bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Matthew 26
Matthew 26
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 27 →
1
A bu pan orphenodd yr Iesu yr holl eiriau hyn, y dywedodd wrth Ei ddisgyblion,
2
Gwyddoch mai gwedi deuddydd y Pasg a ddigwydd, a Mab y Dyn a draddodir i’w groes-hoelio.
3
Yna y casglwyd ynghyd yr archoffeiriaid ac henuriaid y bobl, i lys yr archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaphas,
4
a chydymgynghorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent Ef;
5
a dywedasant, Nid ar yr wyl, rhag i gynnwrf gymmeryd lle ymhlith y bobl.
6
A phan yr oedd yr Iesu yn Bethania, yn nhŷ Shimon y gwahan-glwyfus,
7
daeth Atto wraig a chanddi flwch alabaster o ennaint tra gwerthfawr, ac y’i tywalltodd ar Ei ben Ef pan yn lled-orwedd wrth y ford.
8
Ac wedi gweled hyn, y disgyblion a sorrasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu’r golled hon?
9
Canys gallesid hyn gael ei werthu er llawer, a’i roddi i’r tlodion.
10
A chan wybod o’r Iesu, dywedodd wrthynt, Paham mai blinder a berwch i’r wraig? Canys gwaith da a wnaeth hi Arnaf;
11
canys peunydd y mae genych y tlodion gyda chwi; ond Myfi, nid beunydd yr wyf genych;
12
canys wrth dywallt o honi yr ennaint hwn ar Fy nghorph, er Fy mharottoi i’r bedd y gwnaeth hi hyny;
13
yn wir y dywedaf wrthych, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir hefyd yr hyn a wnaeth hi, er coffa am dani.
14
Yna wedi myned o un o’r deuddeg, yr hwn a elwid Iwdas Ishcariot, at yr archoffeiriaid, dywedodd,
15
Pa beth a ewyllysiwch ei roddi i mi, ac myfi a’i traddodaf Ef i chwi?
16
A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian, ac o’r amser hwnw y ceisiai gyfleusdra i’w draddodi Ef.
17
Ac ar y dydd cyntaf o’r bara croyw daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pa le yr ewyllysi barottoi o honom i Ti i fwytta’r Pasg?
18
Ac Efe a ddywedodd, Ewch i’r ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Yr Athraw a ddywaid, Fy amser sydd agos; yn dy dŷ di y cadwaf y Pasg ynghyd â’m disgyblion.
19
A gwnaeth y disgyblion fel yr ordeiniasai yr Iesu iddynt, a pharottoisant y Pasg.
20
A’r hwyr wedi digwydd, lled-orweddodd Efe wrth y ford ynghyd â’i ddeuddeg disgybl;
21
ac wrth fwytta o honynt, dywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, Un o honoch a’m traddoda I.
22
Ac wedi eu tristhau yn ddirfawr, dechreuasant ddweud Wrtho, pob un o honynt, Ai myfi yw, Arglwydd?
23
A chan atteb, dywedodd, Yr hwn a drochodd, ynghyda Mi, ei law yn y ddysgl, hwnw a’m traddoda I.
24
Mab y Dyn yn wir sy’n myned fel yr ysgrifenwyd am Dano; ond gwae’r dyn hwnw trwy’r hwn y mae Mab y Dyn yn cael Ei draddodi; da fuasai iddo pe nas ganesid y dyn hwnw.
25
A chan atteb, Iwdas, yr hwn oedd yn Ei draddodi Ef, a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Rabbi?
26
Dywedodd Yntau wrtho, Ti a ddywedaist. Ac wrth fwytta o honynt, yr Iesu, wedi cymmeryd bara ac ei fendithio, a dorrodd ef; ac wedi ei roddi i’r disgyblion, dywedodd, Cymmerwch, bwyttewch: hwn yw Fy nghorph.
27
A chwedi cymmeryd cwppan a rhoddi diolch, rhoddodd ef iddynt, gan ddywedyd, Yfwch o hwn, bawb;
28
canys hwn yw fy ngwaed, sef yr hwn o’r cyfammod, yr hwn er llaweroedd sy’n cael ei dywallt allan er maddeuant pechodau.
