o gwbl.
22
Ac oni bai byrhau’r dyddiau hyny, ni fyddai gadwedig un cnawd oll; ond o achos yr etholedigion byrheir y dyddiau hyny.
23
Yr amser hwnw, os wrthych y dywaid neb, Wele, llyma y Crist, neu Llyma, na chredwch;
24
canys cyfyd gau-Gristiau a gau-brophwydi; a rhoddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, fel ag i ddwyn ar gyfeiliorn, pe bai bosibl, hyd yn oed yr etholedigion.
25
Wele, rhag-ddywedais wrthych.
26
Os, gan hyny, dywedant wrthych, Wele, yn yr anialwch y mae, nac ewch allan; Wele, yn yr ystafelloedd, na chredwch;
27
canys fel y mae’r fellten yn dyfod allan o’ r dwyrain ac yn ymddangos hyd y gorllewin, felly y bydd dyfodiad Mab y Dyn.
28
Pa le bynnag y bo’r gelain, yno y cyd-gesglir yr adar rheibus.
29
Ac yn uniawn ar ol gorthrymder y dyddiau hyny, yr haul a dywyllir, a’r lleuad ni rydd ei goleuni, a’r ser a syrthiant o’r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.
30
Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y Dyn yn y nef: ac yna y galara holl lwythau’r ddaear: a gwelant Fab y Dyn yn dyfod ar gymmylau’r nef gyda nerth a gogoniant mawr;
31
a denfyn Efe Ei angylion gydag udgorn mawr-leisiog, a chasglant ynghyd Ei etholedigion Ef o’r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd.
32
Ac oddiwrth y ffigysbren dysgwch ei ddammeg. Pan yw ei gangen yn awr yn dyner, ac ei ddail a fwrw efe allan,
33
gwyddoch mai agos yw’r haf: felly chwithau hefyd, pan weloch yr holl bethau hyn, gwybyddwch mai agos yw Efe, wrth y drysau.
34
Yn wir y dywedaf wrthych, Nid aiff y genhedlaeth hon ddim heibio nes i’r holl bethau hyn ddigwydd.
35
Y nef a’r ddaear a ant heibio, ond fy ngeiriau nid ant heibio ddim.
36
Ond am y dydd hwnw, a’r awr, nid oes neb a ŵyr, nac angylion y nefoedd, nac y Mab, neb oddieithr Y Tad yn unig.
37
Ac fel yr oedd dyddiau Noe, felly y bydd dyfodiad Mab y Dyn;
38
canys yn yr un modd ag yr oeddynt yn y dyddiau hyny, y rhai cyn y diluw, yn bwytta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodi, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch,
39
ac ni wybuant nes y daeth y diluw ac y cymmerth hwynt oll; felly y bydd dyfodiad Mab y Dyn.
40
Yr amser hwnw dau fydd yn y maes, un a gymmerir, a’r llall a adewir;
41
dwy fydd yn malu â’r felin, un a gymmerir, a’r llall a adewir.
42
Gwyliwch, gan hyny, gan na wyddoch pa awr y mae eich Arglwydd yn dyfod.
43
A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gŵr y tŷ ym mha wyliedwriaeth y byddai’r lleidr yn dyfod, gwyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd.
44
Am hyny, chwithau hefyd, byddwch barod; canys yr awr na thybiwch y mae Mab y Dyn yn dyfod.
45
Pwy, ynte, yw’r gwas ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd?
46
Gwyn ei fyd y gwas hwnw yr hwn, wedi dyfod o’i arglwydd, a gaiff efe yn gwneuthur felly.
47
Yn wir y dywedaf wrthych, Ar ei holl eiddo y gesyd efe ef.
48
Ond os dywaid y gwas drwg accw yn ei galon, Oedi y mae fy arglwydd,
49
a dechreu curo ei gydweision, a bwytta ac yfed gyda’r meddwon,
50
daw arglwydd y gwas hwnw ar ddydd nad yw efe yn disgwyl,
51
ac ar awr na ŵyr efe; a gwahana efe ef, a’i ran ef a esyd efe gyda’r rhagrithwyr, yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28