bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 17
Matthew 17
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 18 →
1
Ac ar ol chwe diwrnod y cymmerodd yr Iesu Petr, ac Iago, ac Ioan ei frawd, ac y’u dug hwynt i fynu i fynydd uchel, o’r neilldu.
2
A gwedd-newidiwyd Ef ger eu bron; a disgleiriodd Ei wyneb fel yr haul, a’i ddillad a aethant yn wynion fel y goleuni.
3
Ac wele, gwelwyd ganddynt Mosheh ac Elias ynghydag Ef,
4
yn ymddiddan ag Ef. A chan atteb, Petr a ddywedodd wrth yr Iesu, Ardderchog yw bod o honom yma. Os ewyllysi, gwnaf yma dair pabell; i Ti, un; ac i Mosheh, un; ac i Elias, un.
5
Ac efe etto yn llefaru, wele, cwmmwl goleu a’u cysgododd hwynt: ac wele, llais o’r cwmmwl yn dywedyd, Hwn yw Fy Mab anwyl yn yr Hwn y’m boddlonwyd: Arno Ef gwrandewch.
6
Ac wedi clywed, y disgyblion a syrthiasant ar eu gwyneb, a dychrynwyd hwynt yn ddirfawr.
7
Ac wedi dyfod attynt, yr Iesu a gyffyrddodd â hwynt, a dywedodd, Cyfodwch ac nac ofnwch.
8
Ac wedi dyrchafu eu llygaid, ni welsant neb oddieithr yr Iesu ar Ei ben Ei hun.
9
Ac wrth ddisgyn o honynt o’r mynydd, gorchymynodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth wrth neb, hyd oni fo Mab y Dyn wedi adgyfodi o feirw.
10
A gofynodd y disgyblion Iddo, gan ddywedyd, Paham, ynte, y mae’r ysgrifenyddion yn dywedyd fod yn rhaid i Elias ddyfod yn gyntaf?
11
Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd, Elias yn wir sy’n dyfod, ac a edfryd bob peth;
12
a dywedaf wrthych, Elias a ddaeth eisoes, ac nid adnabuant ef, eithr gwnaethant iddo gymmaint ag a ewyllysiasant. Felly y mae Mab y Dyn hefyd ar fedr dioddef ganddynt.
13
Yna y deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedodd wrthynt.
14
Ac wedi dyfod o honynt at y dyrfa, daeth Atto ddyn yn penlinio Iddo,
15
ac yn dywedyd, Arglwydd, tosturia wrth fy mab, canys lloerig yw, ac yn dioddef yn dost; canys mynych y syrth yn y tân, ac yn fynych yn y dwfr;
16
a dygais ef at Dy ddisgyblion, ac ni allent ei iachau ef.
17
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, O genhedlaeth ddiffydd a throfaus, hyd pa bryd y byddaf gyda chwi? Hyd ba bryd y dioddefaf chwi? Dygwch ef Attaf yma.
18
A’i ddwrdio ef a wnaeth yr Iesu, ac aeth y cythraul allan o hono; ac iachawyd y bachgen o’r awr honno.
19
Yna y disgyblion, wedi dyfod at yr Iesu o’r neilldu, a ddywedasant, Paham nad oeddym ni yn gallu ei fwrw ef allan?
20
Ac Efe a ddywedodd wrthynt, O achos eich ychydig ffydd: canys yn wir y dywedaf wrthych, Pe bai genych ffydd fel gronyn o had mwstard, dywedech wrth y mynydd hwn, Dos drosodd oddi yma accw, a myned trosodd a wnae; ac ni fyddai dim yn ammhosibl i chwi.
22
Ac a hwy yn ymdeithio yn Galilea, dywedodd yr Iesu wrthynt, Y mae Mab y Dyn ar fedr Ei draddodi i ddwylaw dynion, a lladdant Ef;
23
a’r trydydd dydd y cyfyd Efe; a thristhawyd hwynt yn ddirfawr.
24
Ac wedi dyfod o honynt i Caphernahwm, daeth y rhai oedd yn derbyn y ddau-ddrachma, at Petr, a dywedasant, Onid yw eich Athraw yn talu’r ddau-ddrachma? Dywedodd efe, Ydyw.
25
A phan ddaethai i’r tŷ, achubodd yr Iesu ei flaen ef, gan ddywedyd, Pa beth yw dy farn di, Shimon? Brenhinoedd y ddaear, gan bwy y derbyniant doll neu dreth? Gan eu meibion eu hun, neu gan estroniaid?
26
A phan ddywedodd efe Gan estroniaid, ebr yr Iesu wrtho, Gan hyny ynte, rhydd yw’r meibion.
27
Ond fel na pharom dramgwydd iddynt, dos i’r môr a bwrw fach; a’r pysgodyn a ddaw i fynu yn gyntaf, coda ef; ac wedi agoryd ei safn, cei stater: hwnw cymmer, a dyro iddynt Drosof Fi a thi.
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28