29
A dywedaf wrthych, Nid yfaf ddim, o hyn allan, o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnw pan yfwyf ef gyda chwi, yn newydd, yn nheyrnas Fy Nhad.
30
A chwedi canu hymn, aethant allan i fynydd yr Olewydd.
31
Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Yr oll o honoch chwi a dramgwyddir Ynof yn y nos hon; canys ysgrifenwyd, “Tarawaf y bugail, a gwasgerir defaid y praidd.”
32
Ond ar ol adgyfodi o Honof, af o’ch blaen i Galilea.
33
A chan atteb, Petr a ddywedodd Wrtho, Os “yr oll a dramgwyddir Ynot,” myfi ni’m tramgwyddir byth.
34
Dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir y dywedaf wrthyt, Yn y nos hon, cyn i geiliog ganu, tair gwaith y gwedi Fi.
35
Dywedodd Petr Wrtho, Hyd yn oed os ynghyda Thi y bo rhaid i mi farw, Tydi ni wadaf ddim. Yn yr un modd yr holl ddisgyblion hefyd a ddywedasant.
36
Yna y daeth yr Iesu gyda hwynt i fan a elwir Gethshemane, a dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, nes i Mi, wedi myned accw, weddïo.
37
Ac wedi cymmeryd Atto Petr a dau fab Zebedëus, dechreuodd dristhau ac ymofidio.
38
Yna y dywedodd wrthynt, Trist tros ben yw Fy enaid, hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch gyda Mi.
39
Ac wedi myned ymlaen rhyw ychydig, syrthiodd ar Ei wyneb, gan weddïo, a dywedyd, Y Tad mau Fi, os bosibl yw, aed heibio oddi Wrthyf y cwppan hwn! Er hyny, nid fel yr wyf Fi yn ewyllysio, eithr fel yr wyt Ti.
40
A dyfod y mae Efe at y disgyblion ac yn eu cael yn cysgu, a dywedodd wrth Petr, Felly; oni ellych, am un awr, wylied gyda Mi?
41
Gwyliwch a gweddïwch nad eloch i brofedigaeth. Yr yspryd yn wir sydd barod, ond y cnawd sydd wan.
42
Trachefn, wedi myned oddi wrthynt yr ail waith, gweddïodd, gan ddywedyd, Y Tad mau Fi, os na all hwn fyned heibio oddieithr ei yfed o Honof, gwneler Dy ewyllys.
43
Ac wedi dyfod etto, cafodd hwynt yn cysgu, canys yr oedd eu llygaid wedi trymhau.
44
A chan eu gadael hwynt etto, wedi myned oddi wrthynt, gweddïodd y drydedd waith, ac yr un geiriau a ddywedodd etto.
45
Yna dyfod y mae at y disgyblion, a dywedodd wrthynt, Cysgwch bellach, a gorphwyswch; Wele, nesaodd yr awr, a Mab y Dyn sy’n cael Ei draddodi i ddwylaw pechaduriaid.
46
Codwch, awn; wele, nesaodd yr hwn sydd yn Fy nhraddodi.
47
Ac Efe etto yn llefaru, wele, Iwdas, un o’r deuddeg, a ddaeth; ac ynghydag ef, dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl.
48
A’r hwn a oedd yn Ei draddodi Ef a roisai iddynt arwydd, gan ddywedyd, Yr hwn a gusanwyf, hwnw yw Efe: deliwch Ef.
49
Ac yn uniawn y daeth at yr Iesu, a dywedodd, Henffych well, Rabbi! a chusanodd Ef.
50
A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, am yr hyn yr wyt yma. Yna wedi dyfod Atto rhoisant eu dwylaw ar yr Iesu, a daliasant Ef.
51
Ac wele, un o’r rhai gyda’r Iesu wedi estyn ei law a dynnodd ei gleddyf; ac wedi tarawo gwas yr archoffeiriad, dorrodd ymaith ei glust ef.
