bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Isaiah 24
Isaiah 24
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 25 →
1
Wele yr ARGLWYDD yn gwneuthur y ddaear yn wag, ac yn ei difwyno hi; canys efe a ddadymchwel ei hwyneb hi ac a wasgar ei thrigolion.
2
Yna bydd yr un ffunud i'r bobl ac i'r offeiriad, i'r gwas ac i'w feistr, i'r llawforwyn ac i'w meistres, i'r prynydd ac i'r gwerthydd, i'r hwn a roddo ac i'r hwn a gymero echwyn, i'r hwn a gymero log ac i'r hwn a dalo log iddo.
3
Gan wacáu y gwacéir, a chan ysbeilio yr ysbeilir y wlad; canys yr ARGLWYDD a lefarodd y gair hwn.
4
Galarodd a diflannodd y ddaear, llesgaodd a dadwinodd y byd, dihoenodd pobl feilchion y ddaear.
5
Y ddaear hefyd a halogwyd dan ei phreswylwyr: canys troseddasant y cyfreithiau, newidiasant y deddfau, diddymasant y cyfamod tragwyddol.
6
Am hynny melltith a ysodd y tir, a'r rhai oedd yn trigo ynddo a anrheithiwyd; am hynny preswylwyr y tir a losgwyd, ac ychydig ddynion a adawyd.
7
Galarodd y gwin, llesgaodd y winwydden, y rhai llawen galon oll a riddfanasant.
8
Darfu llawenydd y tympanau, peidiodd trwst y gorfoleddwyr, darfu hyfrydwch y delyn.
9
Nid yfant win dan ganu; chwerw fydd diod gref i'r rhai a'i hyfant.
10
Drylliwyd y ddinas wagedd; caewyd pob tŷ, fel na ddeler i mewn.
11
Y mae llefain am win yn yr heolydd; tywyllodd pob llawenydd, hyfrydwch y tir a fudodd ymaith.
12
Yn y ddinas y gadawyd anghyfanheddrwydd, ag anrhaith hefyd y dryllir y porth.
13
Oblegid bydd o fewn y tir, yng nghanol y bobloedd, megis ysgydwad olewydden, ac fel grawn lloffa pan ddarffo cynhaeaf y gwin.
14
Hwy a ddyrchafant eu llef, ac a ganant; oherwydd godidowgrwydd yr ARGLWYDD, bloeddiant o'r môr.
15
Am hynny gogoneddwch yr ARGLWYDD yn y dyffrynnoedd, enw ARGLWYDD DDUW Israel yn ynysoedd y môr.
16
O eithafoedd y ddaear y clywsom ganiadau, sef gogoniant i'r cyfiawn. A dywedais, O fy nghulni, O fy nghulni, gwae fi! y rhai anffyddlon a wnaethant yn anffyddlon, ie, gwnaeth yr anffyddlon o'r fath anffyddlonaf.
17
Dychryn, a ffos, a magl fydd arnat ti, breswylydd y ddaear.
18
A'r hwn a ffy rhag trwst y dychryn, a syrth yn y ffos; a'r hwn a gyfodo o ganol y ffos, a ddelir yn y fagl: oherwydd ffenestri o'r uchelder a agorwyd, a seiliau y ddaear sydd yn crynu.
19
Gan ddryllio yr ymddrylliodd y ddaear, gan rwygo yr ymrwygodd y ddaear, gan symud yr ymsymudodd y ddaear.
20
Y ddaear gan symud a ymsymud fel meddwyn, ac a ymsigla megis bwth; a'i chamwedd fydd drwm arni; a hi a syrth, ac ni chyfyd mwy.
21
Yr amser hwnnw yr ymwêl yr ARGLWYDD â llu yr uchel, yr hwn sydd yn yr uchelder, ac â brenhinoedd y ddaear ar y ddaear.
22
A chesglir hwynt fel y cesglir carcharorion mewn daeardy, a hwy a garcherir mewn carchar, ac ymhen llawer o ddyddiau yr ymwelir â hwynt.
23
Yna y lleuad a wrida, a'r haul a gywilyddia, pan deyrnaso ARGLWYDD y lluoedd ym mynydd Seion ac yn Jerwsalem, ac o flaen ei henuriaid mewn gogoniant.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66