bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 18
Matthew 18
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 19 →
1
Yr awr honno daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy, ynte, sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd?
2
Ac wedi galw fachgenyn Atto, gosododd ef yn eu canol,
3
a dywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, Os na’ch troer a myned fel plant bychain, nid ewch i mewn er dim i deyrnas nefoedd.
4
Pwy bynnag, gan hyny, a’i gostyngo ei hun fel y plentyn hwn, efe yw’r mwyaf yn nheyrnas nefoedd.
5
A phwy bynnag a dderbynio un plentyn o’r fath yn Fy enw,
6
Myfi a dderbyn efe: a phwy bynnag a baro dramgwydd i un o’r rhai bychain hyn y sy’n credu Ynof, da fyddai iddo, pe crogid maen melin mawr am ei wddf, a’i foddi yn eigion y môr.
7
Gwae’r byd oblegid tramgwyddau; canys angenrhaid yw dyfod tramgwyddau; ond gwae’r dyn hwnw, trwy’r hwn y mae’r tramgwydd yn dyfod.
8
Ac os dy law neu dy droed a bair dramgwydd i ti, tor ef ymaith, a thafi oddi wrthyt: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn anafus neu yn gloff, nag a dwylaw neu ddau droed genyt, dy daflu i’r tân tragywyddol.
9
Ac os dy lygad a bair dramgwydd, tyn ef allan a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti yn unllygeidiog fyned i mewn i’r bywyd, nag a dau lygad genyt dy daflu i’r Gehenna tanllyd.
10
Edrychwch na ddirmygoch un o’r rhai bychain hyn, canys dywedaf wrthych, Eu hangylion yn y nefoedd bob amser a welant wyneb Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd. Pa beth yw eich barn chwi?
12
Os bydd gan ryw ddyn gant o ddefaid, a myned o un o honynt ar gyfeiliorn, onid, gan adael y cant namyn un, i’r mynyddoedd yr aiff, a cheisio yr hon a aeth ar gyfeiliorn?
13
Ac os bydd ei chael ganddo, yn wir meddaf i chwi, llawenycha drosti mwy na thros y cant namyn un y rhai nid aethent ar gyfeiliorn.
14
Felly nid oes ewyllys gan eich Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd, gyfrgolli’r un o’r rhai bychain hyn.
15
Ac os pechu yn dy erbyn a wna dy frawd, dos ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ar ei ben ei hun. Os arnat y gwrandawo, ynnillaist dy frawd.
16
Ond os na wrandawo, cymmer gyda thi etto un neu ddau, fel yngenau dau neu dri o dystion y sefydler pob gair.
17
Ac os esgeulusa wrando arnynt, dywaid wrth yr eglwys; ac os ar yr eglwys yr esgeulusa wrando, bydded i ti fel yr ethnig a’r treth-gymmerwr.
18
Yn wir y dywedaf wrthych, Pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaear, fyddant wedi eu rhwymo yn y nef; a pha bethau bynnag a ollyngoch ar y ddaear, fyddant wedi eu gollwng yn y nef.
19
Etto y dywedaf wrthych, Os dau o honoch a gydsyniant ar y ddaear am neb rhyw beth a ofynant, bydd efe iddynt gan Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd,
20
canys lle y mae dau neu dri wedi ymgynnull yn Fy enw I, yno yr wyf yn eu canol.
21
Yna, wedi dyfod Atto, Petr a ddywedodd Wrtho, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i’m herbyn, ac y maddeuaf iddo?
22
Ai hyd seithwaith? Dywedodd yr Iesu wrtho, Ni ddywedaf wrthyt hyd seithwaith, eithr hyd ddengwaith a thrugain seithwaith.
23
Gan hyny, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i frenhin a ewyllysiodd gymmeryd cyfrif gyda’i weision.
24
Ac wedi dechreu o hono ei gymmeryd, dygpwyd atto ddyledwr o ddeng mil o dalentau.
25
Ac efe heb ganddo fodd i dalu, archodd ei arglwydd ei werthu ef, a’i wraig, a’i blant, a’r cwbl o’r a feddai, a thalu’r ddyled.
26
Wedi syrthio i lawr, gan hyny, y gwas a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthyf, a’r cwbl a dalaf i ti.
27
A chan dosturio, arglwydd y gwas hwnw a’i gollyngodd, a’r ddyled a faddeuodd efe iddo.
28
Ac wedi myned allan, y gwas hwnw a gafodd un o’i gydweision, yr hwn yr oedd arno iddo gàn denar; ac wedi ymaflyd ynddo, llindagodd ef, gan ddywedyd, Tâl, os oes arnat ddim.
29
Wedi syrthio i lawr, gan hyny, ei gydwas a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf a thalaf i ti.
30
Ac efe ni fynai; eithr, wedi myned ymaith, bwriodd ef yngharchar hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus. Gan weled, gan hyny, o’i gydweision y pethau a wnelsid,
31
poenwyd hwynt yn ddirfawr: ac wedi myned, mynegasant i’w harglwydd yr holl bethau a wnelsid.
32
Yna, wedi ei alw ef atto, ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Gwas drwg, yr holl ddyled honno a faddeuais i ti am i ti ymbil â mi;
33
ac onid oedd rhaid i ti hefyd dosturio wrth dy gydwas, fel y bu i mi dosturio wrthyt ti?
34
Ac wedi digio, ei arglwydd a’i traddododd ef i’r poenwyr, hyd oni thalai yr oll oedd ddyledus.
35
Felly hefyd Fy Nhad nefol a wna i chwi, os na faddeuoch, bob un i’w frawd, o’ch calon.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28