52
Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf di i’w le, canys pawb o’r a gymmerant gleddyf, â chleddyf y difethir hwynt.
53
A feddyli di na allaf ddeisyf ar Fy Nhad, a rhydd Efe wrthyf yn y fan fwy na deuddeg lleng o angylion?
54
Pa fodd, wrth hyny, y cyflawnid yr Ysgrythyrau mai fel hyn y mae rhaid digwydd?
55
Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Fel yn erbyn lleidr y daethoch allan â chleddyfau a ffyn i’m dal I. Peunydd yn y deml yr eisteddwn yn dysgu, ac ni’m daliasoch.
56
Ond hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid Ysgrythyrau’r Prophwydi. Yna y disgyblion oll, gan Ei adael, a ffoisant.
57
A’r rhai a ddaliasant yr Iesu a’ i dygasant Ef ymaith at Caiaphas yr archoffeiriad, lle yr oedd yr ysgrifenyddion a’r henuriaid wedi ymgasglu ynghyd.
58
A Phetr a’i canlynodd Ef, o hirbell, hyd at lys yr archoffeiriad, ac wedi myned i mewn, eisteddodd gyda’r gweinidogion i weled y diwedd.
59
A’r archoffeiriaid a’r Cynghor oll a geisient au-dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent Ef i farwolaeth;
60
ac ni chawsant, er dyfod attynt o lawer o au-dystion.
61
Ond o’r diwedd, wedi dyfod o ddau attynt, dywedasant, Hwn a ddywedodd, Gallaf ddinystrio teml Dduw, ac mewn tri diwrnod ei hadeiladu hi.
62
Ac wedi cyfodi, yr archoffeiriad a ddywedodd Wrtho, Ai nid dim a attebi? Pa beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn Dy erbyn?
63
Ond yr Iesu a dawodd; a’r archoffeiriad a ddywedodd Wrtho, Tynghedaf Di, myn y Duw byw, ddywedyd o Honot i ni ai Tydi yw y Crist, Mab Duw.
64
Dywedodd yr Iesu wrtho, Ti a ddywedaist. Ond dywedaf wrthych, Ar ol hyn y gwelwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r Gallu, ac yn dyfod ar gymmylau’r nef.
65
Yna yr archoffeiriad a rwygodd ei ddillad, gan ddywedyd, Cablodd: paham y mae rhaid i ni mwy wrth dystion? Wele, yn awr clywsoch y gabledd.
66
Pa beth yw eich barn chwi? A hwy, gan atteb, a ddywedasant, Dyledwr i farwolaeth yw.
67
Yna y poerasant yn Ei wyneb, a chernodiasant Ef;
68
ac eraill a’i curasant Ef, gan ddywedyd, Prophwyda i ni, O Grist: Pwy yw’r hwn a’th darawodd?
69
A Petr oedd tu allan yn eistedd yn y cwrt; a daeth atto forwynig, gan ddywedyd, A thydi oeddit gydag Iesu y Galilead.
70
Ac efe a wadodd ger bron yr holl rai, gan ddywedyd, Nis gwn pa beth a ddywedi.
71
Ac ar ol myned allan o hono i’r porth, gwelodd morwynig arall ef, a dywedodd wrth y rhai oedd yno, A hwn hefyd oedd gydag Iesu y Natzaread.
72
A thrachefn y gwadodd, trwy lw, Nid adwaen i mo’r dyn.
73
Ac wedi ychydig, wedi dyfod atto o’r rhai oedd yn sefyll yno, dywedasant wrth Petr, Yn wir, tithau hefyd wyt o honynt, canys dy leferydd a’th wna yn amlwg.
74
Yna y dechreuodd efe regu a thyngu, Nid adwaen i mo’r dyn. Ac yn uniawn ceiliog a ganodd: a chofiodd Petr ymadrodd yr Iesu, yn dywedyd, “Cyn i geiliog ganu, tair gwaith y gwedi Fi;” ac wedi myned allan, wylodd yn chwerw.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28