bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 22
Matthew 22
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 23 →
1
A chan atteb, yr Iesu a lefarodd etto wrthynt mewn damhegion,
2
gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i frenhin a wnaeth briodaswledd i’w fab;
3
ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i’r briodas, ac nid ewyllysient ddyfod.
4
Trachefn y danfonodd efe weision eraill, gan ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, Wele, fy nghiniaw a barottoais; fy ychen a’m pasgedigion sydd wedi eu lladd, a phob peth yn barod: deuwch i’r briodaswledd.
5
A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymaith; un i’w faes ei hun, ac arall i’w fasnach;
6
a’r lleill, wedi dala ei weision, a’u sarasant ac a’u lladdasant.
7
A’r brenhin a lidiodd; ac wedi danfon ei luoedd, dinystriodd y lleiddiaid hyny, ac eu dinas a losgodd efe.
8
Yna y dywedodd wrth ei weision, Y briodaswledd yn wir sydd barod; ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng.
9
Ewch, gan hyny, i’r croes-ffyrdd; a chynnifer ag a gaffoch, gwahoddwch hwynt i’r briodaswledd.
10
Ac wedi myned allan o’r gweision hyny i’r ffyrdd, casglasant ynghyd gynnifer oll ag a gawsant, drwg a da; a llanwyd y briodaswledd o rai yn lled-orwedd wrth y ford.
11
Ac wedi dyfod i mewn o’r brenhin i weled y rhai yn eu lled-orwedd,
12
gwelodd yno ddyn heb ei wisgo â gwisg priodas; a dywedodd wrtho, Cyfaill, pa fodd y daethost i mewn yma heb fod ag am danat wisg priodas? ac yntau a aeth yn fud.
13
Yna y brenhin a ddywedodd wrth y gweinidogion, Wedi rhwymo ei draed ef a’ i ddwylaw, teflwch ef allan i’r tywyllwch mwyaf allanol: yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd:
14
canys llawer yw’ r galwedigion, ond ychydig y rhai a ddewiswyd.
15
Yna wedi myned o’r Pharisheaid, cynghor a gymmerasant, pa fodd y maglent Ef mewn ymadrodd;
16
a danfonasant Atto eu disgyblion ynghyda’r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athraw, gwyddom mai gwir wyt, ac mai crefydd Dduw a ddysgi mewn gwirionedd, ac na waeth Genyt beth fo undyn; canys nid wyt yn edrych ar wyneb dynion.
17
Dywaid, gan hyny, wrthym pa beth yw Dy farn Di: Ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Cesar, ai nad yw?
18
A chan wybod o’r Iesu eu drygioni, dywedodd, Paham y’m temtiwch, O ragrithwyr?
19
Dangoswch i mi fath y deyrnged.
20
A hwy a ddygasant Atto ddenar. A dywedodd wrthynt, Delw pwy yw hon, ac argraph pwy?
21
Dywedasant Wrtho, Eiddo Cesar. Yna y dywedodd wrthynt, Talwch, gan hyny, bethau Cesar i Cesar, a phethau Duw i Dduw.
22
Ac wedi clywed o honynt, rhyfeddu a wnaethant; a chan Ei adael Ef, aethant ymaith.
23
Y dydd hwnw daeth Atto Tsadwceaid, y rhai a ddywedant nad oes adgyfodiad,
24
a gofynasant Iddo, gan ddywedyd, Athraw, Mosheh a ddywedodd, Os bydd i neb farw heb iddo blant, gwnaed ei frawd ran cyfathrachwr i’w wraig ef, a chyfoded had i’w frawd.
25
Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr; a’r cyntaf wedi priodi a fu farw, ac, heb fod ganddo had, adawodd ei wraig i’w frawd.
26
Felly hefyd yr ail, a’r trydydd, hyd y saith.
27
Ac ar ol y cwbl bu farw’r wraig.
28
Yn yr adgyfodiad, gan hyny, i bwy o’r saith y bydd hi yn wraig, canys yr oll a’i cawsant.
29
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Cyfeiliorni yr ydych, gan fod heb wybod yr Ysgrythyrau na gallu Duw;
30
canys yn yr adgyfodiad ni phriodant, ac ni roddir hwynt i’w priodi, eithr fel angylion yn y nef y maent.
31
Ac am adgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw, yn dywedyd,
32
“Myfi wyf Dduw Abraham, a Duw Itsaac, a Duw Iacob”? Nid yw Duw Dduw meirwon, eithr y rhai byw.
33
Ac wedi clywed o honynt, bu aruthr gan y torfeydd o herwydd Ei ddysgad.
34
A’r Pharisheaid, wedi clywed y gostegasai Efe y Tsadwceaid, a gynnullwyd ynghyd;
35
a gofynodd un o honynt,
36
cyfreithiwr, gan Ei demtio Ef, Athraw, pa un yw’r gorchymyn mawr yn y Gyfraith?
37
Ac Efe a ddywedodd wrtho, “Ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl:”
38
hwn yw’r gorchymyn mawr a’r cyntaf.
39
Ac yr ail sydd gyffelyb, sef hwn, “Ceri dy gymmydog fel ti dy hun.”
40
Ar y ddau orchymyn hyn y mae’r holl Gyfraitb yn sefyll, ac y Prophwydi hefyd.
41
Ac wedi ymgynnull ynghyd o’r Pharisheaid, gofynodd yr Iesu iddynt,
42
gan ddywedyd, Pa beth yw eich barn am Grist? Mab i bwy yw? Dywedasant Wrtho, Mab Dafydd.
43
Dywedodd wrthynt, Pa fodd, gan hyny, y mae Dafydd yn yr Yspryd yn Ei alw Ef yn Arglwydd, gan ddywedyd,
44
“Dywedodd Iehofa wrth fy Arglwydd, Eistedd ar Fy neheulaw Hyd oni osodwyf Dy elynion tan Dy draed.”
45
Os, gan hyny, Dafydd a’i geilw Ef yn Arglwydd, pa fodd mai Mab iddo yw? Ac ni allai neb atteb Iddo air; ac ni feiddiodd neb o’r dydd hwnw allan ofyn Iddo mwyach.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28