bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 16
Matthew 16
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 17 →
1
Ac wedi dyfod Atto, y Pharisheaid a’r Tsadwceaid, gan Ei demtio, a ofynasant Iddo ddangos iddynt arwydd o’r nef.
2
Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Yr hwyr wedi dyfod y dywedwch, Tywydd teg, canys coch yw’r nef;
3
A’r bore, Heddyw drycin, canys coch a phruddaidd yw’r nef. Gwyneb y nef, y gwyddoch pa sut i’w farnu, ond arwyddion yr amserau ni fedrwch.
4
Cenhedlaeth ddrwg a godinebus, arwydd a gais hi, ac arwydd ni roddir iddi, oddieithr arwydd Iona. A chan eu gadael hwynt, yr aeth Efe ymaith.
5
A’r disgyblion a ddaethant i’r lan arall, ac anghofiasant gymmeryd bara;
6
a’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymofalwch rhag surdoes y Pharisheaid a’r Tsadwceaid.
7
A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Bara ni ddygasom.
8
A’r Iesu, gan wybod hyn, a ddywedodd, Paham yr ymresymmwch yn eich plith eich hunain, y chwi o ychydig ffydd, am nad oes bara genych?
9
Onid ydych etto yn deall, nac yn cofio pum torth y pum mil, a pha sawl basgedaid a gawsoch?
10
na saith torth y pedair mil, a pha sawl cawellaid a gawsoch?
11
Pa sut nad ydych yn deall nad am fara y dywedais wrthych, Ond “ymofalwch rhag surdoes y Pharisheaid a’r Tsadwceaid.”
12
Yna yr amgyffredasant na ddywedasai iddynt ymofalu rhag surdoes bara, eithr rhag dysgad y Pharisheaid a’r Tsadwceaid.
13
Ac wedi dyfod o’r Iesu i dueddau Cesarea Philippi, gofynodd i’w ddisgyblion, gan ddywedyd, Pwy y dywaid dynion fod Mab y Dyn?
14
A hwy a ddywedasant, Rhai mai Ioan Fedyddiwr yw; ac eraill, Elias; ac eraill, Ieremiah neu un o’r prophwydi.
15
Dywedodd wrthynt, Ond chwychwi, pwy y dywedwch Fy mod I?
16
A chan atteb, Shimon Petr a ddywedodd, Tydi yw’r Crist, Mab y Duw byw.
17
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrtho, Dedwydd wyt, Shimon Bar-Iona, canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, eithr Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd.
18
Ac yr wyf Finnau hefyd yn dywedyd wrthyt ti, Tydi wyt Petr, ac ar y graig hon yr adeiladaf Fy eglwys I; a phyrth Hades ni orchfygant hi.
19
Rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear, fydd wedi ei rwymo yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ollyngech ar y ddaear, fydd wedi ei ollwng yn y nefoedd.
20
Yna y gorchymynodd i’r disgyblion na ddywedent wrth neb mai Efe yw’r Crist.
21
O hyny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i’w ddisgyblion fod yn rhaid Iddo fyned ymaith i Ierwshalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid a’r arch-offeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, ac ar y trydydd dydd gyfodi.
22
Ac wedi Ei gymmeryd Ef atto, Petr a ddechreuodd Ei ddwrdio Ef, gan ddywedyd, Trugarog fydded Wrthyt, Arglwydd; ni fydd hyn, er dim i Ti.
23
Ac Efe a drodd ac a ddywedodd wrth Petr, Dos yn Fy ol I, Satan: tramgwydd wyt i Mi, canys nid synied pethau Duw yr wyt, eithr pethau dynion.
24
Yna yr Iesu a ddywedodd wrth Ei ddisgyblion, Os yw neb yn ewyllysio dyfod ar Fy ol I, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned Fi:
25
canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a’i cyll; a phwy bynnag a gollo ei fywyd o’m plegid I, a’i caiff.
26
Canys pa beth y lleseir dyn, os y byd oll a ennillodd efe, a’i fywyd wedi myned yn ddirwy iddo? Neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei fywyd?
27
Canys y mae Mab y Dyn ar fedr dyfod yngogoniant Ei Dad ynghyda’i angylion; ac yna y tâl Efe i bob un yn ol ei weithred.
28
Yn wir y dywedaf wrthych, Y mae rhai o’r sawl sy’n sefyll yma, y rhai nid archwaethant mo angau, nes gweled o honynt Fab y Dyn yn dyfod yn Ei deyrnas.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28