bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Isaiah 1
Isaiah 1
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 2 →
1
Gweledigaeth Eseia mab Amos, yr hon a welodd efe am Jwda a Jerwsalem, yn nyddiau Usseia, Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda.
2
Gwrandewch, nefoedd; clyw dithau, ddaear: canys yr ARGLWYDD a lefarodd, Megais a meithrinais feibion, a hwy a wrthryfelasant i'm herbyn.
3
Yr ych a edwyn ei feddiannydd, a'r asyn breseb ei berchennog: ond Israel nid edwyn, fy mhobl ni ddeall.
4
O genhedlaeth bechadurus, pobl lwythog o anwiredd, had y rhai drygionus, meibion yn llygru: gwrthodasant yr ARGLWYDD, digiasant Sanct Israel, ciliasant yn ôl!
5
I ba beth y'ch trewir mwy? cildynrwydd a chwanegwch: y pen oll sydd glwyfus, a'r holl galon yn llesg.
6
O wadn y troed hyd y pen nid oes dim cyfan ynddo; ond archollion, a chleisiau, a gwelïau crawnllyd: ni wasgwyd hwynt, ac ni rwymwyd, ac ni thynerwyd ag olew.
7
Y mae eich gwlad yn anrheithiedig, eich dinasoedd wedi eu llosgi â thân: eich tir â dieithriaid yn ei ysu yn eich gŵydd, ac wedi ei anrheithio fel ped ymchwelai estroniaid ef.
8
Merch Seion a adewir megis lluesty mewn gwinllan, megis llety mewn gardd cucumerau, megis dinas warchaeëdig.
9
Oni buasai i ARGLWYDD y lluoedd adael i ni ychydig iawn o weddill, fel Sodom y buasem, a chyffelyb fuasem i Gomorra.
10
Gwrandewch air yr ARGLWYDD, tywysogion Sodom; clywch gyfraith ein DUW ni, pobl Gomorra.
11
Beth yw lluosowgrwydd eich aberthau i mi? medd yr ARGLWYDD: llawn ydwyf o boethaberthau hyrddod, ac o fraster anifeiliaid breision; gwaed bustych hefyd, ac ŵyn, a bychod, nid ymhyfrydais ynddynt.
12
Pan ddeloch i ymddangos ger fy mron, pwy a geisiodd hyn ar eich llaw, sef sengi fy nghynteddau?
13
Na chwanegwch ddwyn offrwm ofer: arogl‐darth sydd ffiaidd gennyf; ni allaf oddef y newyddloerau na'r Sabothau, cyhoeddi cymanfa; anwiredd ydyw, sef yr uchel ŵyl gyfarfod.
14
Eich lleuadau newydd a'ch gwyliau gosodedig a gasaodd fy enaid: y maent yn faich arnaf; blinais yn eu dwyn.
15
A phan estynnoch eich dwylo, mi a guddiaf fy llygaid rhagoch: hefyd pan weddïoch lawer, ni wrandawaf: eich dwylo sydd lawn o waed.
16
Ymolchwch, ymlanhewch, bwriwch ymaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid; peidiwch â gwneuthur drwg;
17
Dysgwch wneuthur daioni: ceisiwch farn, gwnewch uniondeb i'r gorthrymedig, gwnewch farn i'r amddifad, dadleuwch dros y weddw.
18
Deuwch yr awr hon, ac ymresymwn, medd yr ARGLWYDD: pe byddai eich pechodau fel ysgarlad, ânt cyn wynned â'r eira; pe cochent fel porffor, byddant fel gwlân.
19
Os byddwch ewyllysgar ac ufudd, daioni y tir a fwytewch.
20
Ond os gwrthodwch, ac os anufuddhewch, â chleddyf y'ch ysir: canys genau yr ARGLWYDD a'i llefarodd.
21
Pa wedd yr aeth y ddinas ffyddlon yn butain! cyflawn fu o farn: lletyodd cyfiawnder ynddi; ond yr awr hon lleiddiaid.
22
Dy arian a aeth yn sothach, dy win sydd wedi ei gymysgu â dwfr:
23
Dy dywysogion sydd gyndyn, ac yn gyfranogion â lladron; pob un yn caru rhoddion, ac yn dilyn gwobrau: ni farnant yr amddifad, a chŵyn y weddw ni chaiff ddyfod atynt.
24
Am hynny medd yr Arglwydd, ARGLWYDD y lluoedd, cadarn DDUW Israel, Aha, ymgysuraf ar fy ngwrthwynebwyr, ac ymddialaf ar fy ngelynion.
25
A mi a ddychwelaf fy llaw arnat, ac a lân buraf dy sothach, ac a dynnaf ymaith dy holl alcam.
26
Adferaf hefyd dy farnwyr fel cynt, a'th gynghoriaid megis yn y dechrau: wedi hynny y'th elwir yn Ddinas cyfiawnder, yn Dref ffyddlon.
27
Seion a waredir â barn, a'r rhai a ddychwelant ynddi â chyfiawnder.
28
A dinistr y troseddwyr a'r pechaduriaid fydd ynghyd; a'r rhai a ymadawant â'r ARGLWYDD, a ddifethir.
29
Canys cywilyddiant o achos y derw a chwenychasoch; a gwarthruddir chwi am y gerddi a ddetholasoch.
30
Canys byddwch fel derwen â'i dail yn syrthio, ac fel gardd heb ddwfr iddi.
31
A'r cadarn fydd fel carth, a'i weithydd fel gwreichionen: a hwy a losgant ill dau ynghyd, ac ni bydd a'u diffoddo.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66