bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Isaiah 14
Isaiah 14
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 15 →
1
Canys yr ARGLWYDD a dosturia wrth Jacob, ac a ddethol Israel eto, ac a bair iddynt orffwys yn eu tir eu hunain: a'r dieithr a ymgysyllta â hwynt, a hwy a lynant wrth dŷ Jacob.
2
Y bobl hefyd a'u cymer hwynt, ac a'u dygant i'w lle, a thŷ Israel a'u meddianna hwynt yn nhir yr ARGLWYDD, yn weision ac yn forynion: a hwy a gaethiwant y rhai a'u caethiwodd hwythau, ac a lywodraethant ar eu gorthrymwyr.
3
A bydd, yn y dydd y rhoddo yr ARGLWYDD lonyddwch i ti oddi wrth dy ofid, ac oddi wrth dy ofn, ac oddi wrth y caethiwed caled y gwasanaethaist ynddo,
4
I ti gymryd y ddihareb hon yn erbyn brenin Babilon, a dywedyd, Pa wedd y peidiodd y gorthrymwr? ac y peidiodd y dref aur?
5
Yr ARGLWYDD a ddrylliodd ffon yr anwiriaid, a theyrnwialen y llywiawdwyr.
6
Yr hwn sydd yn taro y bobloedd mewn dicllonedd â phla gwastadol, yr hwn sydd yn llywodraethu y cenhedloedd mewn llidiowgrwydd, a erlidir heb neb yn lluddias.
7
Gorffwysodd a llonyddodd yr holl ddaear; canasant o lawenydd.
8
Y ffynidwydd hefyd a chedrwydd Libanus a lawenhasant yn dy erbyn, gan ddywedyd, Er pan orweddaist, nid esgynnodd cymynydd i'n herbyn.
9
Uffern oddi tanodd a gynhyrfodd o'th achos, i gyfarfod â thi wrth dy ddyfodiad: hi a gyfododd y meirw i ti, sef holl dywysogion y ddaear; cyfododd holl frenhinoedd y cenhedloedd o'u gorseddfaoedd.
10
Y rhai hynny oll a lefarant, ac a ddywedant wrthyt, A wanhawyd tithau fel ninnau? a aethost ti yn gyffelyb i ni?
11
Disgynnwyd dy falchder i'r bedd, a thrwst dy nablau: tanat y taenir pryf, pryfed hefyd a'th doant.
12
Pa fodd y syrthiaist o'r nefoedd, Lusiffer, mab y wawr ddydd! pa fodd y'th dorrwyd di i lawr, yr hwn a wanheaist y cenhedloedd!
13
Canys ti a ddywedaist yn dy galon, Mi a ddringaf i'r nefoedd; oddi ar sêr DUW y dyrchafaf fy ngorseddfa; a mi a eisteddaf ym mynydd y gynulleidfa, yn ystlysau y gogledd;
14
Dringaf yn uwch na'r cymylau; tebyg fyddaf i'r Goruchaf.
15
Er hynny i uffern y'th ddisgynnir, i ystlysau y ffos.
16
Y rhai a'th welant a edrychant arnat yn graff, ac a'th ystyriant, gan ddywedyd, Ai dyma y gŵr a wnaeth i'r ddaear grynu, ac a gynhyrfodd deyrnasoedd?
17
A osododd y byd fel anialwch, ac a ddinistriodd ei ddinasoedd, heb ollwng ei garcharorion yn rhydd tuag adref?
18
Holl frenhinoedd y cenhedloedd, ie, hwy oll a orweddasant mewn gogoniant, bob un yn ei dŷ ei hun:
19
Eithr tydi a fwriwyd allan o'th fedd, fel cangen ffiaidd, neu wisg y lladdedigion, y rhai a drywanwyd â chleddyf; y rhai a ddisgynnent i gerrig y ffos, fel celain wedi ei mathru.
20
Ni byddi mewn un bedd â hwynt, oherwydd dy dir a ddifethaist, a'th bobl a leddaist: ni bydd had yr annuwiol enwog byth.
21
Darperwch laddfa i'w feibion ef, am anwiredd eu tadau; rhag codi ohonynt a goresgyn y tir, a llenwi wyneb y byd â dinasoedd.
22
Minnau a gyfodaf yn eu herbyn hwynt, medd ARGLWYDD y lluoedd, ac a dorraf allan o Babilon enw a gweddill, a mab, ac ŵyr, medd yr ARGLWYDD:
23
Ac a'i gosodaf hi yn feddiant i aderyn y bwn, ac yn byllau dyfroedd; ysgubaf hi hefyd ag ysgubau distryw, medd ARGLWYDD y lluoedd.
24
Tyngodd ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Diau megis yr amcenais, felly y bydd; ac fel y bwriedais, hynny a saif;
25
Am ddryllio Assur yn fy nhir: canys mathraf ef ar fy mynyddoedd; yna y cilia ei iau ef oddi arnynt, ac y symudir ei faich ef oddi ar eu hysgwyddau hwynt.
26
Dyma y cyngor a gymerwyd am yr holl ddaear: a dyma y llaw a estynnwyd ar yr holl genhedloedd.
27
Oherwydd ARGLWYDD y lluoedd a'i bwriadodd, a phwy a'i diddyma? ei law ef hefyd a estynnwyd, a phwy a'i try yn ôl?
28
Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Ahas, y bu y baich hwn.
29
Palesteina, na lawenycha di oll, er torri gwialen dy drawydd: oherwydd o wreiddyn y sarff y daw gwiber allan, a'i ffrwyth hi fydd sarff danllyd hedegog.
30
A chynblant y tlodion a ymborthant, a'r rhai anghenus a orweddant mewn diogelwch: a mi a laddaf dy wreiddyn â newyn, yntau a ladd y weddill.
31
Uda, borth; gwaedda, ddinas; Palesteina, ti oll a doddwyd: canys mwg sydd yn dyfod o'r gogledd, ac ni bydd unig yn ei amseroedd nodedig ef.
32
A pha beth a atebir i genhadau y genedl? Seilio o'r ARGLWYDD Seion, ac y gobeithia trueiniaid ei bobl ef ynddi.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66