bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Isaiah 29
Isaiah 29
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 30 →
1
Gwae Ariel, Ariel, y ddinas y trigodd Dafydd ynddi! ychwanegwch flwyddyn at flwyddyn; lladdant ebyrth.
2
Eto mi a gyfyngaf ar Ariel, a bydd galar a griddfan; a hi a fydd i mi fel Ariel.
3
A gwersyllaf yn grwn i'th erbyn, ac a warchaeaf i'th erbyn mewn gwarchdwr, ac a gyfodaf wrthglawdd yn dy erbyn.
4
A thi a ostyngir; o'r ddaear y lleferi, ac o'r llwch y bydd isel dy leferydd; dy lais fydd hefyd o'r ddaear fel llais swynwr, a'th ymadrodd a hustyng o'r llwch.
5
A thyrfa dy ddieithriaid fydd fel llwch mân, a thyrfa'r cedyrn fel peiswyn yn myned heibio; ie, bydd yn ddisymwth ddiatreg.
6
Oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd y gofwyir trwy daranau, a thrwy ddaeargryn, a thwrf mawr, trwy gorwynt, a thymestl, a fflam dân ysol.
7
Yna y bydd tyrfa yr holl genhedloedd y rhai a ryfelant yn erbyn Ariel, fel breuddwyd gweledigaeth nos, sef y rhai oll a ymladdant yn ei herbyn hi a'i hamddiffynfa, ac a warchaeant arni.
8
Ie, bydd megis newynog a freuddwydio, ac wele ef yn bwyta; a phan ddeffrô, gwag fydd ei enaid: ac megis y sychedig a freuddwydio, ac wele ef yn yfed; a phan ddeffrô, wele ef yn ddiffygiol, a'i enaid yn chwennych diod: felly y bydd tyrfa yr holl genhedloedd a lueddant yn erbyn mynydd Seion.
9
Arefwch, a rhyfeddwch; bloeddiwch, a gwaeddwch: meddwasant, ac nid trwy win; penfeddwasant, ac nid trwy ddiod gadarn.
10
Canys tywalltodd yr ARGLWYDD arnoch ysbryd trymgwsg, ac a gaeodd eich llygaid chwi: eich proffwydi, a'ch penaethiaid, y gweledyddion, a orchuddiodd efe.
11
A gweledigaeth pob un ohonynt sydd i chwi fel geiriau llyfr seliedig, yr hwn os rhoddant ef at un a fedr ar lyfr, gan ddywedyd, Darllen hwn, atolwg: yna y dywed, Ni allaf; canys seliwyd ef.
12
Os rhoddir y llyfr at yr hwn ni fedr ar lyfr, gan ddywedyd, Darllen hwn, atolwg: yna y dywed, Ni fedraf ar lyfr.
13
Am hynny y dywedodd yr ARGLWYDD, Oherwydd bod y bobl hyn yn nesáu ataf â'u genau, ac yn fy anrhydeddu â'u gwefusau, a phellhau eu calon oddi wrthyf, a bod eu hofn tuag ataf fi wedi ei ddysgu allan o athrawiaeth dynion;
14
Am hynny wele fi yn myned rhagof i wneuthur yn rhyfedd ymysg y bobl hyn, sef gwyrthiau a rhyfeddod: canys difethir doethineb eu doethion hwynt, a deall eu rhai deallgar hwynt a ymguddia.
15
Gwae y rhai a ddyfngeisiant i guddio eu cyngor oddi wrth yr ARGLWYDD, ac y mae eu gweithredoedd mewn tywyllwch, ac a ddywedant, Pwy a'n gwêl ni? a phwy a'n hedwyn?
16
Diau fel clai crochenydd y cyfrifir eich trofeydd chwi. Canys a ddywed y gwaith am y gweithydd, Ni'm gwnaeth i? neu a ddywed y peth a luniwyd am yr hwn a'i lluniodd, Nid yw ddeallus?
17
Onid ychydig bach fydd eto hyd oni throir Libanus yn ddoldir, a'r doldir a gyfrifir yn goed?
18
A'r dydd hwnnw y rhai byddar a glywant eiriau y llyfr, a llygaid y deillion a welant allan o niwl a thywyllwch.
19
A'r rhai llariaidd a chwanegant lawenychu yn yr ARGLWYDD; a'r dynion tlodion a ymhyfrydant yn Sanct Israel.
20
Canys darfu am yr ofnadwy, a difethwyd y gwatwarus, a'r rhai oll a wyliant am anwiredd a dorrir ymaith;
21
Y rhai a wnânt ddyn yn droseddwr oherwydd gair, ac a osodant faglau i'r hwn a geryddo yn y porth, ac a wnânt i'r cyfiawn ŵyro am beth coeg.
22
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, yr hwn a waredodd Abraham, am dŷ Jacob, Weithian ni chywilyddir Jacob, ac ni lasa ei wyneb ef.
23
Eithr pan welo efe ei feibion, gwaith fy nwylo, o'i fewn, hwy a sancteiddiant fy enw, ie, sancteiddiant Sanct Jacob, ac a ofnant DDUW Israel.
24
A'r rhai cyfeiliornus o ysbryd a ddysgant ddeall, a'r grwgnachwyr a ddysgant addysg.
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 30 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66