bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Isaiah 2
Isaiah 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 3 →
1
Y Gair yr hwn a welodd Eseia mab Amos, am Jwda a Jerwsalem.
2
A bydd yn y dyddiau diwethaf, fod mynydd tŷ yr ARGLWYDD wedi ei baratoi ym mhen y mynyddoedd, ac yn ddyrchafedig goruwch y bryniau; a'r holl genhedloedd a ddylifant ato.
3
A phobloedd lawer a ânt ac a ddywedant, Deuwch, ac esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD, i dŷ DUW Jacob; ac efe a'n dysg ni yn ei ffyrdd, a ni a rodiwn yn ei lwybrau ef; canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
4
Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd, ac a gerydda bobloedd lawer: a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau, a'u gwaywffyn yn bladuriau: ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.
5
Tŷ Jacob, deuwch, a rhodiwn yng ngoleuni yr ARGLWYDD.
6
Am hynny y gwrthodaist dy bobl, tŷ Jacob, am eu bod wedi eu llenwi allan o'r dwyrain, a'u bod yn swynwyr megis y Philistiaid, ac mewn plant dieithriaid yr ymfodlonant.
7
A'u tir sydd gyflawn o arian ac aur, ac nid oes diben ar eu trysorau; a'u tir sydd lawn o feirch, ac nid oes diben ar eu cerbydau.
8
Eu tir hefyd sydd lawn o eilunod; i waith eu dwylo eu hun yr ymgrymant, i'r hyn a wnaeth eu bysedd eu hun:
9
A'r gwrêng sydd yn ymgrymu, a'r bonheddig yn ymostwng: am hynny na faddau iddynt.
10
Dos i'r graig, ac ymgûdd yn y llwch, rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag gogoniant ei fawredd ef.
11
Uchel drem dyn a iselir, ac uchder dynion a ostyngir; a'r ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.
12
Canys dydd ARGLWYDD y lluoedd fydd ar bob balch ac uchel, ac ar bob dyrchafedig; ac efe a ostyngir:
13
Ac ar holl uchel a dyrchafedig gedrwydd Libanus, ac ar holl dderw Basan,
14
Ac ar yr holl fynyddoedd uchel, ac ar yr holl fryniau dyrchafedig,
15
Ac ar bob tŵr uchel, ac ar bob magwyr gadarn,
16
Ac ar holl longau Tarsis, ac ar yr holl luniau dymunol.
17
Yna yr iselir uchelder dyn, ac y gostyngir uchder dynion: a'r ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.
18
A'r eilunod a fwrw efe ymaith yn hollol.
19
A hwy a ânt i dyllau y creigiau, ac i ogofau llychlyd, rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag gogoniant ei fawredd ef, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear.
20
Yn y dydd hwnnw y teifl dyn ei eilunod arian, a'i eilunod aur, y rhai a wnaethant iddynt i'w haddoli, i'r wadd ac i'r ystlumod:
21
I fyned i agennau y creigiau, ac i gopâu y clogwyni, rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag gogoniant ei fawredd ef, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear.
22
Peidiwch chwithau â'r dyn yr hwn sydd â'i anadl yn ei ffroenau: canys ym mha beth y gwneir cyfrif ohono?
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66