bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Isaiah 10
Isaiah 10
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 11 →
1
Gwae y rhai sydd yn gwneuthur deddfau anwir, a'r ysgrifenyddion sydd yn ysgrifennu blinder;
2
I ymchwelyd y tlodion oddi wrth farn, ac i ddwyn barn angenogion fy mhobl: fel y byddo gweddwon yn ysbail iddynt, ac yr anrheithiont yr amddifaid.
3
A pha beth a wnewch yn nydd yr ymweliad, ac yn y distryw a ddaw o bell? at bwy y ffowch am gynhorthwy? a pha le y gadewch eich gogoniant?
4
Hebof fi y crymant dan y carcharorion, a than y rhai a laddwyd y syrthiant. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.
5
Gwae Assur, gwialen fy llid, a'r ffon yn eu llaw hwynt yw fy nigofaint.
6
At genedl ragrithiol yr anfonaf ef, ac yn erbyn pobl fy nicter y gorchmynnaf iddo ysbeilio ysbail, ac ysglyfaethu ysglyfaeth, a'u gosod hwynt yn sathrfa megis tom yr heolydd.
7
Ond nid felly yr amcana efe, ac nid felly y meddwl ei galon; eithr y mae yn ei fryd ddifetha a thorri ymaith genhedloedd nid ychydig.
8
Canys efe a ddywed, Onid yw fy nhywysogion i gyd yn frenhinoedd?
9
Onid fel Charcemis yw Calno? onid fel Arpad yw Hamath? onid fel Damascus yw Samaria?
10
Megis y cyrhaeddodd fy llaw deyrnasoedd yr eilunod, a'r rhai yr oedd eu delwau cerfiedig yn rhagori ar yr eiddo Jerwsalem a Samaria:
11
Onid megis y gwneuthum i Samaria ac i'w heilunod, felly y gwnaf i Jerwsalem ac i'w delwau hithau?
12
A bydd, pan gyflawno yr Arglwydd ei holl waith ym mynydd Seion, ac yn Jerwsalem, yr ymwelaf â ffrwyth mawredd calon brenin Assur, ac â gogoniant uchelder ei lygaid ef:
13
Canys dywedodd, Trwy nerth fy llaw y gwneuthum hyn, a thrwy fy noethineb; oherwydd doeth ydwyf: ac mi a symudais derfynau pobloedd, a'u trysorau a ysbeiliais, ac a fwriais i'r llawr y trigolion fel gŵr grymus:
14
A'm llaw a gafodd gyfoeth y bobloedd fel nyth; ac megis y cesglir wyau wedi eu gado, y cesglais yr holl ddaear; ac nid oedd a symudai adain, nac a agorai safn, nac a ynganai.
15
A ymffrostia y fwyell yn erbyn yr hwn a gymyno â hi? a ymfawryga y llif yn erbyn yr hwn a'i tynno? megis pe ymddyrchafai y wialen yn erbyn y rhai a'i codai hi i fyny, neu megis pe ymddyrchafai y ffon, fel pe na byddai yn bren.
16
Am hynny yr hebrwng yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, ymhlith ei freision ef gulni; a than ei ogoniant ef y llysg llosgiad megis llosgiad tân.
17
A bydd goleuni Israel yn dân, a'i Sanct ef yn fflam: ac efe a lysg, ac a ysa ei ddrain a'i fieri mewn un dydd:
18
Gogoniant ei goed hefyd, a'i ddoldir, a ysa efe, enaid a chorff: a byddant megis pan lesmeirio banerwr.
19
A phrennau gweddill ei goed ef a fyddant o rifedi, fel y rhifo plentyn hwynt.
20
A bydd yn y dydd hwnnw, na chwanega gweddill Israel, a'r rhai a ddihangodd o dŷ Jacob, ymgynnal mwyach ar yr hwn a'u trawodd; ond pwysant ar yr ARGLWYDD, Sanct Israel, mewn gwirionedd.
21
Y gweddill a ddychwel, sef gweddill Jacob, at y DUW cadarn.
22
Canys pe byddai dy bobl di Israel fel tywod y môr, gweddill ohonynt a ddychwel: darfodiad terfynedig a lifa drosodd mewn cyfiawnder.
23
Canys darfodedigaeth, a honno yn derfynedig, a wna Arglwydd DDUW y lluoedd yng nghanol yr holl dir.
24
Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd DDUW y lluoedd, Fy mhobl yr hwn a breswyli yn Seion, nac ofna rhag yr Asyriad: â gwialen y'th dery di, ac efe a gyfyd ei ffon i'th erbyn, yn ôl ffordd yr Aifft.
25
Canys eto ychydig bach, ac fe a dderfydd y llid, a'm digofaint yn eu dinistr hwy.
26
Ac ARGLWYDD y lluoedd a gyfyd ffrewyll yn ei erbyn ef, megis lladdfa Midian yng nghraig Oreb: ac fel y bu ei wialen ar y môr, felly y cyfyd efe hi yn ôl ffordd yr Aifft.
27
A bydd yn y dydd hwnnw, y symudir ei faich ef oddi ar dy ysgwydd di, a'i iau ef oddi ar dy war di; a dryllir yr iau, oherwydd yr eneiniad.
28
Daeth at Aiath, tramwyodd i Migron; ym Michmas y rhoddes ei ddodrefn i gadw.
29
Aethant trwy y rhyd, yn Geba y lletyasant: dychrynodd Rama; Gibea Saul a ffoes.
30
Bloeddia â'th lef, merch Galim: pâr ei chlywed hyd Lais, O Anathoth dlawd.
31
Ymbellhaodd Madmena: trigolion Gebim a ymgasglasant i ffoi.
32
Eto y dydd hwnnw y saif efe yn Nob; efe a gyfyd ei law yn erbyn mynydd merch Seion, bryn Jerwsalem.
33
Wele, yr Arglwydd, ARGLWYDD y lluoedd, yn ysgythru y gangen â dychryn: a'r rhai uchel o gyrff a dorrir ymaith, a'r rhai goruchel a ostyngir.
34
Ac efe a dyr ymaith frysglwyni y coed â haearn; a Libanus trwy un cryf a gwymp.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66