bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 7
Matthew 7
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 8 →
1
Na fernwch, fel na’ch barner; canys â’r farn â’r hon y bernwch, y’ch bernir;
2
ac â’r mesur â’r hwn y mesurwch, y mesurir i chwi.
3
A phaham y gweli y brycheuyn y sydd yn llygad dy frawd, ond y trawst y sydd yn dy lygad dy hun nad ystyri?
4
Neu, pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gâd i mi fwrw allan y brycheuyn o’th lygad, ac wele y trawst y sydd yn dy lygad di?
5
O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o’th lygad dy hun, ac yna y gweli yn eglur i fwrw allan y brycheuyn o lygad dy frawd.
6
Na roddwch y peth sanctaidd i’r cŵn, ac na theflwch eich gemmau o flaen y moch, rhag ysgatfydd iddynt eu sathru hwynt â’u traed, a throi a’ch rhwygo chwi.
7
Gofynwch, a rhoddir i chwi: ceisiwch, a chewch: curwch, ac agorir i chwi;
8
canys pob un y sy’n gofyn, sy’n derbyn; a’r neb sy’n ceisio, sy’n cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir.
9
Pwy sydd o honoch, ac efe yn ddyn, i’r hwn y gofyn ei fab fara, a rydd garreg iddo;
10
neu os pysgodyn a ofyn efe, a rydd sarph iddo?
11
Os, gan hyny, chwychwi, a chwi yn ddrwg, a wyddoch pa sut i roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y gwna eich Tad y sydd yn y nefoedd, roddi pethau da i’r rhai sy’n gofyn Iddo?
12
Gan hyny, yr holl bethau, cymmaint ag a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau hefyd iddynt hwy; canys hyn yw’r Gyfraith a’r Prophwydi.
13
Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng; canys ehang yw’r porth, a llydan y ffordd sy’n arwain i’r distryw, a llawer yw y rhai yn myned i mewn trwyddi;
14
canys cul yw’r porth, a chyfyng y ffordd sydd yn arwain i’r bywyd, ac ychydig yw y rhai yn ei chael hi.
15
Gwyliwch rhag y gau-brophwydi, y rhai a ddeuant attoch yngwisgoedd defaid, ond oddimewn y maent yn fleiddiaid rheibus: wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.
16
Ai oddi ar ddrain y casglant rawnwin; neu oddi ar ysgall, ffigys?
17
Felly pob pren da, ffrwythau da a ddwg efe; a’r pren llygredig, ffrwythau drwg a ddwg efe.
18
Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren llygredig ddwyn ffrwythau da.
19
Pob pren nad yw’n dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac i’ r tân y’i teflir;
20
ac felly wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.
21
Nid pob un y sy’n dywedyd Wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd, ond yr hwn sy’n gwneuthur ewyllys Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd.
22
Llawer a ddywedant Wrthyf yn y dydd hwnw, Arglwydd, Arglwydd, onid yn Dy enw Di y prophwydasom; ac yn Dy enw Di y bwriasom allan gythreuliaid; ac yn Dy enw Di gwyrthiau lawer a wnaethom?
23
Ac yna yr addefaf wrthynt, Erioed ni’s adnabum chwi: ewch ymaith Oddiwrthyf y rhai yn gweithredu anghyfraith.
24
Pob un, gan hyny, y sy’n clywed y geiriau hyn mau Fi ac yn eu gwneuthur, cyffelyb fydd i ŵr doeth yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig:
25
a disgynodd y gwlaw, a daeth yr afonydd, a chwythodd y gwyntoedd, a rhuthrasant ar y tŷ hwnw, ac ni syrthiodd, canys sylfaenesid ar y graig.
26
A phob un y sy’n clywed y geiriau hyn mau Fi, ac nad yw yn eu gwneuthur, cyffelyb fydd i ŵr ynfyd, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod;
27
a disgynodd y gwlaw, a daeth yr afonydd, a chwythodd y gwyntoedd, a churasant ar y tŷ hwnw, a chwympodd efe, ac yr oedd ei gwymp yn fawr.
28
A bu pan orphenodd yr Iesu y geiriau hyn, bu aruthr gan y torfeydd o herwydd Ei ddysgad,
29
canys yr oedd Efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel eu hysgrifenyddion.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28