bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Isaiah 59
Isaiah 59
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 58
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 60 →
1
Wele, ni fyrhawyd llaw yr ARGLWYDD, fel na allo achub; ac ni thrymhaodd ei glust ef, fel na allo glywed:
2
Eithr eich anwireddau chwi a ysgarodd rhyngoch chwi a'ch DUW, a'ch pechodau a guddiasant ei wyneb oddi wrthych, fel na chlywo.
3
Canys eich dwylo a halogwyd â gwaed, a'ch bysedd â chamwedd: eich gwefusau a draethasant gelwydd, eich tafod a fyfyriodd anwiredd.
4
Nid oes a alwo am gyfiawnder, nac a ddadlau dros y gwirionedd: y maent yn gobeithio mewn gwagedd, ac yn dywedyd celwydd; yn beichiogi ar flinder, ac yn esgor ar anwiredd.
5
Wyau asb a ddodwasant, a gweoedd y pryf copyn a weant: yr hwn a fwyty o'u hwyau a fydd farw, a'r hwn a sathrer a dyr allan yn wiber.
6
Eu gweoedd hwy ni byddant yn wisgoedd, ac nid ymddilladant â'u gweithredoedd: eu gweithredoedd ydynt weithredoedd anwiredd, a gwaith trawster sydd yn eu dwylo.
7
Eu traed a redant i ddrygioni, a hwy a frysiant i dywallt gwaed gwirion: eu meddyliau sydd feddyliau anwir; distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd hwynt.
8
Ffordd heddwch nid adwaenant; ac nid oes gyfiawnder yn eu llwybrau: gwnaethant iddynt lwybrau ceimion: pwy bynnag a rodio yno, nid edwyn heddwch.
9
Am hynny y ciliodd barnedigaeth oddi wrthym, ac ni'n goddiweddodd cyfiawnder: disgwyliasom am oleuni, ac wele dywyllwch; am ddisgleirdeb, ac yn y fagddu yr ydym yn rhodio.
10
Palfalasom fel deillion â'r pared, ie, fel rhai heb lygaid y palfalasom: tramgwyddasom ar hanner dydd fel y cyfnos; oeddem mewn lleoedd anghyfannedd fel rhai meirw.
11
Nyni oll a ruasom fel eirth, a chan riddfan y griddfanasom fel colomennod: disgwyliasom am farn, ac nid oes dim: am iachawdwriaeth, ac ymbellhaodd oddi wrthym.
12
Canys amlhaodd ein camweddau ger dy fron, a thystiolaethodd ein pechodau i'n herbyn: oherwydd ein camweddau sydd gyda ni; a'n hanwireddau, ni a'u hadwaenom:
13
Camweddu, a dywedyd celwydd yn erbyn yr ARGLWYDD, a chilio oddi ar ôl ein DUW, dywedyd trawster ac anufudd‐dod, myfyrio a thraethu o'r galon eiriau gau.
14
Barn hefyd a droed yn ei hôl, a chyfiawnder a safodd o hirbell: canys gwirionedd a gwympodd yn yr heol, ac uniondeb ni all ddyfod i mewn.
15
Ie, gwirionedd sydd yn pallu, a'r hwn sydd yn cilio oddi wrth ddrygioni a'i gwna ei hun yn ysbail: a gwelodd yr ARGLWYDD hyn, a drwg oedd yn ei olwg nad oedd barn.
16
Gwelodd hefyd nad oedd gŵr, a rhyfeddodd nad oedd eiriolwr: am hynny ei fraich a'i hachubodd, a'i gyfiawnder ei hun a'i cynhaliodd.
17
Canys efe a wisgodd gyfiawnder fel llurig, a helm iachawdwriaeth am ei ben; ac a wisgodd wisgoedd dial yn ddillad; ie, gwisgodd sêl fel cochl.
18
Yn ôl y gweithredoedd, ie, yn eu hôl hwynt, y tâl efe, llid i'w wrthwynebwyr, taledigaeth i'w elynion; taledigaeth i'r ynysoedd a dâl efe.
19
Felly yr ofnant enw yr ARGLWYDD o'r gorllewin, a'i ogoniant ef o godiad haul. Pan ddelo y gelyn i mewn fel afon, Ysbryd yr ARGLWYDD a'i hymlid ef ymaith.
20
Ac i Seion y daw y Gwaredydd, ac i'r rhai a droant oddi wrth anwiredd yn Jacob, medd yr ARGLWYDD.
21
A minnau, dyma fy nghyfamod â hwynt, medd yr ARGLWYDD: Fy ysbryd yr hwn sydd arnat, a'm geiriau y rhai a osodais yn dy enau, ni chiliant o'th enau, nac o enau dy had, nac o enau had dy had, medd yr ARGLWYDD, o hyn allan byth.
← Chapter 58
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 60 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66