bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Isaiah 13
Isaiah 13
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 14 →
1
Baich Babilon, yr hwn a welodd Eseia mab Amos.
2
Dyrchefwch faner ar y mynydd uchel, dyrchefwch lef atynt, ysgydwch law, fel yr elont i fewn pyrth y pendefigion.
3
Myfi a orchmynnais i'm rhai sanctaidd; gelwais hefyd fy nghedyrn i'm dicter, y rhai a ymhyfrydant yn fy nyrchafiad.
4
Llef tyrfa yn y mynyddoedd, yn gyffelyb i bobl lawer; sŵn twrf teyrnasoedd y cenhedloedd wedi ymgynnull: ARGLWYDD y lluoedd sydd yn cyfrif llu y rhyfel.
5
Dyfod y maent o wlad bell, o eithaf y nefoedd; sef yr ARGLWYDD, ac arfau ei lidiowgrwydd, i ddifa yr holl dir.
6
Udwch; canys agos yw diwrnod yr ARGLWYDD; megis anrhaith oddi wrth yr Hollalluog y daw.
7
Am hynny yr holl ddwylo a laesa; a chalon pob dyn a dawdd:
8
A hwy a ofnant; gwewyr a doluriau a'u deil hwynt; megis gwraig yn esgor yr ymofidiant; pawb wrth ei gyfaill a ryfedda; eu hwynebau fyddant wynebau fflamllyd.
9
Wele ddydd yr ARGLWYDD yn dyfod, yn greulon â digofaint a dicter llidiog, i osod y wlad yn ddiffeithwch; a'i phechaduriaid a ddifa efe allan ohoni.
10
Canys sêr y nefoedd, a'u planedau, ni roddant eu llewyrch: yr haul a dywyllir yn ei godiad, a'r lloer ni oleua â'i llewyrch.
11
A mi a ymwelaf â'r byd am ei ddrygioni, ac â'r annuwiolion am eu hanwiredd: a gwnaf i falchder y rhai rhyfygus beidio; gostyngaf hefyd uchder y rhai ofnadwy.
12
Gwnaf ddyn yn werthfawrocach nag aur coeth; ie, dyn na chŷn o aur Offir.
13
Am hynny yr ysgydwaf y nefoedd, a'r ddaear a grŷn o'i lle, yn nigofaint ARGLWYDD y lluoedd, ac yn nydd llid ei ddicter ef.
14
A hi a fydd megis ewig wedi ei tharfu, ac fel dafad heb neb a'i coleddo; pawb a wynebant at eu pobl eu hun, a phawb i'w gwlad eu hun a ffoant.
15
Pob un a geffir ynddi a drywenir; a phawb a chwaneger ati a syrth trwy y cleddyf.
16
Eu plant hefyd a ddryllir o flaen eu llygaid; eu tai a ysbeilir, a'u gwragedd a dreisir.
17
Wele fi yn cyfodi y Mediaid yn eu herbyn hwy, y rhai ni roddant fri ar arian; a'r aur nid ymhyfrydant ynddo.
18
Eu bwâu hefyd a ddryllia y gwŷr ieuainc, ac wrth ffrwyth bru ni thosturiant: eu llygad nid eiriach y rhai bach.
19
A Babilon, prydferthwch y teyrnasoedd, gogoniant godidowgrwydd y Caldeaid, fydd megis dinistr DUW ar Sodom a Gomorra.
20
Ni chyfanheddir hi yn dragywydd, ac ni phreswylir hi o genhedlaeth i genhedlaeth; ac ni phabella yr Arabiad yno, a'r bugeiliaid ni chorlannant yno.
21
Ond anifeiliaid gwylltion yr anialwch a orweddant yno; a'u tai hwynt a lenwir o ormesiaid, a chywion yr estrys a drigant yno, a'r ellyllon a lamant yno:
22
A'r cathod a gydatebant yn ei gweddwdai hi, a'r dreigiau yn y palasoedd hyfryd: a'i hamser sydd yn agos i ddyfod, a'i dyddiau nid oedir.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66