bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Isaiah 8
Isaiah 8
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 9 →
1
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Cymer i ti rol fawr, ac ysgrifenna arni â phin dyn, am Maher‐shalal‐has‐bas.
2
A chymerais yn dystiolaeth i mi dystion ffyddlon, Ureia yr offeiriad, a Sechareia mab Jeberecheia.
3
A mi a neseais at y broffwydes; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab. Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Galw ei enw ef, Maher‐shalal‐has‐bas.
4
Canys cyn y medro y bachgen alw, Fy nhad, neu, Fy mam, golud Damascus ac ysbail Samaria a ddygir ymaith o flaen brenin Asyria.
5
A chwanegodd yr ARGLWYDD lefaru wrthyf drachefn, gan ddywedyd,
6
Oherwydd i'r bobl hyn wrthod dyfroedd Siloa, y rhai sydd yn cerdded yn araf, a chymryd llawenydd o Resin, a mab Remaleia:
7
Am hynny, wele, mae yr Arglwydd yn dwyn arnynt ddyfroedd yr afon, yn gryfion ac yn fawrion, sef brenin Asyria, a'i holl ogoniant; ac efe a esgyn ar ei holl afonydd, ac ar ei holl geulennydd ef.
8
Ie, trwy Jwda y treiddia ef: efe a lifa, ac a â drosodd, efe a gyrraedd hyd y gwddf; ac estyniad ei adenydd ef fydd llonaid lled dy dir di, O Immanuel.
9
Ymgyfeillechwch, bobloedd, a chwi a ddryllir: gwrandewch, holl belledigion y gwledydd; ymwregyswch, a chwi a ddryllir; ymwregyswch, a chwi a ddryllir.
10
Ymgynghorwch gyngor, ac fe a ddiddymir; dywedwch y gair, ac ni saif: canys y mae DUW gyda ni.
11
Canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf â llaw gref, ac efe a'm dysgodd na rodiwn yn ffordd y bobl hyn, gan ddywedyd,
12
Na ddywedwch, Cydfwriad, wrth y rhai oll y dywedo y bobl hyn, Cydfwriad: nac ofnwch chwaith eu hofn hwynt, ac na arswydwch.
13
ARGLWYDD y lluoedd ei hun a sancteiddiwch; a bydded efe yn ofn i chwi, a bydded efe yn arswyd i chwi:
14
Ac efe a fydd yn noddfa; ond yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr i ddau dŷ Israel, yn fagl ac yn rhwyd i breswylwyr Jerwsalem.
15
A llawer yn eu mysg a dramgwyddant, ac a syrthiant, ac a ddryllir, ac a rwydir, ac a ddelir.
16
Rhwym y dystiolaeth, selia y gyfraith ymhlith fy nisgyblion.
17
A minnau a ddisgwyliaf am yr ARGLWYDD sydd yn cuddio ei wyneb oddi wrth dŷ Jacob, ac a wyliaf amdano.
18
Wele fi a'r plant a roddes yr ARGLWYDD i mi, yn arwyddion ac yn rhyfeddodau yn Israel: oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn sydd yn trigo ym mynydd Seion.
19
A phan ddywedant wrthych, Ymofynnwch â'r swynyddion, ac â'r dewiniaid, y rhai sydd yn hustyng, ac yn sibrwd: onid â'u DUW yr ymofyn pobl? dros y byw at y meirw?
20
At y gyfraith, ac at y dystiolaeth: oni ddywedant yn ôl y gair hwn, hynny sydd am nad oes oleuni ynddynt.
21
A hwy a dramwyant trwyddi, yn galed arnynt ac yn newynog: a bydd pan newynont, yr ymddigiant, ac y melltithiant eu brenin a'u DUW, ac a edrychant i fyny.
22
A hwy a edrychant ar y ddaear; ac wele drallod a thywyllwch, niwl cyfyngder; a byddant wedi eu gwthio i dywyllwch.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66