bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Isaiah 54
Isaiah 54
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 53
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 55 →
1
Cân, di amhlantadwy nid esgorodd; bloeddia ganu, a gorfoledda, yr hon nid esgorodd: oherwydd amlach meibion yr hon a adawyd, na'r hon y mae gŵr iddi, medd yr ARGLWYDD.
2
Helaetha le dy babell, ac estynnant gortynnau dy breswylfeydd: nac atal, estyn dy raffau, a sicrha dy hoelion.
3
Canys ti a dorri allan ar y llaw ddeau ac ar y llaw aswy; a'th had a etifedda y Cenhedloedd, a dinasoedd anrheithiedig a wnânt yn gyfanheddol.
4
Nac ofna; canys ni'th gywilyddir: ac na'th waradwydder, am na'th warthruddir; canys ti a anghofi waradwydd dy ieuenctid, a gwarthrudd dy weddwdod ni chofi mwyach.
5
Canys dy briod yw yr hwn a'th wnaeth; ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw: dy Waredydd hefyd, Sanct Israel, DUW yr holl ddaear y gelwir ef.
6
Canys fel gwraig wrthodedig, a chystuddiedig o ysbryd, y'th alwodd yr ARGLWYDD, a gwraig ieuenctid, pan oeddit wrthodedig, medd dy DDUW.
7
Dros ennyd fechan y'th adewais; ond â mawr drugareddau y'th gasglaf.
8
Mewn ychydig soriant y cuddiais fy wyneb oddi wrthyt ennyd awr; ond â thrugaredd dragwyddol y trugarhaf wrthyt, medd yr ARGLWYDD dy Waredydd.
9
Canys fel dyfroedd Noa y mae hyn i mi: canys megis y tyngais nad elai dyfroedd Noa mwy dros y ddaear; felly y tyngais na ddigiwn wrthyt, ac na'th geryddwn.
10
Canys y mynyddoedd a giliant, a'r bryniau a symudant: eithr fy nhrugaredd ni chilia oddi wrthyt, a chyfamod fy hedd ni syfl, medd yr ARGLWYDD sydd yn trugarhau wrthyt.
11
Y druan, helbulus gan dymestl, y ddigysur, wele, mi a osodaf dy gerrig di â charbuncl, ac a'th sylfaenaf â meini saffir.
12
Gwnaf hefyd dy ffenestri o risial, a'th byrth o feini disglair, a'th holl derfynau o gerrig dymunol.
13
Dy holl feibion hefyd fyddant wedi eu dysgu gan yr ARGLWYDD; a mawr fydd heddwch dy feibion.
14
Mewn cyfiawnder y'th sicrheir: byddi bell oddi wrth orthrymder, canys nid ofni; ac oddi wrth ddychryn, canys ni nesâ atat.
15
Wele, gan ymgasglu hwy a ymgasglant, ond nid ohonof fi: pwy bynnag ohonot ti a ymgasglo i'th erbyn, efe a syrth.
16
Wele, myfi a greais y gof, yr hwn a chwyth y marwor yn tân, ac a ddefnyddia arf i'w waith; myfi hefyd a greais y dinistrydd i ddistrywio.
17
Ni lwydda un offeryn a lunier i'th erbyn; a thi a wnei yn euog bob tafod a gyfodo i'th erbyn mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD, a'u cyfiawnder hwy sydd oddi wrthyf fi, medd yr ARGLWYDD.
← Chapter 53
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 55 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66