bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 27
Matthew 27
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 28 →
1
A’r bore wedi dyfod, cyngor a gymmerodd yr holl archoffeiriaid ac henuriaid y bobl yn erbyn yr Iesu, i’w roddi Ef i farwolaeth;
2
ac wedi Ei rwymo Ef, dygasant Ef ymaith, a thraddodasant Ef i Pontius Pilat y rhaglaw.
3
Yna wedi gweled o Iwdas yr hwn a’i traddododd, y condemniwyd Ef gan edifarhau y dug drachefn y deg ar hugain arian at yr archoffeiriaid â’ r henuriaid,
4
gan ddywedyd, Pechais gan draddodi gwaed diniweid. A hwy a ddywedasant, Pa beth yw hyny i ni?
5
Tydi a edrych. Ac wedi taflu yr arian i’r cyssegr, ciliodd ymaith; ac wedi myned ymaith, ymgrogodd.
6
A’r archoffeiriaid, wedi cymmeryd yr arian, a ddywedasant, nid yw gyfreithlon eu bwrw i’r drysorfa, gan mai gwerth gwaed yw.
7
A chyngor a gymmerasant, a phrynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa i ddieithriaid;
8
o herwydd paham y galwyd y maes hwnw “Maes gwaed,” hyd heddyw.
9
Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Ieremiah y prophwyd, “A chymmerasant y deg ar hugain arian, pris y prisiedig, Yr hwn a brisiasant oddi wrth feibion Israel;
10
A rhoisant hwynt am faes y crochenydd, Yn ol yr hyn a ordeiniodd yr Arglwydd i mi.”
11
A’r Iesu a safodd ger bron y rhaglaw, a gofynodd y rhaglaw Iddo, gan ddywedyd, Ai Tydi wyt brenhin yr Iuddewon? A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedi.
12
Ac wrth Ei gyhuddo gan yr Archoffeiriaid a’ r henuriaid, ddim atteb o gwbl ni roes Efe.
13
Yna y dywedodd Pilat Wrtho, Oni chlywi pa faint o bethau a dystiolaethant yn Dy erbyn?
14
Ac nid attebodd iddo ef, nid i gymmaint ag un gair, fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn ddirfawr.
15
Ac ar yr wyl honno yr arferai y rhaglaw ollwng yn rhydd i’r dyrfa un carcharor, yr hwn a ewyllysient.
16
Ac yr oedd ganddynt yr amser hwn garcharor hynod a elwid Barabba.
17
Gan hyny, wedi ymgasglu o honynt ynghyd, gofynodd Pilat iddynt, Pwy a ewyllysiwch ei ollwng yn rhydd genyf i chwi?
18
Barabba; neu yr Iesu, yr hwn a elwir Crist? Canys gwyddai mai o genfigen y traddodasant Ef.
19
Ac efe yn eistedd ar y frawd-faingc, danfonodd ei wraig atto, gan ddywedyd, Na fydded i ti ddim a wnelych â’r cyfiawn hwnw, canys llawer a ddioddefais heddyw mewn breuddwyd o’i achos Ef.
20
A’r archoffeiriaid a’r henuriaid a berswadiasant y torfeydd i ofyn Barabba, ac i ddifetha’r Iesu.
21
A chan atteb, y rhaglaw a ddywedodd wrthynt, Pa un o’r ddau a ewyllysiwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? A hwy a ddywedasant, Barabba.
22
Dywedodd Pilat wrthynt, Pa beth, gan hyny, a wnaf i’r Iesu, yr Hwn a elwir Crist?
23
Dywedasant oll, Croes-hoelier Ef. Ac efe a ddywedodd, Canys pa ddrwg a wnaeth Efe? A hwy a ddirfawr-waeddasant, gan ddywedyd, Croes-hoelier Ef.
24
A chan weled o Pilat nad oedd efe yn tycio ddim, eithr i radd mwy fod y cynnwrf yn myned, gan gymmeryd dwfr y golchodd ei ddwylaw ger bron y dyrfa, gan ddywedyd, dieuog wyf oddiwrth waed y Cyfiawn hwn; bydded i chwi edrych.
25
A chan atteb, yr holl bobl a ddywedodd, Ei waed, arnom ni ac ar ein plant y bo.
26
Yna y gollyngodd efe yn rhydd iddynt Barabba; ac yr Iesu, ar ol Ei fflangellu Ef, a draddododd efe i’w groes-hoelio.
27
Yna milwyr y rhaglaw, wedi cymmeryd yr Iesu i’r palas, a gynnullasant Atto yr holl fyddin;
28
ac wedi Ei ddiosg, rhoisant am Dano fantell o ysgarlad:
29
ac wedi plethu coron o ddrain, gosodasant hi ar Ei ben, a chorsen yn Ei law ddehau; a chan benlinio o’i flaen Ef, gwatwarasant Ef, gan ddywedyd, Henffych well, Brenhin yr Iuddewon!
30
Ac wedi poeri Arno, cymmerasant y gorsen ac a’i tarawsant ar Ei ben.
