bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Isaiah 41
Isaiah 41
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 40
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 42 →
1
Distewch, ynysoedd, ger fy mron; adnewydded y cenhedloedd eu nerth: deuant yn nes, yna llefarant; cyd-nesawn i farn.
2
Pwy a gyfododd y cyfiawn o'r dwyrain, a'i galwodd at ei droed, a roddodd y cenhedloedd o'i flaen ef, ac a wnaeth iddo lywodraethu ar frenhinoedd? efe a'u rhoddodd hwynt fel llwch i'w gleddyf, ac fel sofl gwasgaredig i'w fwa ef.
3
Y mae efe yn eu herlid hwynt, ac yn myned yn ddiogel; ar hyd llwybr ni cherddasai efe â'i draed.
4
Pwy a weithredodd ac a wnaeth hyn, gan alw y cenedlaethau o'r dechreuad? Myfi yr ARGLWYDD y cyntaf, myfi hefyd fydd gyda'r diwethaf.
5
Yr ynysoedd a welsant, ac a ofnasant; eithafoedd y ddaear a ddychrynasant, a nesasant, ac a ddaethant.
6
Pob un a gynorthwyodd ei gymydog, ac a ddywedodd wrth ei frawd, Ymgryfha.
7
Felly y saer a gysurodd yr eurych, a'r morthwyliwr yr hwn oedd yn taro ar yr eingion, gan ddywedyd, Y mae yn barod i'w asio; ac efe a'i sicrhaodd â hoelion, fel nad ysgogir.
8
Eithr ti, Israel, fy ngwas ydwyt ti, Jacob yr hwn a etholais, had Abraham fy anwylyd.
9
Ti, yr hwn a gymerais o eithafoedd y ddaear, ac y'th elwais oddi wrth ei phendefigion, ac y dywedais wrthyt, Fy ngwas wyt ti; dewisais di, ac ni'th wrthodais.
10
Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: na lwfrha; canys myfi yw dy DDUW: cadarnhaf di, cynorthwyaf di hefyd, a chynhaliaf di â deheulaw fy nghyfiawnder.
11
Wele, cywilyddir a gwaradwyddir y rhai oll a lidiasent wrthyt: dy wrthwynebwyr a fyddant megis diddim, ac a ddifethir.
12
Ti a'u ceisi, ac nis cei hwynt, sef y dynion a ymgynenasant â thi: y gwŷr a ryfelant â thi fyddant megis diddim, a megis peth heb ddim.
13
Canys myfi yr ARGLWYDD dy DDUW a ymaflaf yn dy ddeheulaw, a ddywed wrthyt, Nac ofna, myfi a'th gynorthwyaf.
14
Nac ofna, di bryf Jacob, gwŷr Israel; myfi a'th gynorthwyaf, medd yr ARGLWYDD, a'th Waredydd, Sanct Israel.
15
Wele, gosodaf di yn fen ddyrnu newydd ddanheddog; y mynyddoedd a ddyrni ac a feli, gosodi hefyd y bryniau fel mwlwg.
16
Nithi hwynt, a'r gwynt a'u dwg ymaith, a'r corwynt a'u gwasgar hwynt: a thi a lawenychi yn yr ARGLWYDD, yn Sanct Israel y gorfoleddi.
17
Pan geisio y trueiniaid a'r tlodion ddwfr, ac nis cânt, pan ballo eu tafod o syched, myfi yr ARGLWYDD a'u gwrandawaf hwynt, myfi DUW Israel nis gadawaf hwynt.
18
Agoraf afonydd ar leoedd uchel, a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd: gwnaf y diffeithwch yn llyn dwfr, a'r crastir yn ffrydiau dyfroedd.
19
Gosodaf yn yr anialwch y cedrwydd, sita, myrtwydd, ac olewydd; gosodaf yn y diffeithwch ffynidwydd, ffawydd, a'r pren bocs ynghyd;
20
Fel y gwelont, ac y gwybyddont, ac yr ystyriont, ac y deallont ynghyd, mai llaw yr ARGLWYDD a wnaeth hyn, a Sanct Israel a'i creodd.
21
Deuwch yn nes â'ch cwyn, medd yr ARGLWYDD; dygwch eich rhesymau cadarnaf, medd brenin Jacob.
22
Dygant hwynt allan, a mynegant i ni y pethau a ddigwyddant: mynegwch y pethau gynt, beth ydynt, fel yr ystyriom, ac y gwypom eu diwedd hwynt; neu traethwch i ni y pethau a ddaw.
23
Mynegwch y pethau a ddaw ar ôl hyn, fel y gwypom mai duwiau ydych chwi; gwnewch hefyd dda neu ddrwg, fel y synno arnom, ac y gwelom ynghyd.
24
Wele, peth heb ddim ydych chwi, a'ch gwaith sydd ddiddim: ffiaidd yw y gŵr a'ch dewiso chwi.
25
Cyfodais un o'r gogledd, ac efe a ddaw; o gyfodiad haul y geilw efe ar fy enw; ac efe a ddaw ar dywysogion fel ar glai, ac fel y sathr crochenydd bridd.
26
Pwy a fynegodd o'r dechreuad, fel y gwybyddom? ac ymlaen llaw, fel y dywedom, Cyfiawn yw? nid oes a fynega, nid oes a draetha chwaith, ac nid oes a glyw eich ymadroddion.
27
Y cyntaf a ddywed wrth Seion, Wele, wele hwynt; rhoddaf hefyd efengylwr i Jerwsalem.
28
Canys edrychais, ac nid oedd neb, ie, yn eu plith, ac nid oedd gynghorwr, pan ofynnais iddynt, a fedrai ateb gair.
29
Wele, hwynt oll ydynt wagedd, a'u gweithredoedd yn ddiddim: gwynt a gwagedd yw eu tawdd‐ddelwau.
← Chapter 40
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 42 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66