bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Isaiah 43
Isaiah 43
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 42
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 44 →
1
Ond yr awr hon fel hyn y dywed yr ARGLWYDD dy Greawdwr di, Jacob, a'th Luniwr di, Israel, Nac ofna; canys gwaredais di: gelwais di erbyn dy enw; eiddof fi ydwyt.
2
Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi; a thrwy yr afonydd, fel na lifant drosot: pan rodiech trwy'r tân, ni'th losgir; ac ni ennyn y fflam arnat.
3
Canys myfi yw yr ARGLWYDD dy DDUW, Sanct Israel, dy Waredydd: myfi a roddais yr Aifft yn iawn trosot, Ethiopia a Seba amdanat.
4
Er pan aethost yn werthfawr yn fy ngolwg, y'th ogoneddwyd, a mi a'th hoffais; am hynny y rhoddaf ddynion amdanat ti, a phobloedd dros dy einioes di.
5
Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: o'r dwyrain y dygaf dy had, ac o'r gorllewin y'th gasglaf.
6
Dywedaf wrth y gogledd, Dod; ac wrth y deau, Nac atal: dwg fy meibion o bell, a'm merched o eithaf y ddaear;
7
Sef pob un a elwir ar fy enw: canys i'm gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwneuthum ef.
8
Dwg allan y bobl ddall sydd â llygaid iddynt, a'r byddariaid sydd â chlustiau iddynt.
9
Casgler yr holl genhedloedd ynghyd, a chynuller y bobloedd; pwy yn eu mysg a fynega hyn, ac a draetha i ni y pethau o'r blaen? dygant eu tystion, fel y cyfiawnhaer hwynt; neu wrandawant, a dywedant, Gwir yw.
10
Fy nhystion i ydych chwi, medd yr ARGLWYDD, a'm gwas yr hwn a ddewisais; fel yr adnabyddoch, ac y credoch fi, ac y dealloch mai myfi yw: o'm blaen nid oedd DUW wedi ei ffurfio, ac ni bydd ar fy ôl.
11
Myfi, myfi yw yr ARGLWYDD; ac nid oes geidwad ond myfi.
12
Myfi a fynegais, ac a achubais, ac a ddangosais, pryd nad oedd duw dieithr yn eich mysg: am hynny chwi ydych fy nhystion, medd yr ARGLWYDD, mai myfi sydd DDUW.
13
Ie, cyn bod dydd yr ydwyf fi; ac nid oes a wared o'm llaw: gwnaf, a phwy a'i lluddia?
14
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, eich Gwaredydd chwi, Sanct Israel: Er eich mwyn chwi yr anfonais i Babilon, ac y tynnais i lawr eu holl benaduriaid, a'r Caldeaid, sydd â'u bloedd mewn llongau.
15
Myfi yr ARGLWYDD yw eich Sanct chwi, Creawdydd Israel, eich Brenin chwi.
16
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, yr hwn a wna ffordd yn y môr, a llwybr yn y dyfroedd cryfion;
17
Yr hwn a ddwg allan y cerbyd a'r march, y llu a'r cryfder; cydorweddant, ni chodant: darfuant, fel llin y diffoddasant.
18
Na chofiwch y pethau o'r blaen, ac nac ystyriwch y pethau gynt.
19
Wele fi yn gwneuthur peth newydd: yr awr hon y dechrau; oni chewch ei wybod? Gwnaf ffordd yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch.
20
Bwystfil y maes, y dreigiau, a chywion yr estrys, a'm gogoneddant; am roddi ohonof ddwfr yn yr anialwch, a'r afonydd yn y diffeithwch, i roddi diod i'm pobl, fy newisedig.
21
Y bobl hyn a luniais i mi fy hun; fy moliant a fynegant.
22
Eithr ni elwaist arnaf, Jacob; ond blinaist arnaf, Israel.
23
Ni ddygaist i mi filod dy offrymau poeth, ac ni'm hanrhydeddaist â'th ebyrth: ni pherais i ti fy ngwasanaethu ag offrwm, ac ni'th flinais ag arogl‐darth.
24
Ni phrynaist i mi galamus ag arian, ac ni'm llenwaist â braster dy ebyrth: eithr ti a wnaethost i mi wasanaethu â'th bechodau, blinaist fi â'th anwireddau.
25
Myfi, myfi yw yr hwn a ddilea dy gamweddau er fy mwyn fy hun, ac ni chofiaf dy bechodau.
26
Dwg ar gof i mi, cydymddadleuwn: adrodd di, fel y'th gyfiawnhaer.
27
Dy dad cyntaf a bechodd, a'th athrawon a wnaethant gamwedd i'm herbyn.
28
Am hynny yr halogais dywysogion y cysegr, ac y rhoddais Jacob yn ddiofryd‐beth, ac Israel yn waradwydd.
← Chapter 42
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 44 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66