bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Isaiah 49
Isaiah 49
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 48
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 50 →
1
Gwrandewch arnaf, ynysoedd; ac ystyriwch, bobl o bell; Yr ARGLWYDD a'm galwodd o'r groth; o ymysgaroedd fy mam y gwnaeth goffa am fy enw.
2
Gosododd hefyd fy ngenau fel cleddyf llym, yng nghysgod ei law y'm cuddiodd; a gwnaeth fi yn saeth loyw, cuddiodd fi yn ei gawell saethau;
3
Ac a ddywedodd wrthyf, Fy ngwas i ydwyt ti, Israel, yr hwn yr ymogoneddaf ynot.
4
Minnau a ddywedais, Yn ofer y llafuriais, yn ofer ac am ddim y treuliais fy nerth; er hynny y mae fy marn gyda'r ARGLWYDD, a'm gwaith gyda'm DUW.
5
Ac yn awr, medd yr ARGLWYDD yr hwn a'm lluniodd o'r groth yn was iddo, i ddychwelyd Jacob ato ef, Er nad ymgasglodd Israel, eto gogoneddus fyddaf fi yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'm DUW fydd fy nerth.
6
Ac efe a ddywedodd, Gwael yw dy fod yn was i mi, i gyfodi llwythau Jacob, ac i adferu rhai cadwedig Israel: mi a'th roddaf hefyd yn oleuni i'r Cenhedloedd, fel y byddych yn iachawdwriaeth i mi hyd eithaf y ddaear.
7
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Gwaredydd Israel, a'i Sanct, wrth y dirmygedig o enaid, wrth yr hwn sydd ffiaidd gan y genedl, wrth was llywodraethwyr; Brenhinoedd a welant, ac a gyfodant; tywysogion hefyd a ymgrymant, er mwyn yr ARGLWYDD, yr hwn sydd ffyddlon, Sanct Israel, ac efe a'th ddewisodd di.
8
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Mewn amser bodlongar y'th wrandewais, ac yn nydd iachawdwriaeth y'th gynorthwyais; a mi a'th gadwaf, ac a'th roddaf yn gyfamod y bobl, i sicrhau y ddaear, i beri etifeddu yr etifeddiaethau anghyfanheddol;
9
Fel y dywedych wrth y carcharorion, Ewch allan; wrth y rhai sydd mewn tywyllwch, Ymddangoswch. Ar y ffyrdd y porant, ac yn yr holl uchelfannau y bydd eu porfa hwynt.
10
Ni newynant, ac ni sychedant; ac nis tery gwres na haul hwynt: oherwydd yr hwn a dosturia wrthynt a'u tywys, ac a'u harwain wrth y ffynhonnau dyfroedd.
11
A mi a wnaf fy holl fynydd yn ffordd, a'm priffyrdd a gyfodir.
12
Wele, y rhai hyn a ddeuant o bell: ac wele, y rhai acw o'r gogledd, ac o'r gorllewin; a'r rhai yma o dir Sinim.
13
Cenwch, nefoedd; a gorfoledda, ddaear; bloeddiwch ganu, y mynyddoedd: canys yr ARGLWYDD a gysurodd ei bobl, ac a drugarha wrth ei drueiniaid.
14
Eto dywedodd Seion, Yr ARGLWYDD a'm gwrthododd, a'm Harglwydd a'm hanghofiodd.
15
A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturio wrth fab ei chroth? ie, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di.
16
Wele, ar gledr fy nwylo y'th argreffais; dy furiau sydd ger fy mron bob amser.
17
Dy blant a frysiant; y rhai a'th ddinistriant, ac a'th ddistrywiant, a ânt allan ohonot.
18
Dyrcha dy lygaid oddi amgylch, ac edrych: y rhai hyn oll a ymgasglant, ac a ddeuant atat. Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD, diau y gwisgi hwynt oll fel harddwisg, ac y rhwymi hwynt amdanat fel priodferch.
19
Canys dy ddiffeithwch a'th anialwch, a'th dir dinistriol, yn ddiau fydd yn awr yn rhy gyfyng gan breswylwyr; a'r rhai a'th lyncant a ymbellhânt.
20
Plant dy ddiepiledd a ddywedant eto lle y clywych, Cyfyng yw y lle hwn i mi; dod le i mi, fel y preswyliwyf.
21
Yna y dywedi yn dy galon, Pwy a genhedlodd y rhai hyn i mi, a mi yn ddiepil, ac yn unig, yn gaeth, ac ar grwydr? a phwy a fagodd y rhai hyn? Wele, myfi a adawyd fy hunan; o ba le y daeth y rhai hyn?
22
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Wele, cyfodaf fy llaw at y cenhedloedd, a dyrchafaf fy maner at y bobloedd; a dygant dy feibion yn eu mynwes, a dygir dy ferched ar ysgwyddau.
23
Brenhinoedd hefyd fydd dy dadmaethod, a'u breninesau dy famaethod; crymant i ti â'u hwynebau tua'r llawr, a llyfant lwch dy draed; a chei wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD: canys ni chywilyddir y rhai a ddisgwyliant wrthyf fi.
24
A ddygir y caffaeliad oddi ar y cadarn? neu a waredir y rhai a garcherir yn gyfiawn?
25
Ond fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Ie, carcharorion y cadarn a ddygir, ac anrhaith y creulon a ddianc: canys myfi a ymrysonaf â'th ymrysonydd, a myfi a achubaf dy feibion.
26
Gwnaf hefyd i'th orthrymwyr fwyta eu cig eu hunain, ac ar eu gwaed eu hun y meddwant fel ar win melys; a gwybydd pob cnawd mai myfi yr ARGLWYDD yw dy Achubydd, a'th gadarn Waredydd di, Jacob.
← Chapter 48
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 50 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66