bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Isaiah 45
Isaiah 45
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 44
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 46 →
1
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth ei eneiniog, wrth Cyrus, yr hwn yr ymeflais i yn ei ddeheulaw, i ddarostwng cenhedloedd o'i flaen ef: a mi a ddatodaf lwynau brenhinoedd; i agoryd y dorau o'i flaen ef; a'r pyrth ni chaeir:
2
Mi a af o'th flaen di, ac a unionaf y gwyrgeimion; y dorau pres a dorraf, a'r barrau heyrn a ddrylliaf:
3
Ac a roddaf i ti drysorau cuddiedig, a chuddfeydd dirgel, fel y gwypech mai myfi yr ARGLWYDD, yr hwn a'th alwodd erbyn dy enw, yw DUW Israel.
4
Er mwyn Jacob fy ngwas, ac Israel fy etholedig, y'th elwais erbyn dy enw: mi a'th gyfenwais, er na'm hadwaenit.
5
Myfi ydwyf yr ARGLWYDD, ac nid arall, nid oes DUW ond myfi; gwregysais di, er na'm hadwaenit:
6
Fel y gwypont o godiad haul, ac o'r gorllewin, nad neb ond myfi: myfi yw yr ARGLWYDD, ac nid arall:
7
Yn llunio goleuni, ac yn creu tywyllwch; yn gwneuthur llwyddiant, ac yn creu drygfyd: myfi yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur hyn oll.
8
Defnynnwch, nefoedd, oddi uchod, a thywallted yr wybrennau gyfiawnder; ymagored y ddaear, ffrwythed iachawdwriaeth a chyfiawnder, cyd‐darddant: myfi yr ARGLWYDD a'u creais.
9
Gwae a ymrysono â'i Luniwr. Ymrysoned priddell â phriddellau y ddaear. A ddywed y clai wrth ei luniwr, Beth a wnei? neu, Y mae dy waith heb ddwylo iddo?
10
Gwae a ddywedo wrth ei dad, Beth a genhedli? neu wrth y wraig, Beth a esgoraist?
11
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Sanct Israel, a'i Luniwr, Gofynnwch i mi y pethau a ddaw am fy meibion, a gorchmynnwch fi am waith fy nwylo.
12
Myfi a wneuthum y ddaear, ac a greais ddyn arni: myfi, ie, fy nwylo i a estynasant y nefoedd, ac a orchmynnais eu holl luoedd.
13
Myfi a'i cyfodais ef mewn cyfiawnder, a'i holl ffyrdd a gyfarwyddaf; efe a adeilada fy ninas, efe a ollwng fy ngharcharorion, heb na gwerth na gobrwy, medd ARGLWYDD y lluoedd.
14
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Llafur yr Aifft, a marsiandïaeth Ethiopia, a'r Sabeaid hirion, a ddeuant atat ti, ac eiddot ti fyddant; ar dy ôl y deuant; mewn cadwyni y deuant trosodd, ac ymgrymant i ti; atat y gweddïant, gan ddywedyd, Yn ddiau ynot ti y mae DUW, ac nid oes arall, nac oes DUW.
15
Ti yn ddiau wyt DDUW yn ymguddio, O DDUW Israel yr Achubwr!
16
Cywilyddir a gwaradwyddir hwynt oll; seiri delwau a ânt ynghyd i waradwydd.
17
Israel a achubir yn yr ARGLWYDD â iachawdwriaeth dragwyddol: ni'ch cywilyddir ac ni'ch gwaradwyddir byth bythoedd.
18
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Creawdydd y nefoedd, y DUW ei hun a luniodd y ddaear, ac a'i gwnaeth; efe a'i sicrhaodd hi, ni chreodd hi yn ofer, i'w phreswylio y lluniodd hi: Myfi yw yr ARGLWYDD, ac nid neb amgen.
19
Ni leferais mewn dirgelwch, mewn man tywyll o'r ddaear; ni ddywedais wrth had Jacob, Ceisiwch fi yn ofer. Myfi yr ARGLWYDD wyf yn llefaru cyfiawnder, ac yn mynegi pethau uniawn.
20
Ymgesglwch, a deuwch; cydnesewch, rai dihangol y cenhedloedd; nid oes gwybodaeth gan y rhai a ddyrchafant goed eu cerfddelw, ac a weddïant dduw ni all achub.
21
Mynegwch, a nesewch hwynt; cydymgynghorant hefyd; pwy a draethodd hyn er cynt? pwy a'i mynegodd er y pryd hwnnw? onid myfi yr ARGLWYDD? ac nid oes DUW arall ond myfi; yn DDUW cyfiawn, ac yn achubydd; nid oes ond myfi.
22
Trowch eich wynebau ataf fi, holl gyrrau y ddaear, fel y'ch achuber: canys myfi wyf DDUW, ac nid neb arall.
23
I mi fy hun y tyngais, aeth y gair o'm genau mewn cyfiawnder, ac ni ddychwel, Mai i mi y plyga pob glin, y twng pob tafod.
24
Yn ddiau yn yr ARGLWYDD, medd un, y mae i mi gyfiawnder a nerth; ato ef y deuir; a chywilyddir pawb a ddigiant wrtho.
25
Yn yr ARGLWYDD y cyfiawnheir, ac yr ymogonedda holl had Israel.
← Chapter 44
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 46 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66