bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 4
Matthew 4
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 5 →
1
Yna yr Iesu a arweiniwyd i fynu i’r anialwch gan yr Yspryd, i’w demtio gan ddiafol.
2
Ac wedi ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ol hyny y newynodd.
3
Ac wedi dyfod Atto, y temtiwr a ddywedodd Wrtho, Os Mab Duw wyt, arch y bo i’r cerrig hyn fyned yn dorthau.
4
Ac Yntau gan atteb a ddywedodd, Ysgrifenwyd, “Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn, ond ar bob gair yn dyfod allan trwy enau Duw.”
5
Yna y cymmerth diafol Ef i’r ddinas sanctaidd;
6
a gosododd Ef ar binacl y deml, a dywedodd Wrtho, Os Mab Duw wyt, bwrw Dy Hun i lawr, canys ysgrifenwyd, “I’w angylion y gorchymyn Efe am Danat, Ac ar eu dwylaw y’th ddygant, Rhag un amser darawo o Honot Dy droed wrth garreg.”
7
Dywedodd yr Iesu wrtho, Etto yr ysgrifenwyd, “Ni themti yr Arglwydd dy Dduw.”
8
Etto y cymmerth diafol Ef i fynydd tra uchel, a dangosodd Iddo holl deyrnasoedd y byd a’u gogoniant;
9
a dywedodd Wrtho, Y rhai hyn oll i Ti a roddaf, os syrthi i lawr a’m haddoli i.
10
Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dos ymaith, Satan; canys ysgrifenwyd, “Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac Ef yn unig a wasanaethi.”
11
Yna y gadawodd diafol Ef; ac wele, angylion a ddaethant Atto, ac a weiniasant Iddo.
12
Ac wedi clywed o Hono fod Ioan wedi ei draddodi, ciliodd i Galilea;
13
ac wedi gadael Natsareth, daeth ac arhosodd yn Caphernahwm, yr hon sydd wrth y môr, ynghyffiniau Zabwlwn a Nephthali;
14
fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eshaiah y prophwyd, gan ddywedyd,
15
“Tir Zabwlwn a thir Nephthali, Ffordd y môr, tu hwnt i’r Iorddonen, Galilea y cenhedloedd;
16
Y bobl a eisteddai mewn tywyllwch A welsant oleuni mawr; Ac i’r rhai yn eistedd ym mro a chysgod angau, Goleuni a gododd iddynt.”
17
O’r pryd hwnw dechreuodd yr Iesu bregethu a dywedyd, Edifarhêwch, canys nesaodd teyrnas nefoedd.
18
Ac wrth rodio wrth fôr Galilea gwelodd ddau frawd, Shimon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i’r môr, canys yr oeddynt bysgodwŷr,
19
a dywedodd wrthynt, Deuwch ar Fy ol, a gwnaf chwi yn bysgodwŷr dynion.
20
A hwy yn uniawn, gan adael y rhwydau, a’i canlynasant Ef.
21
Ac wedi myned rhagddo oddiyno, gwelodd ddau frawd arall, Iago fab Zebedëus, ac Ioan ei frawd, yn y cwch ynghyda Zebedëus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau;
22
a galwodd hwynt; a hwy yn uniawn, gan adael y cwch a’u tad, a’i canlynasant Ef.
23
Ac aeth yr Iesu o amgylch yn holl Galilea, gan ddysgu yn eu sunagogau, a chan bregethu Efengyl y deyrnas, a chan iachau pob clefyd a phob afiechyd ym mhlith y bobl.
24
Ac aeth allan y sôn am dano Ef i’r holl Suria; a dygasant Atto yr holl rai drwg eu hwyl, gydag amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, rhai cythreulig, a rhai lloerig, a rhai â’r parlys arnynt, ac iachaodd hwynt.
25
Ac yr oedd yn Ei ganlyn Ef dorfeydd mawrion o Galilea a Decapolis ac Ierwshalem ac Iwdea ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28