bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 11
Matthew 11
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 12 →
1
A bu pan orphenodd yr Iesu orchymyn i’w ddeuddeg disgybl, yr aeth oddi yno i ddysgu a phregethu yn eu dinasoedd hwynt.
2
Ac Ioan, wedi clywed yn y carchar weithredoedd Crist,
3
ac wedi danfon trwy ei ddisgyblion, a ddywedodd Wrtho, Ai Tydi yw’r Hwn sy’n dyfod, neu un arall yr ym yn ei ddisgwyl?
4
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Wedi myned, mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch:
5
y mae deillion yn gweled eilwaith, a chloffion yn rhodio, cleifion gwahanol yn cael eu glanhau, a byddariaid yn clywed, a meirw yn cael eu cyfodi; a thlodion yn cael pregethu’r efengyl iddynt;
6
a dedwydd yw pwy bynnag na thramgwydder Ynof.
7
A’r rhai hyn yn myned eu ffordd, dechreuodd yr Iesu ddywedyd wrth y torfeydd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i’r anialwch i edrych arno? ai corsen a gwynt yn ei hysgwyd?
8
Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? ai dyn â gwisgoedd esmwyth am dano? Wele, y rhai sy’n gwisgo’r gwisgoedd esmwyth, yn nhai’r brenhinoedd y maent.
9
Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? Ai prophwyd? Ië, meddaf i chwi a rhagorolach na phrophwyd.
10
Hwn yw efe am yr hwn yr ysgrifenwyd, “Wele, yr wyf Fi yn danfon Fy nghennad o flaen Dy wyneb, Yr hwn a barottoa Dy ffordd o’th flaen.”
11
Yn wir meddaf i chwi, Ni chyfodwyd ymhlith y rhai a anwyd o wragedd, un mwy nag Ioan Fedyddiwr: ond y lleiaf yn nheyrnas nefoedd, mwy nag ef yw.
12
Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr teyrnas nefoedd a dreisir, a threiswyr a’i cipiant hi:
13
canys yr holl Brophwydi a’r Gyfraith, hyd Ioan y prophwydasant;
14
ac os ewyllysiwch ei dderbyn, efe yw’ r Elias ar fedr dyfod.
15
Y neb sydd a chanddo glustiau i wrando, gwrandawed.
16
Ac i ba beth y cyffelybaf y genhedlaeth hon? Cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchnadoedd,
17
y rhai gan lefain wrth eu cyfeillion, a ddywedant, Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch;
18
canasom alarnad, ac ni chwynfanasoch; canys daeth Ioan nac yn bwytta nac yn yfed, a dywedasant, Cythraul sydd ganddo;
19
daeth Mab y Dyn yn bwytta ac yn yfed, a dywedant, Wele, dyn glwth ac yfwr gwin, cyfaill treth-gymmerwyr a phechaduriaid. Ond cyfiawnheir doethineb gan ei gweithredoedd.
20
Yna y dechreuodd Efe edliw i’r dinasoedd yn y rhai y buasai y rhan fwyaf o’i wyrthiau, am nad edifarhasent.
21
Gwae di Corazin; gwae di Bethtsaida; canys ped yn Tyrus ac yn Tsidon y buasai’r gwyrthiau a fuant ynoch, er ys talm mewn sachlïain a lludw yr edifarhasent.
22
Ond meddaf i chwi, i Tyrus a Tsidon y bydd yn fwy dioddefadwy yn nydd y farn nag i chwi.
23
A thydi, Caphernahwm, ai hyd y nef y’th ddyrchefid? Hyd Hades y disgyni, canys ped yn Sodom y buasai’r gwyrthiau a fuant ynot ti, arosasai hyd heddyw.
24
Ond dywedaf wrthych, I dir Sodom y bydd yn fwy dioddefadwy yn nydd y farn nag i ti.
25
Yr amser hwnw, gan atteb, yr Iesu a ddywedodd, Diolchaf i Ti, O Dad, Arglwydd y nef a’r ddaear, am guddio o Honot y pethau hyn rhag doethion a rhai deallus, a’u datguddio i fabanod.
26
Ië, O Dad, canys felly y boddlonwyd ger Dy fron.
27
Pob peth, i Mi y’i traddodwyd gan Fy Nhad: ac nid edwyn neb y Mab, oddieithr y Tad; nac y Tad nid yw neb yn Ei adnabod oddieithr y Mab, a phwy bynnag yr ewyllysio’r Mab Ei ddatguddio Ef iddo.
28
Deuwch Attaf bawb y sy’n flinderog ac yn llwythog, ac Myfi a roddaf orphwysdra i chwi.
29
Cymmerwch Fy iau arnoch, a dysgwch Genyf, canys addfwyn Wyf a gostyngedig o galon,
30
a chewch orphwysdra i’ch eneidiau; canys Fy iau sydd esmwyth; ac Fy maich, ysgafn yw.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28