bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Isaiah 65
Isaiah 65
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 64
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 66 →
1
Ceisiwyd fi gan y rhai ni ymofynasant amdanaf; cafwyd fi gan y rhai ni'm ceisiasant: dywedais, Wele fi, wele fi, wrth genhedlaeth ni alwyd ar fy enw i.
2
Estynnais fy llaw ar hyd y dydd at bobl wrthryfelgar, y rhai a rodient y ffordd nid oedd dda, yn ôl eu meddyliau eu hun;
3
Pobl y rhai a'm llidient i yn wastad yn fy wyneb; yn aberthu mewn gerddi, ac yn arogldarthu ar allorau priddfeini;
4
Y rhai a arhoent ymysg y beddau, ac a letyent yn y mynwentau; y rhai a fwytaent gig moch, ac isgell ffiaidd bethau yn eu llestri;
5
Y rhai a ddywedent, Saf ar dy ben dy hun; na nesâ ataf fi: canys sancteiddiach ydwyf na thydi. Y rhai hyn sydd fwg yn fy ffroenau, tân yn llosgi ar hyd y dydd.
6
Wele, ysgrifennwyd ger fy mron: ni thawaf; eithr talaf, ie, talaf i'w mynwes,
7
Eich anwireddau chwi, ac anwireddau eich tadau ynghyd, medd yr ARGLWYDD, y rhai a arogldarthasant ar y mynyddoedd, ac a'm cablasant ar y bryniau: am hynny y mesuraf eu hen weithredoedd hwynt i'w mynwes.
8
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Megis y ceir gwin newydd mewn swp o rawn, ac y dywedir, Na ddifwyna ef; canys y mae bendith ynddo: felly y gwnaf er mwyn fy ngweision, na ddistrywiwyf hwynt oll.
9
Eithr dygaf had allan o Jacob, ac o Jwda un a etifeddo fy mynyddoedd: a'm hetholedigion a'i hetifeddant, a'm gweision a drigant yno.
10
Saron hefyd fydd yn gorlan defaid, a glyn Achor yn orweddfa gwartheg, i'm pobl y rhai a'm ceisiasant.
11
Ond chwi yw y rhai a wrthodwch yr ARGLWYDD, a anghofiwch fy mynydd sanctaidd, a arlwywch fwrdd i'r llu acw, ac a lenwch ddiod‐offrwm i'r niferi acw.
12
Rhifaf chwithau i'r cleddyf, a chwi oll a ymostyngwch i'r lladdedigaeth: oherwydd pan elwais chwi, nid atebasoch; pan leferais, ni wrandawsoch; ond gwnaethoch ddrygioni yn fy ngolwg, a dewisasoch yr hyn nid oedd dda gennyf.
13
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele, fy ngweision a fwytânt, a chwithau a newynwch: wele, fy ngweision a yfant, a chwithau a sychedwch: wele, fy ngweision a lawenychant, a chwithau a fydd cywilydd arnoch:
14
Wele, fy ngweision a ganant o hyfrydwch calon, a chwithau a waeddwch rhag gofid calon, ac a udwch rhag cystudd ysbryd.
15
A'ch enw a adewch yn felltith gan fy etholedigion: canys yr ARGLWYDD DDUW a'th ladd di, ac a eilw ei weision ar enw arall:
16
Fel y bo i'r hwn a ymfendigo ar y ddaear, ymfendigo yn NUW y gwirionedd; ac i'r hwn a dyngo ar y ddaear, dyngu i DDUW y gwirionedd: am anghofio y trallodau gynt, ac am eu cuddio hwynt o'm golwg.
17
Canys wele fi yn creu nefoedd newydd, a daear newydd: a'r rhai cyntaf ni chofir, ac ni feddylir amdanynt.
18
Eithr llawenychwch a gorfoleddwch yn dragywydd yn y pethau a grewyf fi: canys wele fi yn creu Jerwsalem yn orfoledd, a'i phobl yn llawenydd.
19
Gorfoleddaf hefyd yn Jerwsalem, a llawenychaf yn fy mhobl: ac ni chlywir ynddi mwyach lais wylofain, na llef gwaedd.
20
Ni bydd o hynny allan blentyn o oed, na hynafgwr, yr hwn ni chyflawnodd ei ddyddiau: canys y bachgen fydd marw yn fab canmlwydd; ond y pechadur yn fab canmlwydd a felltithir.
21
A hwy a adeiladant dai, ac a'u cyfanheddant; plannant hefyd winllannoedd, a bwytânt eu ffrwyth.
22
Nid adeiladant hwy, fel y cyfanheddo arall; ac ni phlannant, fel y bwytao arall: eithr megis dyddiau pren y bydd dyddiau fy mhobl, a'm hetholedigion a hir fwynhânt waith eu dwylo.
23
Ni lafuriant yn ofer, ac ni chenhedlant i drallod: canys had rhai bendigedig yr ARGLWYDD ydynt hwy, a'u hepil gyda hwynt.
24
A bydd, cyn galw ohonynt, i mi ateb: ac a hwy eto yn llefaru, mi a wrandawaf.
25
Y blaidd a'r oen a borant ynghyd; y llew fel ych a bawr wellt; a'r sarff, llwch fydd ei bwyd hi: ni ddrygant ac ni ddistrywiant yn fy holl fynydd sanctaidd, medd yr ARGLWYDD.
← Chapter 64
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 66 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66