bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 8
Matthew 8
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 9 →
1
Ac wedi dyfod o Hono i wared o’r mynydd, canlynodd torfeydd mawrion Ef.
2
Ac wele, un gwahanglwyfus wedi dyfod Atto a’i haddolodd, gan ddywedyd, Arglwydd, os mynni, gelli fy nghlanhau i.
3
Ac wedi estyn Ei law, cyffyrddodd Efe ag ef, gan ddywedyd, Mynnaf; glanhaer di: ac yn uniawn y glanhawyd ei wahanglwyf ef.
4
A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwel nad wrth neb y dywedi; eithr dos, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma’r rhodd a orchymynodd Mosheh, yn dystiolaeth iddynt.
5
Ac wedi dyfod o Hono i mewn i Caphernahwm, daeth Atto ganwriad, gan ddeisyfu arno a dywedyd,
6
Arglwydd, fy ngwas sy’n gorwedd gartref yn glaf o’r parlys, yn ei boeni yn ofnadwy.
7
A dywedodd Efe wrtho, Myfi a ddeuaf ac a’i hiachaf ef.
8
A chan atteb, y canwriad a ddywedodd, Arglwydd, nid wyf deilwng fel dan fy nghronglwyd i y deuit i mewn; eithr yn unig dywaid â gair, ac iacheir fy ngwas;
9
canys myfi hefyd, gŵr dan awdurdod wyf, a chenyf filwyr danaf fy hun; a dywedaf wrth hwn, Cerdda, a myned y mae; ac wrth arall, Tyred, a dyfod y mae; ac wrth fy nghaethwas, Gwna hyn, a gwneyd y mae.
10
Ac wedi clywed hyn, yr Iesu a ryfeddodd ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir meddaf i chwi, hyd yn oed yn Israel ffydd mor fawr ni chefais.
11
A dywedaf wrthych, Llawer o’r dwyrain a’r gorllewin a ddeuant ac a led-orweddant gydag Abraham ac Itsaac ac Iacob yn nheyrnas nefoedd;
12
ond plant y deyrnas a deflir ymaith i’r tywyllwch mwyaf allanol: yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd.
13
A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, Dos ymaith: fel y credaist, bydded i ti. Ac iachawyd ei was yn yr awr honno.
14
Ac wedi dyfod o’r Iesu i dŷ Petr, gwelodd ei chwegr ef yn gorwedd ac yn glaf o’r cryd;
15
a chyffyrddodd â’i llaw hi, ac ymadawodd y cryd â hi, a chododd hi a gwasanaethodd Iddo.
16
Ac wedi ei hwyrhau hi, dygasant Atto rai cythreulig lawer; a bwriodd Efe allan yr ysprydion â gair; a’r holl rai drwg eu hwyl a iachaodd Efe,
17
fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eshaiah y prophwyd, gan ddywedyd, “Efe Ei Hun ein gwendidau a gymmerth, Ac ein clefydau a ddug Efe.”
18
A phan welodd yr Iesu dorfeydd mawrion o’i amgylch, gorchymynodd fyned ymaith i’r lan arall.
19
A rhyw ysgrifenydd wedi dyfod Atto, a ddywedodd Wrtho, Athraw, canlynaf Di i ba le bynnag yr elych.
20
A dywedodd yr Iesu wrtho, Gan y llwynogod y mae ffauau, a chan ehediaid y nefoedd lettyau; ond gan Fab y Dyn nid oes lle y rhoddo Ei ben i lawr.
21
Ac un arall o’i ddisgyblion a ddywedodd Wrtho, Arglwydd, gâd i mi yn gyntaf fyned ymaith a chladdu fy nhad.
22
A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Canlyn Fi, gâd y meirw i gladdu eu meirw eu hun.
23
Ac wedi myned o Hono i gwch, canlynodd Ei ddisgyblion Ef:
24
ac wele, cynnwrf mawr a ddigwyddodd yn y môr, nes yr oedd y cwch yn cael ei orchuddio gan y tonnau; ac Efe a gysgai.
25
Ac wedi dyfod Atto, deffroasant Ef, gan ddywedyd, Arglwydd, achub; darfu am danom:
26
a dywedodd Efe wrthynt, Paham yr ydych yn ofnus, o chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd Efe, ac y dwrdiodd y gwyntoedd a’r môr, ac y bu tawelwch mawr.
27
A’r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa fath ddyn yw hwn, gan fod y gwyntoedd a’r môr yn ufuddhau iddo?
28
Ac wedi Ei ddyfod i’r lan arall, i wlad y Gergesiaid, cyfarfu ag Ef ddau ddieflig, yn dyfod allan o’r beddau, ffyrnig dros ben fel na allai neb fyned heibio y ffordd honno.
29
Ac wele, gwaeddasant, gan ddywedyd, Pa beth sydd i ni a wnelom â Thi, o Fab Duw? Daethost yma cyn yr amser i’n poeni ni.
30
Ac yr oedd ym mhell oddiwrthynt genfaint o foch lawer, yn pori.
31
A’r cythreuliaid a ddeisyfiasant Arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, danfon ni i’r genfaint moch. A dywedodd wrthynt, Ewch.
32
A hwy wedi myned allan, a aethant ymaith i’r moch; ac, wele, rhuthrodd yr holl genfaint, i lawr y dibyn, i’r môr; a buant feirw yn y dwfr.
33
A’r meichiaid a ffoisant, ac wedi myned ymaith i’r ddinas, mynegasant y cwbl, a hanes y rhai dieflig.
34
Ac, wele, yr holl ddinas a aeth allan i gyfarfod â’r Iesu; a phan Ei gwelsant, deisyfiasant Arno ymadael â’u cyffiniau.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28