bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Isaiah 3
Isaiah 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 4 →
1
Canys wele, yr Arglwydd, ARGLWYDD y lluoedd, a dynn ymaith o Jerwsalem, ac o Jwda, y gynhaliaeth a'r ffon, holl gynhaliaeth bara, a holl gynhaliaeth dwfr,
2
Y cadarn, a'r rhyfelwr, y brawdwr, a'r proffwyd, y synhwyrol, a'r henwr,
3
Y tywysog deg a deugain, a'r anrhydeddus, a'r cynghorwr, a'r crefftwr celfydd, a'r areithiwr huawdl.
4
A rhoddaf blant yn dywysogion iddynt, a bechgyn a arglwyddiaetha arnynt.
5
A'r bobl a orthrymir y naill gan y llall, a phob un gan ei gymydog: y bachgen yn erbyn yr henwr, a'r gwael yn erbyn yr anrhydeddus, a ymfalchïa.
6
Pan ymaflo gŵr yn ei frawd o dŷ ei dad, gan ddywedyd, Y mae dillad gennyt, bydd dywysog i ni; a bydded y cwymp hwn dan dy law di:
7
Yntau a dwng yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Ni byddaf iachawr; canys yn fy nhŷ nid oes fwyd na dillad: na osodwch fi yn dywysog i'r bobl.
8
Canys cwympodd Jerwsalem, a syrthiodd Jwda: oherwydd eu tafod hwynt a'u gweithredoedd sydd yn erbyn yr ARGLWYDD, i gyffroi llygaid ei ogoniant ef.
9
Dull eu hwynebau hwynt a dystiolaetha yn eu herbyn; a'u pechod fel Sodom a fynegant, ac ni chelant: gwae eu henaid, canys talasant ddrwg iddynt eu hunain.
10
Dywedwch mai da fydd i'r cyfiawn: canys ffrwyth eu gweithredoedd a fwynhânt.
11
Gwae yr anwir, drwg fydd iddo: canys gwobr ei ddwylo ei hun a fydd iddo.
12
Fy mhobl sydd â'u treiswyr yn fechgyn, a gwragedd a arglwyddiaetha arnynt. O fy mhobl, y rhai a'th dywysant sydd yn peri i ti gyfeiliorni, a ffordd dy lwybrau a ddistrywiant.
13
Yr ARGLWYDD sydd yn sefyll i ymddadlau, ac yn sefyll i farnu y bobloedd.
14
Yr ARGLWYDD a ddaw i farn â henuriaid ei bobl, a'u tywysogion: canys chwi a borasoch y winllan; anrhaith y tlawd sydd yn eich tai.
15
Beth sydd i chwi a guroch ar fy mhobl, ac a faloch ar wynebau y tlodion? medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd.
16
A'r ARGLWYDD a ddywedodd, Oherwydd balchïo o ferched Seion, a rhodio â gwddf estynedig, ac â llygaid gwamal, gan rodio a rhygyngu wrth gerdded, a thrystio â'u traed:
17
Am hynny y clafra yr ARGLWYDD gorunau merched Seion; a'r ARGLWYDD a ddinoetha eu gwarthle hwynt.
18
Yn y dydd hwnnw y tyn yr ARGLWYDD ymaith addurn yr esgidiau, y rhwydwaith hefyd, a'r lloerawg wisgoedd,
19
Y cadwynau, a'r breichledau, a'r moledau,
20
Y penguwch, ac addurn y coesau, a'r ysnodennau, a'r dwyfronegau, a'r clustlysau,
21
Y modrwyau, ac addurn y trwyn,
22
Y gwisgoedd symudliw, a'r mentyll, a'r misyrnau, a'r crychnodwyddau,
23
Y drychau hefyd, a'r lliain meinwych, a'r cocyllau, a'r gynau.
24
A bydd yn lle perarogl, ddrewi; bydd hefyd yn lle gwregys, rwygiad; ac yn lle iawn drefn gwallt, foelni; ac yn lle dwyfronneg, gwregys o sachliain; a llosgfa yn lle prydferthwch.
25
Dy wŷr a syrthiant gan y cleddyf, a'th gadernid trwy ryfel.
26
A'i phyrth hi a ofidiant, ac a alarant: a hithau yn anrheithiedig a eistedd ar y ddaear.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66