bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Isaiah 19
Isaiah 19
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 20 →
1
Baich yr Aifft. Wele yr ARGLWYDD yn marchogaeth ar gwmwl ysgafn, ac efe a ddaw i'r Aifft: ac eilunod yr Aifft a gynhyrfant rhagddo ef, a chalon yr Aifft a dawdd yn ei chanol.
2
Gyrraf hefyd yr Eifftiaid yn erbyn yr Eifftiaid, a hwy a ymladdant bob un yn erbyn ei frawd, a phob un yn erbyn ei gymydog; dinas yn erbyn dinas, a theyrnas yn erbyn teyrnas.
3
Ac ysbryd yr Aifft a balla yn ei chanol, a mi a ddiddymaf ei chyngor hi: yna yr ymofynnant ag eilunod, ac â swynyddion, ac â dewiniaid, ac â brudwyr.
4
A mi a gaeaf yr Aifft yn llaw arglwydd caled; a brenin cadarn a lywodraetha arnynt, medd yr Arglwydd, ARGLWYDD y lluoedd.
5
A'r dyfroedd a ddarfyddant o'r môr, yr afon hefyd a â yn hesb ac yn sech.
6
A hwy a droant yr afonydd ymhell; y ffrydiau amddiffyn a ddihysbyddir, ac a sychant: torrir ymaith bob corsen a hesgen.
7
Y papurfrwyn wrth yr afon, ar fin yr afon, a phob peth a heuwyd wrth yr afon, a wywa, a chwelir, ac ni bydd mwy.
8
Y pysgodwyr hefyd a dristânt, a'r rhai oll a fwriant fachau i'r afonydd a alarant: felly y rhai a daenant rwydau ar hyd wyneb y dyfroedd a lesgânt.
9
Gwaradwyddir hefyd y rhai a weithiant feinllin, a'r rhai a weant rwydwaith.
10
A hwy a dorrir yn eu bwriadau, y rhai oll a wnânt argaeau a physgodlynnau.
11
Diau ynfydion yw tywysogion Soan; cyngor doethion gynghorwyr Pharo a aeth yn ynfyd: pa fodd y dywedwch wrth Pharo, Mab y doethion ydwyf fi, mab hen frenhinoedd?
12
Mae hwynt? mae dy ddoethion? a mynegant i ti yr awr hon, a gwybyddant pa gyngor a gymerodd ARGLWYDD y lluoedd yn erbyn yr Aifft.
13
Tywysogion Soan a ynfydasant; twyllwyd tywysogion Noff, a phenaethiaid eu llwythau a hudasant yr Aifft.
14
Cymysgodd yr ARGLWYDD ynddi ysbryd gwrthnysigrwydd; a hwy a wnaethant i'r Aifft gyfeiliorni yn ei holl waith, fel y cyfeiliorna meddwyn yn ei chwydfa.
15
Ac ni bydd gwaith i'r Aifft, yr hwn a wnelo y pen na'r gloren, y gangen na'r frwynen.
16
Y dydd hwnnw y bydd yr Aifft fel gwragedd; canys hi a ddychryna, ac a ofna rhag ysgydwad llaw ARGLWYDD y lluoedd, yr hon a ysgydwa efe arni hi.
17
A bydd tir Jwda yn arswyd i'r Aifft: pwy bynnag a'i cofia hi, a ofna ynddo ei hun; oherwydd cyngor ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn a gymerodd efe yn ei herbyn hi.
18
Y dydd hwnnw y bydd pum dinas yn nhir yr Aifft yn llefaru iaith Canaan, ac yn tyngu i ARGLWYDD y lluoedd: Dinas distryw y gelwir un.
19
Y dydd hwnnw y bydd allor i'r ARGLWYDD yng nghanol tir yr Aifft, a cholofn i'r ARGLWYDD gerllaw ei therfyn hi.
20
Yn arwydd hefyd ac yn dystiolaeth y bydd i ARGLWYDD y lluoedd yn nhir yr Aifft. Canys llefant ar yr ARGLWYDD oherwydd y gorthrymwyr; ac efe a enfyn iddynt iachawdwr a phennaeth, ac efe a'u gwared hwynt.
21
A'r ARGLWYDD a adwaenir gan yr Aifft; ie, yr Eifftiaid a adwaenant yr ARGLWYDD yn y dydd hwnnw: gwnânt hefyd aberth ac offrwm, ac addunant adduned i'r ARGLWYDD, ac a'i talant.
22
Yr ARGLWYDD hefyd a dery yr Aifft; efe a'i tery, ac a'i hiachâ; hwythau a droant at yr ARGLWYDD, ac efe a'u gwrendy hwynt, ac a'u hiachâ hwynt.
23
A'r dydd hwnnw y bydd priffordd o'r Aifft i Asyria, ac yr â yr Asyriad i'r Aifft, a'r Eifftiad i Asyria: a'r Eifftiaid gyda'r Asyriaid a wasanaethant.
24
Y dydd hwnnw y bydd Israel yn drydydd gyda'r Aifft, a chydag Asyria, sef yn fendith o fewn y tir:
25
Yr hwn a fendithia ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd Bendigedig yw yr Aifft fy mhobl i, ac Asyria gwaith fy nwylo, ac Israel fy etifeddiaeth.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66