bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 12
Matthew 12
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 13 →
1
Yr amser hwnw yr aeth yr Iesu ar y Sabbath trwy’r maesydd ŷd; ac ar Ei ddisgyblion yr oedd chwant bwyd, a dechreuasant dynnu tywys a bwytta.
2
A’r Pharisheaid, gan weled, a ddywedasant Wrtho, Wele, Dy ddisgyblion sy’n gwneud yr hyn nad yw gyfreithlon ei wneuthur ar ddydd Sabbath.
3
Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd, pan yr oedd chwant bwyd arno, a’r rhai gydag ef;
4
y modd yr aeth i mewn i dŷ Dduw, a bara’r gosodiad ger bron a fwyttaodd efe, yr hwn nid cyfreithlon ydoedd iddo ei fwytta, nac i’r rhai gydag ef, ond i’r offeiriaid yn unig?
5
Neu, oni ddarllenasoch yn y Gyfraith, fod yr offeiriaid ar y Sabbathau, yn y deml, yn halogi’r Sabbath, ac eu bod yn ddieuog?
6
Ond dywedaf wrthych, Yr hyn sy fwy na’r deml, sydd yma.
7
Ond pe gwybuasech pa beth yw, “Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth,”
8
ni chondemniasech y rhai dieuog, canys Arglwydd y Sabbath yw Mab y Dyn.
9
Ac wedi myned oddi yno, daeth i’w sunagog hwynt;
10
ac wele, dyn a llaw ganddo wedi gwywo: a gofynasant Iddo, Ai cyfreithlon ar y Sabbath yw iachau? fel y cyhuddent Ef.
11
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn fydd o honoch, a chanddo un ddafad, ac o syrth hon ar y Sabbath i ffos, nad ymeifl ynddi, a’i chodi?
12
Pa faint, ynte, y rhagora dyn ar ddafad? Felly cyfreithlon ar y Sabbath yw gwneuthur yn dda.
13
Yna y dywedodd wrth y dyn, Estyn dy law; ac estynodd efe hi, ac adferwyd hi yn iach fel y llall.
14
Ac wedi myned allan, y Pharisheaid a gymmerasant gynghor yn Ei erbyn, pa fodd y difethent Ef.
15
A’r Iesu gan wybod, a giliodd oddiyno; ac Ei ganlyn a wnaeth llawer,
16
ac iachaodd hwynt, a dwrdiodd hwynt oll na wnaent Ef yn amlwg;
17
fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eshaiah y prophwyd, gan ddywedyd,
18
“Wele Fy ngwas yr hwn a ddewisais, Fy Anwylyd, yn yr Hwn y boddlonwyd Fy enaid: Gosodaf Fy Yspryd Arno, A barn a fynega Efe i’r Cenhedloedd.
19
Nid ymryson Efe, na gwaeddi; Ac ni chlyw neb yn y llydanfeydd Ei lais Ef.
20
Corsen ysig ni ddryllia Efe, A llin yn mygu ni ddiffydd, Hyd oni ddygo farn allan i fuddugoliaeth.
21
Ac yn Ei enw y Cenhedloedd a obeithiant.”
22
Yna y dygpwyd Atto un cythreulig, dall a mud; ac iachaodd Efe ef, fel y bu i’r mudan lefaru a gweled:
23
a synnodd yr holl dorfeydd, a dywedasant, Ai hwn yw Mab Dafydd?
24
Ond y Pharisheaid, pan glywsant, a ddywedasant, Hwn, nid yw yn bwrw allan y cythreuliaid, ond trwy Beelzebub, pennaeth y cythreuliaid.
25
A chan wybod eu meddyliau, dywedodd Efe wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun a anghyfaneddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif:
26
ac os Satan a fwrw allan Satan, yn ei erbyn ei hun yr ymrannodd: pa wedd, gan hyny, y saif ei deyrnas?
27
Ac os Myfi wyf trwy Beelzebub yn bwrw allan y cythreuliaid, eich meibion chwi, trwy bwy y maent yn bwrw allan? Am hyny, hwy a fyddant eich barnwyr.
28
Ond os Myfi wyf trwy Yspryd Duw yn bwrw allan y cythreuliaid, yna y daeth teyrnas Dduw attoch.
29
Neu pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ y cadarn ac yspeilio ei dda ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn? ac yna yr yspeilia ei dŷ ef.
30
Yr hwn nad yw gyda Mi, yn Fy erbyn y mae; ac yr hwn nad yw’n casglu gyda Mi, gwasgaru y mae.
31
Am hyny y dywedaf wrthych, Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion, ond y cabledd yn erbyn yr Yspryd Glân ni faddeuir:
32
a phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y Dyn, maddeuir iddo; ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Yspryd Glân, ni faddeuir iddo, nac yn yr einioes hon nac yn yr hon a fydd.
33
Naill ai gwnewch y pren yn dda a’i ffrwyth yn dda, neu gwnewch y pren yn llygredig a’i ffrwyth yn llygredig, canys wrth y ffrwyth yr adwaenir y pren.
34
Eppil gwiberod, pa wedd y gellwch lefaru pethau da, a chwi yn ddrwg, canys o orlawnder y galon y mae’r genau yn llefaru?
35
Y dyn da, o’r trysor da, a ddwg allan bethau da; a’r dyn drwg, o’r trysor drwg, a ddwg allan bethau drwg.
36
A dywedaf wrthych, Pob ymadrodd segur yr hwn a adrodd dynion, rhoddant gyfrif am dano yn nydd y farn,
37
canys wrth dy eiriau y’th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y’th gondemnir.
38
Yna yr attebodd rhai o’r Ysgrifenyddion a’r Pharisheaid Iddo, gan ddywedyd, Athraw, ewyllysiem weled arwydd Genyt.
39
Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Cenhedlaeth ddrwg a godinebus, arwydd a gais hi; ac arwydd ni roddir iddi,
40
ond arwydd y prophwyd Ionah: canys fel yr oedd Ionah ym mol y morfil dridiau a thair nos, felly y bydd Mab y Dyn ynghalon y ddaear dridiau a thair nos.
41
Gwŷr Ninefe a gyfodant yn y farn gyda’r genhedlaeth hon ac a’i condemniant hi, canys edifarhasant wrth bregethiad Ionah, ac wele, mwy nag Ionah yma.
42
Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemnia hi, canys daeth o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Shalomon, ac wele, mwy na Shalomon yma.
43
A phan fo’r yspryd aflan wedi myned allan o ddyn, rhodia trwy leoedd diddwfr, gan geisio gorphwysdra, ac nid yw yn ei gael:
44
yna y dywaid, Dychwelaf i’m tŷ o’r lle y daethum allan; ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a’i drwsio.
45
Yna yr â ac a gymmer gydag ef ei hun saith yspryd eraill, gwaeth nag ef ei hun; ac wedi myned i mewn cyfanneddant yno; a gwneir cyflwr olaf y dyn hwnw yn waeth na’i gyntaf: felly y bydd i’r genhedlaeth ddrwg hon hefyd.
46
Ac Efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele, Ei fam a’ i frodyr oeddynt yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan ag Ef.
47
A dywedodd rhyw un Wrtho, Wele, Dy fam a’th frodyr, allan y safant yn ceisio ymddiddan â Thi.
48
Ac Efe gan atteb, a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai Wrtho, Pwy yw Fy mam?
49
A phwy yw Fy mrodyr? Ac wedi estyn Ei law tuag at Ei ddisgyblion, dywedodd, Wele Fy mam a’m brodyr:
50
canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd, efe, Fy mrawd I, a’m chwaer, ac Fy mam yw.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28