31
A phan gwatwarasant Ef, diosgasant Ef o’r fantell, a rhoisant am Dano Ei ddillad Ei hun, a dygasant Ef ymaith i’w groes-hoelio Ef.
32
Ac wrth ddyfod allan cawsant ddyn o Cyrene, a’i enw Shimon;
33
hwn a gymmellasant i ddwyn Ei groes Ef. Ac wedi dyfod i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir Lle’r benglog,
34
rhoisant Iddo i’w yfed win yn gymmysgedig â bustl;
35
ac wedi ei brofi o Hono nid ewyllysiai yfed.
36
Ac wedi Ei groes-hoelio Ef, rhannasant Ei ddillad, gan fwrw coelbren; a chan eistedd, gwyliasant Ef yno.
37
A gosodasant uwch Ei ben Ei gyhuddiad yn ysgrifenedig, Hwn yw Iesu Brenhin yr Iuddewon.
38
Yna y croes-hoeliwyd gydag Ef ddau leidr, un ar y llaw ddehau ac un ar yr aswy.
39
A’r rhai yn myned heibio a’i cablasant Ef, gan siglo eu pennau, a dywedyd,
40
Yr hwn wyt yn dinystrio’r deml, ac mewn tridiau y’i hadeiledi, gwared Dy Hun: os Mab Duw wyt, tyr’d i lawr oddi ar y groes.
41
Mewn cyffelyb fodd yr archoffeiriaid hefyd, gan watwar ynghyda’r ysgrifenyddion a’ r henuriaid, a
42
ddywedasant, Eraill a waredodd Efe, Ef Ei hun ni all Ei waredu. Brenhin Israel yw! Deued i lawr yn awr oddi ar y groes, a chredwn Ynddo.
43
Ymddiriedodd yn Nuw. Gwareded Efe Ef yr awr hon, os ewyllysia Ef; canys dywedodd Mab Duw wyf.
44
Ac yr un peth y lladron hefyd a groes-hoeliwyd gydag Ef, a edliwiasant Iddo.
45
Ac o’r chweched awr tywyllwch fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr:
46
ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef fawr, gan ddywedyd, Eli, Eli, lama shabacthani?
47
hyny yw, Fy Nuw, Fy Nuw, paham y’m gadewaist? A rhai o’r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Ar Elias y geilw hwn.
48
Ac yn uniawn gan redeg o un o honynt, ac wedi cymmeryd ysbwng, a’i llenwi o finegr a’i rhoddi am gorsen, diododd Ef:
49
ond y lleill a ddywedasant, Gad Iddo; edrychwn a ddaw Elias i’w waredu Ef.
50
A’r Iesu, wedi gwaeddi etto â llef fawr, a ymadawodd â’r yspryd.
51
Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fynu hyd i wared; a’r ddaear a ysgydwyd; a’r creigiau a rwygwyd;
52
a’r beddau a agorwyd; a llawer o gyrph y saint oedd yn huno,
53
a gyfodasant, ac wedi dyfod allan o’r beddau ar ol Ei gyfodiad Ef, aethant i mewn i’r ddinas sanctaidd, ac ymddangosasant i lawer.
54
A’r canwriad, a’r rhai ynghydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaear-gryn a’r pethau a ddigwyddasant, a ofnasant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw oedd Hwn.
55
Ac yr oedd yno wragedd lawer yn edrych, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo;
56
ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago, ac Iose, a mam meibion Zebedëus.
57
A’r hwyr wedi dyfod, daeth gŵr goludog o Arimathea, a’i enw Ioseph, yr hwn oedd yntau hefyd yn ddisgybl i’r Iesu.
58
Hwn, wedi myned at Pilat, a ofynodd gorph yr Iesu.
59
Yna Pilat a orchymynodd ei roddi. Ac wedi cymmeryd y corph,
60
Ioseph a’i hamdôdd â lliain glân, a gosododd Ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorrasai efe yn y graig; ac wedi treiglo maen mawr at ddrws y bedd, aeth ymaith.
61
Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a’r Mair arall, yn eu heistedd gyferbyn â’r bedd.
62
A thrannoeth, yr hwn sydd ar ol y Darpariad, yr ymgynhullodd yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid at Pilat,
63
gan ddywedyd, Arglwydd, cofiwn y bu i’r arweinydd ar gyfeiliorn hwnw ddywedyd, tra etto yn fyw, Wedi tridiau cyfodi yr wyf.
64
Gorchymyn, gan hyny, wneud y bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd, rhag ysgatfydd, wedi dyfod o’i ddisgyblion, iddynt Ei ladratta Ef, a dywedyd wrth y bobl, Cyfododd o feirw; a bydd y cyfeiliornad diweddaf yn waeth na’r cyntaf.
65
Dywedodd Pilat wrthynt, Y mae genych wyliadwriaeth: ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medrwch.
66
A hwy, wedi myned, a wnaethant y bedd yn ddiogel, gan selio’r maen, ynghyda’r wyliadwriaeth.
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 28 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28