bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 2
Matthew 2
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 3 →
1
A’r Iesu wedi Ei eni yn Bethlehem Iwdea, yn nyddiau Herod frenhin, wele, doethion o’r dwyrain a ddaethant i Ierwshalem, gan ddywedyd,
2
Pa le y mae brenhin yr Iuddewon y sydd wedi Ei eni? canys gwelsom Ei seren Ef yn y dwyrain, a daethom i’w addoli Ef.
3
Ac wedi clywed hyn, Herod frenhin a gynnyrfwyd, a holl Ierwshalem gydag ef,
4
a chwedi dwyn ynghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, ymofynodd â hwynt, Pa le y mae Crist i’w eni?
5
A hwy a ddywedasant wrtho, Yn Bethlehem Iwdea, canys fel hyn yr ysgrifenwyd trwy’r prophwyd,
6
“A thydi, Bethlehem, tir Iwdea, Nid y lleiaf wyt er dim ym mhlith tywysogion Iwdah, Canys o honot y daw allan dywysog, Yr hwn a fugeilia Fy mhobl Israel.”
7
Yna Herod, wedi galw’r doethion yn ddirgel, a gafodd wybodaeth fanwl ganddynt am amser ymddangosiad y seren;
8
a chan eu danfon i Bethlehem, dywedodd, Ewch a chwiliwch yn fanwl am y plentyn; a phan gaffoch Ef, mynegwch i mi, fel y bo i minnau hefyd ddyfod a’i addoli Ef.
9
A hwy, wedi clywed y brenhin, a aethant; ac wele, y seren a welsent yn y dwyrain, a aeth o’u blaen, hyd oni ddaeth a sefyll goruwch y lle yr oedd y plentyn.
10
A phan welsant y seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben.
11
Ac wedi dyfod i’r tŷ, gwelsant y plentyn gyda Mair Ei fam; ac wedi syrthio i lawr addolasant Ef; ac wedi agoryd eu trysorau, offrymmasant Iddo anrhegion, aur a thus a myrr.
12
Ac wedi eu rhybuddio mewn breuddwyd, gan Dduw, i beidio â dychwelyd at Herod, hyd ffordd arall yr aethant yn eu holau i’w gwlad.
13
Ac wedi myned o honynt, wele, angel yr Arglwydd yn ymddangos, mewn breuddwyd, i Ioseph, gan ddywedyd, Cyfod, a chymmer y plentyn a’i fam, a ffo i’r Aipht; a bydd yno hyd oni ddywedwyf wrthyt, canys y mae Herod ar fedr ceisio’r plentyn er mwyn Ei ladd Ef.
14
Ac wedi cyfodi o hono, cymmerth efe y plentyn a’i fam o hŷd nos, a chiliodd i’r Aipht;
15
a bu yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r prophwyd, gan ddywedyd, “O’r Aipht y gelwais Fy Mab.”
16
Yna Herod, pan weles ei watwar gan y doethion, a ffrommodd yn aruthr, ac a ddanfonodd ac a laddodd yr holl fechgyn oedd yn Bethlehem ac yn ei holl gyffiniau, o ddwy flwydd oed a than hyny, wrth yr amser y cawsai wybodaeth fanwl gan y doethion.
17
Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Ieremiah y prophwyd, gan ddywedyd,
18
“Llef yn Rama a glybuwyd, Wylofain a galar mawr; Rachel yn wylo am ei phlant, Ac ni fynnai ei chysuro, am nad ydynt.”
19
Ac wedi marw Herod, wele, angel yr Arglwydd, mewn breuddwyd,
20
a ymddangosodd i Ioseph yn yr Aipht, gan ddywedyd, Cyfod a chymmer y plentyn a’i fam, a dos i dir Israel, canys bu farw y rhai oedd yn ceisio einioes y plentyn.
21
Ac efe, wedi cyfodi, a gymmerth y plentyn a’i fam, ac a ddaeth i dir Israel;
22
ond wedi clywed fod Archelaus yn teyrnasu yn Iwdea yn lle Herod, ei dad, ofnodd fyned yno: ac wedi ei rybuddio mewn breuddwyd, ciliodd i barthau Galilea,
23
a daeth a thrigodd mewn dinas a elwid Natsareth, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r prophwydi, “Natsaread a elwir Ef.”
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28