bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Isaiah 60
Isaiah 60
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 59
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 61 →
1
Cyfod, llewyrcha; canys daeth dy oleuni, a chyfododd gogoniant yr ARGLWYDD arnat.
2
Canys wele, tywyllwch a orchuddia y ddaear, a'r fagddu y bobloedd: ond arnat ti y cyfyd yr ARGLWYDD, a'i ogoniant a welir arnat.
3
Cenhedloedd hefyd a rodiant at dy oleuni, a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy gyfodiad.
4
Cyfod dy lygaid oddi amgylch, ac edrych; ymgasglasant oll, daethant atat: dy feibion a ddeuant o bell, a'th ferched a fegir wrth dy ystlys.
5
Yna y cei weled, ac yr ymddisgleiri; dy galon hefyd a ofna, ac a helaethir; am droi atat luosowgrwydd y môr, golud y cenhedloedd a ddaw i ti.
6
Lliaws y camelod a'th orchuddiant, sef cyflym gamelod Midian ac Effa; hwynt oll o Seba a ddeuant; aur a thus a ddygant; a moliant yr ARGLWYDD a fynegant.
7
Holl ddefaid Cedar a ymgasglant atat ti, hyrddod Nebaioth a'th wasanaethant: hwy a ddeuant i fyny yn gymeradwy ar fy allor, a mi a anrhydeddaf dŷ fy ngogoniant.
8
Pwy yw y rhai hyn a ehedant fel cwmwl, ac fel colomennod i'w ffenestri?
9
Yn ddiau yr ynysoedd a'm disgwyliant, a llongau Tarsis yn bennaf, i ddwyn dy feibion o bell, eu harian hefyd a'u haur gyda hwynt, i enw yr ARGLWYDD dy DDUW, ac i Sanct Israel, am iddo dy ogoneddu di.
10
A meibion dieithr a adeiladant dy furiau, a'u brenhinoedd a'th wasanaethant; canys yn fy nig y'th drewais, ac o'm hewyllys da fy hun y tosturiais wrthyt.
11
Am hynny dy byrth a fyddant yn agored yn wastad, ni chaeir hwynt na dydd na nos, i ddwyn atat olud y cenhedloedd, fel y dyger eu brenhinoedd hwynt hefyd.
12
Canys y genedl a'r deyrnas ni'th wasanaetho di, a ddifethir; a'r cenhedloedd hynny a lwyr ddinistrir.
13
Gogoniant Libanus a ddaw atat, y ffynidwydd, ffawydd, a bocs ynghyd, i harddu lle fy nghysegr; harddaf hefyd le fy nhraed.
14
A meibion dy gystuddwyr a ddeuant atat yn ostyngedig: a'r rhai oll a'th ddiystyrasant a ymostyngant wrth wadnau dy draed, ac a'th alwant yn Ddinas yr ARGLWYDD, yn Seion Sanct Israel.
15
Lle y buost yn wrthodedig, ac yn gas, ac heb gyniweirydd trwot, gwnaf di yn ardderchowgrwydd tragwyddol, ac yn llawenydd i'r holl genedlaethau.
16
Sugni hefyd laeth y cenhedloedd, ie, bronnau brenhinoedd a sugni; a chei wybod mai myfi yr ARGLWYDD yw dy Achubydd, a'th Waredydd yw cadarn Dduw Jacob.
17
Yn lle pres y dygaf aur, ac yn lle haearn y dygaf arian, ac yn lle coed, bres, ac yn lle cerrig, haearn; a gwnaf dy swyddogion yn heddychol, a'th drethwyr yn gyfiawn.
18
Ni chlywir mwy sôn am drais yn dy wlad, na distryw na dinistr yn dy derfynau: eithr ti a elwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth, a'th byrth yn Foliant.
19
Ni bydd yr haul i ti mwyach yn oleuni y dydd, a'r lleuad ni oleua yn llewyrch i ti: eithr yr ARGLWYDD fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a'th DDUW yn ogoniant i ti.
20
Ni fachluda dy haul mwyach, a'th leuad ni phalla: oherwydd yr ARGLWYDD fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a dyddiau dy alar a ddarfyddant.
21
Dy bobl hefyd fyddant gyfiawn oll: etifeddant y tir byth, sef blaguryn fy mhlanhigion, gwaith fy nwylo, fel y'm gogonedder.
22
Y bychan a fydd yn fil, a'r gwael yn genedl gref. Myfi yr ARGLWYDD a brysuraf hynny yn ei amser.
← Chapter 59
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 61 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66