bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 20
Matthew 20
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 21 →
1
Canys cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ŵr o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan gyda’r wawr i gyflogi gweithwyr i’w winllan:
2
ac wedi cyttuno â’r gweithwyr er denar y dydd, danfonodd hwynt i’w winllan:
3
ac wedi myned allan ynghylch y drydedd awr, gwelodd eraill yn sefyll yn y farchnadfa yn segur;
4
ac wrthynt hwy hefyd y dywedodd, Ewch chwithau hefyd i’r winllan, a pha beth bynnag fyddo gyfiawn a roddaf i chwi: a hwy a aethant ymaith.
5
Etto, wedi myned allan ynghylch y chweched a’r nawfed awr, y gwnaeth efe yr un modd.
6
Ac ynghylch yr unfed awr ar ddeg, wedi myned allan, cafodd eraill yn sefyll; a dywedodd wrthynt, Paham yr ydych yma yn sefyll yr holl ddydd yn segur?
7
Dywedasant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywedodd wrthynt, Ewch chwithau hefyd i’r winllan.
8
A’r hwyr wedi dyfod, dywedodd arglwydd y winllan wrth ei oruchwyliwr, Galw y gweithwyr a thâl iddynt eu cyflog, gan ddechreu o’r rhai diweddaf hyd y rhai cyntaf.
9
Ac wedi dyfod o’r rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, cawsant bob un ddenar.
10
Ac wedi dyfod o’r rhai cyntaf, tybiasant mai mwy a gaent; a chawsant hwy hefyd bob un ddenar:
11
ac wedi cael, grwgnachasant yn erbyn gŵr y tŷ,
12
gan ddywedyd, Y rhai hyn, yr olaf, un awr y gweithiasant, ac yn gystal â ni y gwnaethost hwynt, y rhai a ddygasom bwys y dydd a’r gwres poeth.
13
Ac efe, gan atteb, a ddywedodd wrth un o honynt, Cyfaill, nid gwneud cam â thi yr wyf: onid er denar y cyttunaist â mi?
14
Cymmer yr eiddot a dos ymaith: ewyllysio yr wyf roddi i hwn, yr olaf, yr un modd hefyd ag i ti.
15
Onid cyfreithlawn i mi wneuthur yr hyn a ewyllysiaf â’m heiddof? A ydyw dy lygad yn ddrwg o herwydd i mi fod yn dda.
16
Felly y bydd y rhai olaf yn flaenaf, ac y blaenaf yn olaf.
17
Ac wrth fyned i fynu o’r Iesu i Ierwshalem, cymmerodd y deuddeg disgybl o’r neilldu, ac ar y ffordd y dywedodd wrthynt, Wele myned i fynu i Ierwshalem yr ydym;
18
a Mab y Dyn a draddodir i’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a chondemniant Ef i farwolaeth;
19
a thraddodant Ef i’r cenhedloedd i’w watwar a’i flangellu a’i groes-hoelio; a’r trydydd dydd yr adgyfyd.
20
A daeth Atto fam meibion Zebedëus, ynghyda’i meibion, gan ymorchreinio a deisyf rhyw beth Ganddo.
21
Ac Efe a dywedodd wrthi, Pa beth a ewyllysi? Dywedodd hithau Wrtho, Dywaid am eistedd o’r rhai hyn, fy nau fab, y naill ar Dy law ddehau, a’r llall ar Dy law aswy, yn Dy deyrnas.
22
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o ’r cwppan, yr hwn yr wyf Fi ar fedr yfed o hono?
23
Dywedasant Wrtho, Gallwn. Dywedodd wrthynt, o’m cwppan yn wir yr yfwch: ond eistedd ar Fy llaw ddehau ac ar yr aswy, nid yw Eiddof ei roddi oddieithr i’r rhai y darparwyd ef iddynt gan Fy Nhad.
24
Ac wedi clywed o honynt, y deg a sorrasant o achos y ddau frawd.
25
A’r Iesu, wedi eu galw hwynt Atto, a ddywedodd. Gwyddoch fod pennaethiaid y Cenhedloedd yn tra-arglwyddiaethu arnynt, a’r rhai mawrion yn tra-awdurdodi arnynt.
26
Nid felly y y bydd yn eich plith chwi; eithr pwy bynnag a ewyllysio fyned yn fawr yn eich plith, bydded eich gweinidog;
27
a phwy bynnag a ewyllysio fod yn gyntaf yn eich plith, bydded eich gwas;
28
fel ni fu i Fab y Dyn ddyfod i’w wasanaethu, eithr i wasanaethu, ac i roddi Ei einioes yn bridwerth dros lawer.
29
Ac wrth fyned o honynt allan o Iericho, canlynodd tyrfa fawr Ef:
30
ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar ymyl y ffordd, wedi clywed fod yr Iesu yn myned heibio, a waeddasant, gan ddywedyd, Arglwydd, tosturia wrthym, Fab Dafydd.
31
A’r dyrfa a’u dwrdiasant, fel y tawent; ond hwy mwy y gwaeddasant, gan ddywedyd, Arglwydd, tosturia wrthym, Fab Dafydd.
32
Ac wedi sefyll, yr Iesu a’u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur o Honof i chwi?
33
Dywedasant Wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni.
34
A chan dosturio wrthynt, yr Iesu a gyffyrddodd â’u llygaid; ac yn uniawn y cawsant eu golwg, ac y canlynasant Ef.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28